Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Dydd Gŵyl Dewi: 1 Mawrth - Gwnewch y Pethau Bychain. Beth am gymryd rhan!; Cyfrifoldebau’r Gweinidogion; Ton fawr o ymweliadau mordeithio â Chymru yn 2023; Cael y Pethau Pwysig yn eu lle: lansio cronfa twristiaeth £5 miliwn; Helpu busnesau i dorri costau ynni: Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru yn lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Newydd; Dim ond tair wythnos sydd gennych ar ôl i fynegi’ch barn ar sut i sicrhau chwarae teg ar gyfer llety i ymwelwyr yng Nghymru; Mwy na £5.4 miliwn ar gyfer Amgueddfa Pêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam; Dathlu Dydd Miwsig Cymru: £100,000 ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad; Annog cefnogwyr i ddathlu Diwrnod Mynyddoedd Cambria ar 28 Chwefror; Eisteddfod Genedlaethol 2023: 5 - 12 Awst; Sioe Frenhinol Cymru 2023: 24 - 27 Gorffennaf; FOCUS Cymru 2023: 4 - 6 Mai, Wrecsam; Troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru; Arolwg o’r Gwasanaethau Cynghori ar Fewnfudo a ddarperir yng Nghymru
Dydd Gŵyl Dewi: 1 Mawrth - Gwnewch y Pethau Bychain. Beth am gymryd rhan!
Ddydd Gŵyl Dewi eleni, byddwn yn dathlu’n nawddsant a phopeth Cymreig drwy gofio’i eiriau arweiniol – ‘gwnewch y pethau bychain’.
Byddwn yn dathlu’n cenedl ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddangos y pethau da rydym yn eu gwneud dros ein gilydd, dros ein cymunedau a thros ein byd.
Ymunwch â ni Ddydd Gŵyl Dewi eleni i wneud eich pethau bychain eich hunain, a’u rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol. Ewch i i gael ysbrydoliaeth am y pethau bychain y gallwch eu gwneud ar 1 Mawrth.
Cafodd y brif ffilm ar gyfer yr ymgyrch ei rhannu ar ein sianeli cymdeithasol @walesdotcom: Facebook; Instagram; Twitter.
Mae croeso ichi rannu’r neges hon gyda’ch rhanddeiliaid – gallent fod yn fusnesau, yn grwpiau neu’n sefydliadau yng Nghymru a thramor a fyddai’n gallu helpu i roi sylw ehangach i’n cynnwys a chymryd rhan yn yr ymgyrch.
Mae asedau y gallwch eu defnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol ar gael yn ein Pecyn Gŵyl Dewi; Byddwch yn barod i ddathlu ac i ymuno â ni yn yr ymgyrch #PethauBychain a #RandomActsofWelshness a #GwylDewi / #StDavidsDay.
Mae’r ymgyrch Bwyd a Diod o Gymru #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste yn ôl hefyd Ddydd Gŵyl Dewi eleni er mwyn cefnogi bwyd a diod o Gymru. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma #CaruCymruCaruBlas | Busnes Cymru – Bwyd a diod (llyw.cymru).
Cyfrifoldebau’r Gweinidogion
Mae’r datganiad hwn yn tynnu sylw Aelodau at newid bach i gyfrifoldebau Gweinidogol o fewn portffolio’r Economi.
Bydd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, Dawn Bowden, yn arwain bellach ar faterion yn ymwneud â thwristiaeth yng Nghymru a thwristiaeth i Gymru.
Nid oes unrhyw newid pellach i’r Rhestr o Gyfrifoldebau Gweinidogol. Gallwch weld y rhestr yma.
Ton fawr o ymweliadau mordeithio â Chymru yn 2023
Eleni, bydd Cymru’n croesawu’r nifer uchaf o fordeithiau hyd yma, gyda disgwyl i 91 o longau alw heibio i borthladdoedd yng Nghymru.
Bydd yr ymweliadau mordeithio’n cynnwys mwy nag 80,000 o deithwyr a 39,000 o griw, gan gynnig incwm a allai fod yn werth £8.3 miliwn i economi Cymru drwy wariant dydd teithwyr.
Bydd ymweliadau cyntaf tymor 2023 ar 6 Ebrill, pan fydd yr Hurtigruten Spitzbergen yn hwylio i Abergwaun, tra bydd y Viking Venus yn hwylio i Gaergybi.
Am y tro cyntaf eleni, bydd Caergybi yn croesawu llong fawreddog MS Queen Victoria ym mis Mehefin – sef ymweliad cyntaf y llong, a all gludo 3,000 o deithwyr, â’r porthladd ers perchnogaeth newydd Stenaline o’r porthladd dŵr dwfn yng Nghaergybi.
Mae mordeithiau yn fusnes mawr yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru/Cruise Wales wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu a hyrwyddo syniadau newydd ar gyfer teithiau o fewn Cymru i deithwyr, gan arddangos mwy o atyniadau’r wlad i longau mordeithio a threfnwyr lleol. Mae’r daith Arian, Glo ac Iechyd Da a grëwyd gan Barc Treftadaeth Cwm Rhondda, Y Bathdy Brenhinol a Chastell Hensol yn ne Cymru yn enghraifft o fusnesau yn cydweithio i ddatblygu taith ddydd wreiddiol a chyffrous.
Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn seilwaith hefyd wedi helpu i ddenu mwy o ymweliadau mordeithio i alw yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dyfarnu £147,000 trwy’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn 2017 ar gyfer adeiladu pontŵn tendio arbennig ar gyfer llongau mordeithio a chyfleusterau glanio cysylltiedig yn Harbwr Abergwaun, sydd wedi denu llongau mordeithio mwy i’r porthladd.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Ton fawr o ymweliadau mordeithio â Chymru yn 2023 | LLYW.CYMRU.
Cael y Pethau Pwysig yn eu lle: lansio cronfa twristiaeth £5 miliwn
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi lansio cronfa dwristiaeth Y Pethau Pwysig gwerth £5 miliwn ar gyfer 2023 i 2025.
Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ar draws Cymru ac yn agored i awdurdodau lleol ac awdurdodau’r parciau cenedlaethol.
Mae prosiectau blaenorol a ariannwyd gan y Pethau Pwysig wedi cynnwys pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gwell cyfleusterau toiledau ac i geir, cyfleusterau Changing Places hygyrch a gwell arwyddion a phaneli dehongli.
Bydd Y Pethau Pwysig hefyd yn cefnogi prosiectau sy'n gwella hygyrchedd mewn safleoedd a'r rhai sy'n gwneud eu cyrchfannau'n fwy amgylcheddol gynaliadwy.
2023 yw Blwyddyn Llwybrau Cymru sy'n rhoi cyfle i'r sector twristiaeth arddangos atyniadau, tirweddau ac arfordir drwy ffyrdd a llwybrau. Bydd Y Pethau Pwysig yn annog Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol i ystyried y profiad cyfan i ymwelwyr a'r seilwaith hanfodol sy'n gwneud profiad llwybr yn gyflawn, o lwybrau, i barcio i sicrhau bod cyfleusterau'n hygyrch i bawb.
Y dyddiad cau ar gyfer datganiadau o ddiddordeb yw 16 Mawrth 2023. Mae’r manylion llawn i’w gweld yma: Cael y Pethau Pwysig yn eu lle: lansio cronfa twristiaeth £5 miliwn | LLYW.CYMRU.
Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru yn lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Newydd
Mae cynllun mawr benthyciadau newydd i gefnogi busnesau yng Nghymru i dorri eu costau ynni drwy gymryd camau i ddod yn wyrddach ac yn fwy ynni-effeithlon wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru.
Gyda’r uchelgais i fuddsoddi £10 miliwn dros y tair blynedd nesaf, bydd y Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd newydd, a fydd yn cynnig cyfraddau llog gostyngol a dyddiadau ad-dalu hyblyg, yn helpu busnesau i wneud gwelliannau a fydd yn eu galluogi i leihau eu hôl troed carbon, gan gefnogi taith Cymru i fod yn sero net erbyn 2050.
Mae prosiectau a allai gael eu cefnogi gan y benthyciadau yn cynnwys:
- buddsoddi mewn technoleg ynni adnewyddadwy
- gwella ffabrig adeiladau ac effeithlonrwydd ynni o fewn yr adeilad
- uwchraddio systemau neu beiriannau i leihau'r defnydd o ynni
- gwelliannau / lleihau y defnydd o ddŵr a gwastraff
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.
Dim ond tair wythnos sydd gennych ar ôl i fynegi’ch barn ar sut i sicrhau chwarae teg ar gyfer llety i ymwelwyr yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar sefydliadau i ymateb i’w hymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pawb sy’n darparu llety i ymwelwyr yng Nghymru. Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth ddarparwyr o bob maes ar draws y diwydiant, gan gynnwys darparwyr llety gwely a brecwast, tai llety a gwestai, llety hunanarlwyo, safleoedd gwersylla a glampio, parciau carafannau a theithio, pentrefi gwyliau ac unrhyw fusnesau eraill sy'n darparu ar gyfer ymwelwyr yng Nghymru.
Y prif nod yw sicrhau chwarae teg i bob busnes yn y sector sy’n darparu llety i ymwelwyr. Mae'r pryder am ddiffyg chwarae teg wedi bod yn destun trafod ers tro byd, ac mae yna bryderon nad yw rhai rhannau o'r sector yn bodloni nac yn cydymffurfio â'r rhwymedigaethau statudol sydd arnynt.
I gael rhagor o wybodaeth ac i fynegi’ch barn ac ymateb i’r ymgynghoriad, ewch i: Cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru | LLYW.CYMRU.
Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 17 Mawrth 2023.
Mwy na £5.4 miliwn ar gyfer Amgueddfa Pêl-droed newydd i Gymru yn Wrecsam
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £5.45 miliwn ychwanegol i Amgueddfa Bêl-droed newydd Cymru yn Wrecsam.
Mae'r arian yn rhan o gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Gwnaeth Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden y cyhoeddiad ar ymweliad â'r ddinas ac fe ddaw ar adeg pan fo diddordeb mewn pêl-droed yng Nghymru yn uwch nag erioed.
Bydd yr amgueddfa, a fydd yn Amgueddfa Wrecsam ar ôl ailddatblygiad sylweddol o'r adeilad, yn dathlu treftadaeth bêl-droed Cymru ac yn helpu i adeiladu etifeddiaeth yn sgil cyfraniad y genedl yng Nghwpan y Byd FIFA y dynion 2022. Bydd hyn yn sicrhau bod ei hanes yn cael ei werthfawrogi a bod straeon yn cael eu cofnodi ar gyfer cenedlaethau o chwaraewyr a chefnogwyr y dyfodol.
Darllenwch y datganiad llawn a’r datganiad ysgrifenedig.
Dathlu Dydd Miwsig Cymru: £100,000 ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad
Wrth i gigs a digwyddiadau gael eu cynnal ledled y wlad ar wythfed Dydd Miwsig Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod cyllid ychwanegol ar gael er mwyn i bobl fedru mwynhau hyd yn oed mwy o gerddoriaeth.
Bydd y cyllid ychwanegol yn creu cynllun grant i ddod â phobl at ei gilydd, gyda’r arian yn targedu cerddoriaeth ar lawr gwlad, hyrwyddwyr lleol, a lleoliadau bach. Bydd y cymorth hwn yn helpu mwy o bobl i gynnal gigs yn eu cymunedau lleol, gan wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i fwynhau cerddoriaeth o Gymru ac i ddefnyddio’u Cymraeg.
Mae rhagor o fanylion i’w gweld yma: Dathlu Dydd Miwsig Cymru: £100,000 ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg ar lawr gwlad | LLYW.CYMRU.
Annog cefnogwyr i ddathlu Diwrnod Mynyddoedd Cambria ar 28 Chwefror
Mae busnesau, trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd yn cael eu hannog i ddathlu ail Ddiwrnod Mynyddoedd Cambria ar 28 Chwefror.
Gofynnir i gefnogwyr Mynyddoedd Cambria chwifio'r faner ar y cyfryngau cymdeithasol drwy rannu eu hoff ddelwedd, profiad neu le a defnyddio #diwrnodmynyddoeddcambrian a #mynyddoeddcambrian yn eu negeseuon ar Facebook, Twitter neu Instagram.
"Efallai y gall cefnogwyr ddangos gwedd fodern inni ar Fynyddoedd Cambria neu ddangos rhywbeth bythgofiadwy a ddigwyddodd ar y mynyddoedd ysblennydd hyn," dywedodd Dafydd Wyn Morgan, rheolwr prosiectau Menter Mynyddoedd Cambria.
"Mae cynifer o themâu gwych yn gysylltiedig â Mynyddoedd Cambria ar hyn o bryd, gan gynnwys natur, treftadaeth, llwybrau ac awyr dywyll. Mae cynnyrch â brand lleol yn boblogaidd hefyd, a rhaid peidio ag anghofio’r harddwch naturiol!
"Gobeithio y bydd cefnogwyr yn ymuno â ni i ddathlu'r rhan anhygoel hon o Gymru, ym mlwyddyn 'LlwybrauCymru'."
Mae Menter Mynyddoedd Cambria wedi creu fideo arbennig ar y cyfryngau cymdeithasol y gall cefnogwyr ei defnyddio’n rhad ac am ddim i hyrwyddo llwybrau ym Mynyddoedd Cambria. Beth am gael cip ar lwybrau Mynyddoedd Cambria sy’n cael eu dathlu ar fideos "Llwybrau: Wales, by Trails" videos.
Eisteddfod Genedlaethol 2023: 5 - 12 Awst
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd rhwng 5 a 12 Awst 2023.
Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan.
Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd y mae’n eu cynnig i fusnesau i’w gweld yma: Eisteddfod Genedlaethol 2023 | Busnes Cymru (gov.wales).
Sioe Frenhinol Cymru 2023: 24 - 27 Gorffennaf
Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2023 rhwng 24 Gorffennaf a 27 Gorffennaf.
Yn ogystal â phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau dangos da byw, â chystadleuwyr yn teithio o fannau pell ac agos i gystadlu, mae gan y sioe rywbeth o ddiddordeb i bawb, diolch i’w hamrywiaeth eang o weithgareddau yn cynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod, a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosiadau cyffrous.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Sioe Frenhinol Cymru 2023 | Busnes Cymru (gov.wales).
FOCUS Cymru 2023: 4 - 6 Mai, Wrecsam
Mae FOCUS Cymru yn ŵyl ryngwladol sy’n cael ei chynnal mewn nifer o leoliadau. Mae’n tynnu sylw’r diwydiant cerddoriaeth at y talentau newydd sydd gan Gymru i'w cynnig i'r byd, ac yn rhoi llwyfan i ddetholiad o'r bandiau newydd gorau o bob cwr o’r byd. Bydd yn cael ei chynnal rhwng 4 a 6 Mai, gan groesawu 20,000 o bobl. Bydd dros 250+ o berfformiadau o Gymru ac o bedwar ban byd i’w gweld yn Wrecsam.
Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma: FOCUS Cymru 2023.
Troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru
Mae’r rhan fwyaf o wastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu yng Nghymru yn cael ei droi’n ynni adnewyddadwy sy’n pweru cartrefi a chymunedau Cymru. Pwerus iawn, ynte? A gallwch chi ein helpu i fynd gam ymhellach. Ewch i Troi gwastraff bwyd yn bŵer i Gymru | Cymru yn Ailgylchu (walesrecycles.org.uk) i weld awgrymiadau, ffeithiau a straeon pwerus.
Arolwg o’r Gwasanaethau Cynghori ar Fewnfudo a ddarperir yng Nghymru
Mae arolwg yn cael ei chynnal o’r Gwasanethau Cynghori ar Fewnfudo a ddarperir yng Nghymru er mwyn gofyn barn busnesau ac unigolion am y y gwasanaethau cynghori ar fewnfudo a ddarperir yng Nghymru, a’r galw amdanyn nhw.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ein helpu i weld a yw’r busnesau sydd am recriwtio o dramor yn cael yr help sydd ei angen arnyn nhw i wneud hynny ac a yw eu rhesymau dros beidio â recriwtio o dramor yn cynnwys diffyg cyngor/help ar fewnfudo.
Byddwn yn casglu gwybodaeth hefyd oddi wrth y bobl hynny yng Nghymru sydd yma ar fisa, am eu profiadau wrth ddefnyddio’r system fewnfudo, beth fyddai’n eu helpu i estyn eu fisa neu newid eu fisa, ac a fyddai’r help hwnnw’n cynnwys cyngor ar fewnfudo. I gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi’r arolwg, ewch i: Arolwg o’r gwasanaethau cynghori ar fenwfudo a ddarperir yng Nghymru urv.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|