Dathlu Llwyddiant Datblygu Gwledig - Rhifyn 11 - Astudiaethau Achos LEADER

Rhannu Llwyddiant - Rhifyn 11 - Astudiaethau Achos LEADER

 
 

Uned Cefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru

wrn

Beth fu Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru yn ei wneud?

Gyda'r Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) bellach yn ei blwyddyn Galendr olaf â’r Flwyddyn Ariannol olaf yn prysur agosáu, mae ein rôl wedi esblygu gyda mwy o bwyslais ar ddysgu o arfer gorau a hyrwyddo'r prosiectau sydd wedi derbyn cyllid CDG.
Rydym yn parhau i hyrwyddo'r Rhwydwaith a'r Rhaglen, nid yn unig trwy ein Cylchlythyrau ein hunain ond trwy Gylchlythyrau eraill LlC sy'n berthnasol i'r diwydiant gan gyrraedd oddeutu 88,000 o danysgrifwyr ar draws pob bwletin.

Rydym yn parhau i ychwanegu straeon newyddion i'r wefan a gyda nifer o brosiectau wedi dod i ben neu'n agosáu at eu diwedd, roedd nifer yr astudiaethau achos a ychwanegwyd at y wefan yn 2022 yn fwy na 200 a gellir gweld y cyfan yma.

Mae'r rhifyn hwn yn canolbwyntio ar rai astudiaethau achos sy'n hyrwyddo arferion gorau o gyllid LEADER dros oes y Rhaglen hon.

leader

Cymunedau Arloesol (LEADER) Enghreifftiau Astudiaeth Achos

Pan rydym yn clywed y gair ‘Gwledig’, mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl yn awtomatig am Ffermio a Choedwigaeth. Y Cymunedau Gwledig a’r bobl sy’n byw a gweithio yn y cymunedau hyn, sydd yn aml iawn ddim yn y sector amaethyddol, yw asgwrn cefn Cymru ond sydd fwyaf tebygol o ddioddef effeithiau allgau cymdeithasol.

Nod y gwaith datblygu lleol dan arweiniad y gymuned yw gwella cyflogaeth a sgiliau a menter gymdeithasol. Mae’r bobl leol yn cymryd rhan mewn datblygu prosiectau yn yr ardaloedd sy’n effeithio arnynt, gan ddefnyddio adnoddau yn yr ardal i fynd i’r afael â’r heriau lleol sy’n effeithio ar bobl leol.

Y Gronfa Datblygu Cymunedau Gwledig – mae’n cynnig cymorth i Grwpiau Gweithredu Lleol a sefydliadau cymunedol eraill ar gyfer cyllid buddsoddi ar draws ystod eang o ymyriadau a luniwyd i atal tlodi a lliniaru effaith tlodi ar gymunedau gwledig, gwella amodau a all arwain at swyddi a thwf yn y dyfodol

LEADER – mae’n ariannu mentrau penodol a rhai â ffocws o dan Strategaeth Datblygu Lleol pob un o’r deunaw o Grwpiau Gweithredu Lleol daearyddol ledled Cymru. Mae pum thema LEADER ar gyfer Cymru:

  • Ychwanegu gwerth at hunaniaeth leol ac adnoddau naturiol a diwylliannol
  • Hwyluso datblygiad cyn-fasnachol, partneriaethau busnes a chadwyni cyflenwi byr
  • Ystyried ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau lleol anstatudol
  • Ynni adnewyddadwy ar lefel gymunedol
  • Manteisio ar dechnoleg ddigidol

Ychwanegu Gwerth at Hunaniaeth Leol ac Adnoddau Naturiol a Diwylliannol

nature

Naturefix ar gyfer Iechyd a Lles

Nod prosiect cydweithredu Naturefix ar gyfer Iechyd a Lles gan Coed Lleol, a ddarparwyd yng Ngheredigion, Merthyr a Castell-nedd Port Talbot oedd integreiddio, hyrwyddo a datblygu rhagnodi cymdeithasol ar gyfer iechyd a lles awyr agored yn llawnach yn y sector iechyd yng Nghymru.

leaf

Dysgu i Alluogi Llwyddiant a Chyflawniad

Treialodd y prosiect gyflwyno model hyfforddi ac ymgysylltu Tir Coed yng Ngheredigion a oedd wedi hen ennill ei blwyf wrth dreialu cyflwyno dwyster newydd pum diwrnod cwrs dilyniant, gan arwain at ardystiad i gyfranogwyr.

Datblygodd y rhaglen newydd hon o gwrs hyfforddi 12 wythnos Tir Coed, ac fe'i datblygwyd i gynnig hyfforddiant dilyniant i fuddiolwyr a oedd yn dymuno cynyddu eu sgiliau yn ddiwydiannau cysylltiedig â choetiroedd gwahanol. Roedd hyn yn cynnwys treialu logisteg cyflawni, asesu ac ardystio meysydd pwnc newydd sbon.

Hwyluso Datblygiad Cyn-fasnachol, Partneriaethau Busnes a Chadwyni Cyflenwi Byr

big meadow

Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Big Meadow

Mae'r prosiect, sy'n gweithredu yn Llangynydd, ardal wledig ym mhenrhyn Gŵyr a chanddi fynediad cyfyngedig i siopau neu ddewisiadau ar gyfer bwyd lleol heb ei becynnu, wedi creu cynllun cynhyrchu bwyd cynaliadwy a bywiog ar gyfer ei aelodau, gyda chyfleoedd gwirfoddoli rheolaidd a chyfleoedd gwych i gynnwys y gymuned, a oedd wedi helpu'r prosiect i gael cefnogaeth y PDG.

Pan ymwelon ni â'r safle ar ddiwrnod braf o hydref, cawsom ein tywys o gwmpas y lle gan Abbi, un o gyfarwyddwyr Big Meadow a'i chi a achubwyd, Morris. Roedd Laura, Cydlynydd Gwirfoddoli'r cynllun, yn brysur yn cynaeafu'r llysiau tymhorol sy'n dal i dyfu yn y cae.

mach

Deorfa Wledig

Credir fod nifer o ffyrdd o atgyfnerthu’r economi a’r iaith ar yr un pryd, yn hytrach na’u gweld fel problem.

Mae gwersi i’w dysgu gan rannau eraill o Ewrop ac mae angen i weithio mewn ffyrdd newydd.

Ystyried Ffyrdd Newydd o Ddarparu Gwasanaethau Lleol Anstatudol

covid

Covid-19: Prosiect Cymorth Sefydliadau Gweithredu Cymunedol

Tîm newydd ‘Llesiant Cymunedol’ Tai Clwyd Alyn i’w cynorthwyo i addasu eu dulliau i roi’r gefnogaeth orau i drigolion Gogledd Cymru sydd wedi eu heffeithio’n andwyol gan y pandemig COVID-19. Yn rhan o’r tîm mae swyddogion cymunedol a chyngor am arian/hawliau lles.

Mae wedi ei sefydlu i ddarparu gwasanaeth i drigolion agored i niwed mewn tai cymdeithasol sydd yn byw mewn tlodi. Bydd y peilot yn profi ymagwedd arloesol o ddarparu gwasanaethau sylfaenol anstatudol i bobl agored i niwed yng nghyd-destun y pandemig a’r mesurau cyfyngiadau symud.

recycle

Gwasanaeth Ailgylchu Symudol ar Gyfer Trigolion Cefn Gwlad

Gyda rhai trigolion yn gorfod gwneud taith yno ac yn ôl o 50 milltir i'w depo ailgylchu agosaf, cymeradwyodd Grŵp Gweithredu Lleol Conwy Cynhaliol brosiect i dreialu cynnal gwasanaeth ailgylchu symudol ar gyfer trigolion Conwy Wledig.

Bydd y gwasanaeth wedi ei leoli mewn tri lleoliad ar draws yr ardal wledig – Cerrigydrudion ar y dydd Sul cyntaf bob mis; Glasdir, Llanrwst ar yr ail ddydd Sadwrn bob mis ac yna Llangernyw ar y trydydd dydd Sadwrn bob mis.

Ynni Adnewyddadwy ar Lefel Gymunedol

future

Pobl Ein Dyfodol

CREU DYFODOL CYNALIADWY
Gydag effeithiau newid hinsawdd a diraddio amgylcheddol yn cael eu hadrodd yng nghyfryngau’r byd, mae llawer o bobl ifanc yn bryderus am ddyfodol y blaned. Mae rhai pobl ifanc yn mynd ati i chwilio am ffyrdd o helpu’r amgylchedd, efallai bod eraill yn ymwybodol o’r heriau ond yn teimlo’n ddiymadferth, tra efallai nad yw eraill yn deall digon am ddyfodol carbon isel.

dog

Twristiaeth Cyfeillgar i Gŵn

Mae 65 o gyfranogwyr i’r prosiect gan gynnwys siopau, darparwyr llety, lleoedd i ymweld â bwytai ac yfed yn awr a darparwyr gwasanaeth. Mae tudalen Facebook gydag 1105 o ddilynwyr, Twitter, Instagram a blog yn darparu ffordd ryngweithiol ar gyfer ymwelwyr a busnesau i rannu gwybodaeth.

Manteisio ar Dechnoleg Ddigidol

cere

Ceredigion Cysylltiol

Cafodd y prosiect effaith gadarnhaol ar y sir gan ei fod wedi gweld nifer sylweddol o drigolion a busnesau yn cael eu cefnogi i archwilio i’r opsiynau a’r cyllid o ran gwella cysylltedd band eang. O ganlyniad i'r prosiect hwn, rhoddwyd cymeradwyaeth ar gyfer pwyntiau mynediad Wi-Fi mewn Trefi a fydd yn galluogi i ddadansoddiadau Canol Tref gael eu gwneud a chyfrif nifer yr ymwelwyr yn Aberaeron, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul, Tregaron a Chei Newydd.

code

Llwyddiant I Fyfyrwyr Clwb Codio Conwy Wledig

Bydd y prosiect yn sefydlu rhwydwaith o glybiau codio yng Nghonwy. Bydd y prosiect yn golygu cydweithio rhwng ysgolion cynradd Conwy, Cyngor Sir Conwy a Choleg Meirion-Dwyfor i gyflwyno cyfres o weithdai a chymorth parhaus gyda'r nod o sefydlu clybiau codio mewn ysgolion cynradd ar draws Conwy a darparu cyfleoedd i blant Conwy ddysgu sut i godio.

Yn ogystal â darparu hyfforddiant a chefnogaeth i'r plant a'r athrawon yn yr ysgolion gwledig, prynwyd Chrome books ar gyfer yr ysgolion heb gyflenwad cyfyngedig o offer TG.

Eich Ymwybyddiaeth a'ch Profiad o Gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio (CDCCCh)

coop

Oes gennych brofiad uniongyrchol o ymgysylltu â'r CDCCCh ar lefel y cynllun a / neu brosiectau unigol neu efallai mai dim ond ar y prosiect RhDG y byddwch wedi bod yn ymwybodol o'r ffocws Datblygu Gwledig ar gydweithio.

Comisiynwyd Wavehill i ymgymryd â gwerthusiad o Gynllun Datblygu Cadwyn Cyflenwi a Chydweithio (CSCDS) Llywodraeth Cymru. Bydd y gwerthusiad yn darparu asesiad annibynnol o weithredu'r cynllun a'i effaith.
Roedd y CSCDS yn wahoddiad i sefydliadau mewn cymunedau gwledig yng Nghymru i gydweithio i wneud i bethau newydd ddigwydd a all helpu i gynyddu gwytnwch. Mae'r arolwg hwn yn rhan o werthuso'r cynllun ac mae'n ffordd o ddarganfod a ddylid gwneud hyn a sut y gwnaethpwyd hyn.
Rydym am gael eich adborth!!

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/
walesruralnetwork

Dilynwch ni ar Twitter:

@RGC_WRN

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Rhwydwaith Gwledig Cymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

rgc_wrn

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Rhwydwaith Gwledig Cymru