Cylchlythyr Diogelwch Adeiladau

Ionawr 2023

 
 

Croeso i’n cylchlythyr newydd, wedi’i gynllunio i’ch hysbysu’n rheolaidd am ddatblygiadau ynghylch Diogelwch Adeiladau yng Nghymru. 

Gallwch hefyd ein dilyn ar Twitter gan ddefnyddio @LlC_Cymunedau

Neges gan y Gweinidog Newid Hinsawdd

Julie James

Mae Diogelwch Adeiladau yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Mae'n hanfodol bwysig bod preswylwyr yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi.

Rwy'n gwerthfawrogi bod hwn yn gyfnod anodd iawn i lesddeiliaid a phreswylwyr sy'n gorfod byw mewn adeiladau sydd wedi eu heffeithio. Fodd bynnag, rwy'n ymrwymo i fynd i'r afael â diogelwch adeiladau yng Nghymru a pharhau i fwrw ymlaen â rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru ochr yn ochr â rhaglen ddiwygio sylweddol er mwyn sefydlu trefn ddiogelwch adeiladau addas i'r diben yng Nghymru.

Y Cytundeb Datblygwyr – Yn sail i'r ddogfen gyfreithiol

Rydym bob amser wedi dweud yn glir nad ydym yn disgwyl i lesddeiliaid ysgwyddo'r gost o gywiro materion diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdanynt a rydym yn disgwyl i ddatblygwyr ysgwyddo eu cyfrifoldebau.

Felly, rydym yn falch bod nifer o ddatblygwyr mawr wedi neilltuo arian i newid cladin a mynd i'r afael â gwaith diogelwch tân arall ar eiddo yng Nghymru. Mae'r datblygwyr hyn wedi gosod esiampl y dylai eraill ei dilyn.

Rydym wedi ysgrifennu at dros 50 o ddatblygwyr sydd naill ai wedi ymuno ag Addewid Llywodraeth y DU, neu sy'n gweithredu ar raddfa fawr yng Nghymru. Mae’r mwyafrif o’r rhain wedi cadarnhau and ydynt wedi datblygu adeiladau 11 metr neu drosodd yng Nghymru. O’r gweddill, mae dau wedi cadarnhau eu bod eisoes wedi cymryd camau i fynd i'r afael â risgiau diogelwch tân yng Nghymru, mae dau ddatblygwr eto i ymateb, ac mae'r 11 datblygwr arall wedi ymuno â Chytundeb Datblygwyr Llywodraeth Cymru sy'n ymrwymiad cyhoeddus y byddant yn cywiro problemau diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr a throsodd maent wedi datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf. Y datblygwyr hyn yw Persimmon, Taylor Wimpey, Lovell, McCarthy and Stone, Countryside, Vistry, Redrow, Crest Nicholson, St Modwen, Bellway a Barratt.

Mae’r Cytundeb wedi’i ategu gan ddogfennaeth gyfreithiol ffurfiol, ac rydym yn falch o gadarnhau ei fod wedi'i ddrafftio a'i rannu gyda'r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartref. Rydym yn rhag-weld y bydd y datblygwyr hyn yn derbyn ein telerau cyn hir. Rydym yn falch o ddweud bod sawl datblygwr wedi dechrau ar y gwaith adfer cyn ymrwymo i’r Cytundeb, megis Bellway a Persimmon Homes, fel y gwelais heddiw wrth ymweld â Century Wharf yng Nghaerdydd.

Rydym yn parhau i ymgysylltu a gweithio gyda datblygwyr a phwyso arnynt i gymryd cyfrifoldeb a gweithredu mewn materion diogelwch tân.

Er ei bod yn well bod datblygwyr yn ymgysylltu o'u gwirfodd, rydym wedi egluro y byddwn yn archwilio'r holl opsiynau, gan gynnwys deddfwriaeth, i sicrhau bod datblygwyr yn ysgwyddo eu cyfrifoldebau.

Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru

Mae ein Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru wedi gwahodd Pobl Gyfrifol o adeiladau 11 metr neu drosodd i gyflwyno Mynegiant o Ddiddordeb. Dyma'r man cychwyn ar gyfer cael mynediad at gymorth gan Lywodraeth Cymru. 

Yn y lle cyntaf, cynhelir arolwg digidol, sy'n arfarniad desg. Os yn briodol, cynhelir arolwg mwy manwl i ddeall unrhyw broblemau diogelwch tân penodol yn yr adeilad a bydd yn arwain at adroddiad a fydd yn nodi unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i adfer gallu adeilad i wrthsefyll tân.

Hyd yn hyn, mae 113 o arolygon mwy manwl wedi'u cwblhau, ac rydym yn rhag-weld y bydd gweddill y gwaith arolygu yn cael ei gwblhau'n fuan, yn amodol ar gael mynediad.

Mae'r broses Mynegi Diddordeb wedi rhoi dealltwriaeth o faterion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl o 11 metr a throsodd, ac maen nhw hefyd wedi ein helpu i adnabod y datblygwyr sy'n gyfrifol am adfer yr adeiladau hyn. Fodd bynnag, mae nifer o adeiladau wedi'u nodi lle nad yw'r datblygwr yn hysbys neu wedi rhoi'r gorau i fasnachu. Caiff yr adeiladau hyn eu diffinio fel adeiladau amddifad.

Rydym wedi cytuno i garfan gychwynnol o chwe adeilad amddifad i gael eu hadfer, er mwyn profi ein dull gweithredu, a sicrhau bod adeiladau'n cael eu gwneud mor ddiogel rhag risg tân â phosibl. Mae'r gwaith o ddatblygu'r garfan gyntaf hon wedi dechrau a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach am fanylion y garfan gyntaf hon o adeiladau maes o law.

Bydd y llwybr i gael mynediad at gymorth Llywodraeth Cymru yn parhau drwy ein Cronfa Diogelwch Adeiladau yng Nghymru. Mae'r gronfa hon yn parhau i fod ar agor i Bersonau Cyfrifol Fynegi Diddordeb, sef y man cychwyn ar gyfer cael mynediad at gymorth gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn annog pob Person Cyfrifol i gwblhau Mynegiant o Ddiddordeb ar gyfer eu hadeiladau cyn gynted â phosibl. Yn y lle cyntaf, bydd y gronfa yn caniatáu i arolygon ddigwydd heb unrhyw gost i lesddeiliaid, gan gynnig gwybodaeth am faterion diogelwch tân, a darparu ffurflenni EWS1 ar gyfer yr adeiladau hynny lle mae'r risg o dân yn isel. 

Fel bob amser, rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw lesddeiliaid yn talu am faterion diogelwch tân nad ydynt yn gyfrifol amdanynt, ac nid yw hyn yn gyfyngedig i adeiladau sydd â chladin.

Mae ein Cronfa Diogelwch Adeiladau Cymru yn parhau i fod a bydd yn aros ar agor i bobl gyfrifol gwblhau Mynegiant o Ddiddordeb. Rydym yn annog pob person cyfrifol i gwblhau eu Mynegiant o Ddiddordeb cyn gynted â phosibl.

Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid

Er y symudiadau cadarnhaol a wnaed gan ddatblygwyr, a chynnydd arall, rydym yn gwerthfawrogi na ddaw'r gwaith hwn yn ddigon buan i rai lesddeiliaid sy'n wynebu caledi ariannol o ganlyniad i faterion diogelwch tân yn eu cartrefi. Ym mis Mehefin y llynedd lansiwyd y Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid gydag ymrwymiad y byddem yn parhau i adolygu'r meini prawf cymhwysedd er mwyn sicrhau y byddai'r rhai mwyaf anghenus yn elwa ar y cynllun. 

Mae'r argyfwng costau byw diweddar wedi creu sefyllfa anghynaladwy i lawer, ac rydym yn benderfynol bod y gefnogaeth a gynigir drwy'r Cynllun Cymorth i Lesddeiliaid yn ystyried y materion hyn. Fel y digwyddodd eisoes, mae'r cynllun yn cynnig mynediad at gyngor ariannol annibynnol am ddim i lesddeiliaid ac, ac os yw'n iawn i aelodau’r cartref, yr opsiwn iddyn nhw werthu eu heiddo ac un ai rhentu eu cartref yn ôl neu symud ymlaen.

Ar ôl cwblhau adolygiad, rydym wedi diwygio meini prawf cymhwysedd y cynllun mewn dwy ffordd sylfaenol. 

Y cyntaf yw diwygio'r asesiad o galedi ariannol i ystyried cost gynyddol ynni. Mae hyn yn hanfodol gan y bydd yn cynyddu cydnabyddiaeth i'r rhai mewn caledi ariannol sylweddol o ganlyniad i'r cynnydd diweddar i'r cap ar brisiau ynni a bydd yn caniatáu i fwy o bobl gael mynediad i'r cynllun.

Yr ail newid sylfaenol yw cael gwared ar gymal Preswylwyr wedi’u Dadleoli. Yn flaenorol, i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun, roedd yn rhaid i lesddeiliaid naill ai fod yn breswylwyr, neu fod yn breswylwyr sy’n cael eu gorfodi o'u heiddo oherwydd amgylchiadau sy'n newid. Drwy gael gwared â'r maen prawf hwn, mae'r cynllun bellach ar agor i lesddeiliaid sydd wedi prynu eiddo fel buddsoddiad, fel pensiynwyr, neu rhai sydd wedi derbyn y lesddaliad drwy etifeddiaeth. 

Bydd y meini prawf cymhwysedd newydd yn fyw ddiwedd Ionawr. Rydym yn annog unrhyw lesddeiliaid mewn trafferthion ariannol i gwblhau ein gwiriwr cymhwysedd, i weld a oes modd i chi gael cymorth drwy'r cynllun hwn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru.

Benthycwyr

Ar 6 Rhagfyr cyhoeddodd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ganllawiau prisio newydd ar gyfer eiddo mewn adeiladau preswyl aml-lawr, aml-ddeiliadaeth gyda chladin.

O ganlyniad, o 9 Ionawr bydd rhai benthycwyr yn ystyried ceisiadau morgais newydd ar gyfer eiddo canolig ac uchel (adeiladau mwy nag 11m o uchder) gyda materion diogelwch adeiladau, cyn belled â'u bod yn dod o dan naill ai Cynllun y Llywodraeth, neu mae'r datblygwr wedi ymrwymo i adfer yr adeilad. Mae hyn yn berthnasol yn Lloegr yn unig.

Yng Nghymru, rydym yn parahu i asesu adeiladau fesul achos ac rydym yn cydweithio gyda Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig a Chyllid y DU i sicrhau y bydd ceisiadau morgais yn cael eu hystyried yn yr un modd ar gyfer eiddo yng Nghymru o 11 metr a throsodd, sy'n dod o dan ein cytundebau gyda datblygwyr a Chronfa Diogelwch Adeiladau Cymru.

Grŵp Rhanddeiliaid Strategol

Rydym wedi lansio Grŵp Rhanddeiliaid Strategol Diogelwch Adeiladau. Bydd y Grŵp Rhanddeiliaid Diogelwch Adeiladau yn gweithredu fel grŵp cynghori strategol, annibynnol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar faterion yn ymwneud â Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru, ac o dan awdurdodaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau Cymru.

Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth wraidd ein dull gweithredu i sicrhau bod ein datblygiadau polisi ynghylch diogelwch adeiladau yn cael ei hysbysu, yn effeithiol, yn gadarn ac yn seiliedig ar dystiolaeth glir. Mae cael barn, cyngor a chefnogaeth arbenigol ein rhanddeiliaid yn hanfodol i'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Diogelwch Adeiladau yn llwyddiannus. Rydym hefyd wedi cyhoeddi gwahoddiadau i ehangu'r gynrychiolaeth o lesddeiliaid yn y Grŵp, er mwyn sicrhau ein bod yn deall eu barn a'u profiad byw ar y mater hwn.

Rydym yn falch iawn felly yn dilyn y cyfarfod cyntaf y cynhaliwyd trafodaethau cadarnhaol a gwerthfawr. Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfodydd yn y dyfodol i gael barn, cyngor a chefnogaeth arbenigol ein rhanddeiliaid sy'n hanfodol i gyflwyno ein Rhaglen Diogelwch Adeiladau yn llwyddiannus.

Rydym wedi gwahodd Welsh Cladiators i ymuno â’r Grŵp, ac er iddynt wrthod mynychu’r cyfarfod cyntaf, rydym yn gobeithio y byddant yn ailystyried ac yn manteisio ar y cyfle i lywio’r maes gwaith hwn.

Ymgysylltu â Phreswylwyr

Mae ymgysylltu â phreswylwyr yn parhau i fod wrth wraidd ein dull o ddatblygu Trefn Diogelwch Adeiladau newydd i Gymru. Mae ein cynigion yn gosod preswylwyr wrth wraidd y diwygiadau ac yn ceisio grymuso lesddeiliaid a thenantiaid i gael mwy o lais mewn materion sy'n effeithio ar eu cartrefi.

Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi estyn allan at nifer o grwpiau a chymdeithasau preswyl i sicrhau bod llais a syniadau cynrychiolaeth eang o lesddeiliaid a thenantiaid yn cael eu clywed, a'u profiadau byw yn cael eu hystyried. Mae'r ymgysylltu hyd yma wedi rhoi cipolwg gwerthfawr ar y materion sydd fwyaf pwysig i breswylwyr.

Byddwn ni'n parhau i ymgysylltu â lesddeiliaid a thenantiaid cartrefi aml-ddeiliadaeth dros y misoedd nesaf i sicrhau bod ein diwygiadau diogelwch adeiladau'n ymarferol ac yn hygyrch.

Gwybodaeth a chymorth annibynnol i lesddeiliaid yng Nghymru

Os ydych chi'n lesddeiliad sy'n pryderu am gladin anniogel yn eich adeilad, gallwch gael cyngor cychwynnol am ddim ynghylch eich hawliau gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddeiliadau (LEASE). Mae LEASE yn rhoi cyngor cychwynnol AM DDIM ar ddiogelwch tân i lesddeiliaid mewn adeiladau uchel, gan gynnwys y rhai sydd â chladin ACM, i sicrhau bod lesddeiliaid yn ymwybodol o'u hawliau ac yn cael eu cefnogi i ddeall telerau eu prydlesi.

Gallwch gael cyngor am ddim gan ein cynghorwyr profiadol, drwy drefnu apwyntiad dros y ffôn, neu drwy ysgrifennu atom.

Mae cynghorwyr a grwpiau cymorth arbenigol eraill y gallai lesddeiliaid yng Nghymru fod eisiau ymgynghori â nhw yn cynnwys:

 
 
 

AMDANOM NI

Diwygio’r system bresennol ynghylch diogelwch adeiladau fel bod pobl yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/adeiladu-a-chynllunio

Dilynwch ni ar Twitter:

@NewidHinsawdd