Cafodd disgyblion o bob cwr o Gymru eu cydnabod am eu dyfeisiadau rhagorol yn seremoni ddiweddar Gwobrau Arloesedd Myfyrwyr, a gynhaliwyd yn y Pierhead ym Mae Caerdydd. Derbyniodd Benjamin Morris o Ysgol Gyfun Brenin Harri’r VIII, Y Fenni, wobr yr Enillydd Cyffredinol am ei greadigaeth, sef dyfais amddiffyn bysedd traed i gricedwyr. Caiff y gwobrau eu cynnal mewn partneriaeth â CBAC. Mae rhagor o wybodaeth yma. |