Newyddlen Bwyd a Diod Cymru - Rhagfyr 2022

Rhagfyr 2022 • Rhifyn 025

 
 

Newyddion

Cyhoeddi dyddiadau prif ddigwyddiad masnach bwyd a diod Cymru - BlasCymru/TasteWales 2023

Blas Cymru/TasteWales
  • Pryd: 25 - 26 Hydref 2023
  • Ble: Y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol (ICC Cymru), Gwesty'r Celtic Manor, Casnewydd, Cymru
  • Beth: Broceriaeth rhwng prynwyr a busnesau bwyd a diod; Cinio VIP a chyfleoedd i rwydweithio; seminarau, dyfodol cynaliadwy ac arddangosfa.
Andy Richardson

Nodyn gan Gadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru - Rhagfyr 2022

Wrth i ni agosáu at ddiwedd blwyddyn gythryblus arall, gadewch i mi ddechrau ar nodyn positif gyda phethau y gallwn eu dathlu!

Ym mis Tachwedd, am y tro cyntaf yn eu hanes 22 mlynedd, daeth gwobrau Bwyd a Ffermio'r BBC i  Gaerdydd a roddodd gyfle inni roi sylw i'n diwydiant Bwyd a Diod gwych yng Nghymru ymhlith dylanwadwyr allweddol a defnyddwyr o bob rhan o'r DU. Ar yr un pryd, gwnaeth Cymru hefyd gynnal Gwobrau Caws y Byd, pan fu dros 4000 o gawsiau rhyngwladol yn cystadlu am nifer fawr o wobrau uchel eu bri. I mi, mae'r ddau ddigwyddiad hyn yn darparu tystiolaeth bod Bwyd a Diod Cymru bellach mewn lle amlwg ar y sîn fwyd fyd-eang!

Cennin Cymraeg

Cennin Cymru yn cael eu gwarchod yn rhyngwladol

Mae planhigyn a symbol cenedlaethol Cymru, y Genhinen Gymreig, bellach wedi'i gwarchod yn swyddogol wrth iddo ennill statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) y DU.

Hwn yw'r trydydd cynnyrch Cymreig newydd i gael statws GI y DU, gan ddilyn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a Chig Oen Mynyddoedd Cambria.

Lansio Gwin Cymraeg

Dyfodol disglair i win o Gymru yn dilyn lansiad strategaeth

Mae strategaeth gyntaf o’i math wedi’i lansio i roi ffocws i ddyfodol diwydiant gwin Cymru dros y deuddeg mlynedd nesaf a chynyddu gwerth presennol y sector 10 gwaith yn fwy i gyrraedd £100 miliwn erbyn 2035.

Wedi’i datblygu ar adeg hollbwysig i winllannoedd Cymru, gyda chefnogaeth Clwstwr Diodydd Llywodraeth Cymru, mae’r strategaeth a arweinir gan y diwydiant wedi’i chynllunio i sicrhau bod Cymru’n adeiladu ar ei henw da fel cynhyrchydd arbrofol o winoedd amrywiol, yn dilyn rhai llwyddiannau trawiadol yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi ennill nifer o wobrau rhyngwladol.

Bwyd a Diod Asia

Meithrin perthnasoedd ym marchnadoedd bwyd a diod Asia

Mae dirprwyaeth o ganolfannau bwyd Cymru, dan arweiniad Is-adran Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru, wedi ymweld â Singapôr i fynychu Uwchgynhadledd Twf Asia 2022 a chwrdd â busnesau bwyd a diod o Singapôr a rhai rhyngwladol gyda’r nod o hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ar gyfer eu buddsoddiad.

Pontio’r Bwlch

Pontio’r Bwlch i Gyfleoedd Uwchraddio Cynaliadwy

Flwyddyn ar ôl ei sefydlu, mae aelodau grŵp diddordeb arbennig y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, Pontio’r Bwlch, yn pwyso a mesur sut mae ffurfio’r grŵp wedi bod o fudd i’w aelodau mewn cyfres o fideos fel rhan o Fis Hanes Pobl Dduon.

Plastig Untro

Y Bil Cynhyrchion Plastig Untro

Sut y dylai busnesau baratoi ar gyfer y gwaharddiadau

Pam ydym yn gwneud hyn?

Rydym am i Gymru fod yn rhydd o blastig untro diangen (SUP). Drwy wahardd neu gyfyngu ar y cyflenwad o gynhyrchion sy’n cael eu taflu’n sbwriel yn aml byddwn yn osgoi gadael gwaddol plastig gwenwynig i genedlaethau’r dyfodol ddelio ag ef. Bydd hefyd yn ein helpu i ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Digwyddiadau

Rhaglen Digwyddiadau Masnach Bwyd a Diod 2022-2023

Digwyddiadau Bwyd a Diod

Am ragor o wybodaeth gweler Digwyddiadau Masnach / Rhaglen Ymweliadau y DU a Rhyngwladol 2022 - 2023

Expo Bwyd a Diod

Expo Bwyd a Diod 2023

Mae recriwtio bellach ar y gweill i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan faner Bwyd a Diod Cymru yn yr NEC, Birmingham 24 - 26 Ebrill 2023.

Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen gais yw 30 Ionawr 2023.

Ymweliad Datblygu i Saudi Arabia

Ymweliad Datblygu Masnach i Sawdi Arabia

Fe'ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymweliad datblygu masnach bwyd a diod â Sawdi Arabia.

Mae Sawdi Arabia yn farchnad o 35 miliwn o ddefnyddwyr, mae 50 y cant o dan 25 ac mae pobl ifanc Sawdi Arabia yn arbennig o agored i dueddiadau defnyddwyr y Gorllewin. Mae hon yn farchnad llawn cyfleoedd, gaiff ei hesgeuluso’n aml o blaid marchnadoedd cyfagos y Gwlff. Mae mwyfwy o gynnyrch wedi’u hallforio ar gael ar silffoedd ein harchfarchnadoedd ac mae modd datblygu hyn ymhellach. Mae’n adeg wych i Gymru fanteisio ar gyfran o’r farchnad.

Dwyrain Canol

Cyfle i adeiladu presenoldeb yn y Dwyrain Canol

Cyrchfan: Mae Dwyrain Canol yn brosiect peilot i gefnogi hyrwyddiadau manwerthu yn y farchnad ac ymgysylltu â defnyddwyr mewn masnach. Bydd amrywiaeth o fwyd a diod o Gymru yn cael eu hyrwyddo ar y cyd am gyfnodau mewn archfarchnadoedd targed, gwestai pen uchel a bwytai o amgylch Dydd Gwyl Dewi 2023.

Cynhadledd Insight 2023

Cynhadledd Insight 2023: Ymdrechu a Ffynnu

Bydd Cynhadledd Insight 2023 yn canolbwyntio ar sut all fusnesau ymdrechu a ffynnu yn yr hinsawdd economaidd bresennol, gyda phrif siaradwyr o Kantar, IGD, CGA, a thefoodpeople a’r Rhaglen Mewnwelediad. Bydd y gynhadledd yn cynnwys trafodaethau panel ac astudiaethau achos perthnasol ar gyfer arfer dda. Bydd y sesiynau bore yn mynd i’r afael â manwerthu, OOH, allforio, cyd-destun economaidd, a datblygu cynhyrchion newydd. 

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei ryddhau yn fuan yn 2023.

Hawliau Gweithwyr

Diogelu Hawliau Gweithwyr yn y Sector Bwyd a Diod yng Nghymru

Bydd Sgiliau Bwyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal 3 gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn clywed ac yn ymgysylltu â siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n hyrwyddo hawliau gweithwyr ac yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio yn y farchnad lafur.

Gweithdai Hyfforddiant Datgarboneiddio

Sgiliau Bwyd Cymru – Gweithdai Hyfforddiant Datgarboneiddio

Gan adeiladu ar lwyddiant prosiect peilot a gynhaliwyd yn yr hydref, bydd Sgiliau Bwyd Cymru, mewn partneriaeth â GEP Environmental, yn cyflwyno cyfres o weithdai hyfforddiant datgarboneiddio yn gynnar yn 2023. Mae'r gweithdai'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud tuag at sero net i’r sector, Cymru, y DU a’r manteision byd-eang drwy ddarparu’r sgiliau cywir i fuddiolwyr i wneud penderfyniadau ar sut y gallant symud tuag at sero net, rhannu arfer gorau gyda chydweithwyr a rhoi newidiadau ar waith i’w strategaethau busnes, technoleg a dylunio prosesau yn eu holl arferion gwaith o ddydd i ddydd.

Prosiect Peilot Cadwyni Cyflenwi

Prosiect Peilot Cadwyni Cyflenwi Bwyd a Diod Cydnerth

Mae’r sector bwyd a diod yng Nghymru yn wynebu heriau digynsail o ran costau yn gadwyn gyflenwi, a rhagwelir y bydd hynny’n gwaethygu dros y misoedd nesaf. Mae Cymru Connect yn adnodd platfform caffael peilot sydd â’r nod o gefnogi cynhyrchwyr i ddatblygu cadwyni cyflenwi mwy effeithlon a chadarn. Mae’r llwyfan yn cael ei gynnal gan Canopy ac mae’n cynnwys gwybodaeth wedi’i dilysu am gyflenwyr. Mae’r prosiect wedi cael cyllid gan Gronfa Her Adfer Covid.

Lleoliadau Myfyrwyr Uwchraddio Cynaliadwy

Y Rhaglen Lleoliadau Myfyrwyr Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy

Ar y cyd ag Ysgol Fusnes Caerdydd, roedd y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy wedi treialu rhaglen lleoliadau myfyrwyr a oedd yn cefnogi myfyrwyr i ymuno â chwe busnes gweithgynhyrchu bwyd uchelgeisiol yng Nghymru lle roeddent wedi cyflawni prosiect rheoli mewn amryw o feysydd arbenigol, gan gynnwys adnoddau dynol, y gadwyn gyflenwi, marchnata, rheolaeth gyffredinol a chyllid.

Tregroes Waffles

Cysylltiadau Celtaidd: Sioe Frenhinol yr Ucheldir 2022

Fel rhan o brosiect 'Celtic Connections', mynychodd naw o’r cynhyrchwyr bwyd a diod gorau Cymru i'r 200fed Sioe Frenhinol yr Ucheldir ym mis Mehefin 2022 i chwifio baner Cymru dros fwyd a diod Cymru.

Mae Celtic Connections yn brosiect sydd â'r nod o gynyddu ymwybyddiaeth defnyddwyr a masnach o fwyd a diod o Gymru trwy Dreftadaeth Geltaidd a rennir. Mae’r prosiect hwn yn cefnogi’r twf ychwanegol ym marchnad y DU trwy dreialu llwybrau newydd i’r farchnad ar gyfer cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru trwy archwilio gweithgareddau adeiladu ymwybyddiaeth defnyddwyr a masnach yn yr Alban, Gogledd Orllewin Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Cyfryngau Cymdeithasol

Nadolig Llawen
 
 
 

YNGLŶN Â’R CYLCHLYTHYR HWN


E-gylchlythyr cwarterol ar gyfer y diwdiant bwyd a diod gan Is-Adran Fwyd Llywodraeth Cymru. 

Newyddion, digwyddiadau a materion syín berthnasol iín diwydiant.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

llyw.cymru/bwydadiodcymru

Dilynwch ni ar Twitter:

@BwydaDiodCymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

Bwyd_a_Diod_Cymru

 

Dilynwch ni ar Facebook:

@bwydadiodcymru