Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
Twristiaeth Gynaliadwy Cymru; “Llwybrau” – Adnoddau ac asedau ar gael nawr; Cymru’n lansio cystadlaethau cenedlaethol i gael hyd i’r cogyddion gorau; £460 miliwn o gymorth ardrethi i helpu busnesau sy’n ei chael yn anodd ymdopi â chostau uwch; Marchnata digidol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch –dyddiadau gweminar am ddim Ionawr; Cennin Cymru yn cael eu gwarchod; Canlyniadau ar gyfer dŵr ymdrochi yng Nghymru yn cyrraedd y brrrig, gyda chydymffurfedd o 99% wedi’i gyflawni yn 2022; Cymru ar flaen y gad o fewn y DU wrth i'r Senedd wahardd plastigau untro; Cyhoeddi arian ar gyfer prosiectau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru; Canllaw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gadw tymheredd yn y gweithle yn rhesymol; Ydy’ch busnes chi yn barod am y gaeaf?
Twristiaeth Gynaliadwy Cymru
Gan weithio mewn partneriaeth, mae Busnes Cymru a Croeso Cymru nawr wedi lansio Twristiaeth Gynaliadwy Cymru.
Mae’r cynllun cymorth busnes newydd yn rhoi cyngor a chymorth ynglŷn â sut i arbed arian, hyrwyddo eich busnes gan ddefnyddio ymarferion cynaliadwyedd a gwireddu eich uchelgeisiau gwyrdd.
Os ydych yn ansicr lle i ddechrau o ran cynaliadwyedd, neu efallai eich bod wedi dechrau gwneud newidiadau, ond eich bod eisiau datblygu i’r lefel nesaf, gallwch lawrlwytho ein pecynnau adnoddau byr, defnyddiol, sy’n cynnwys awgrymiadau ardderchog a chyngor ar gyllid.
I gynnig ysbrydoliaeth, rydym hefyd wedi cael sgwrs gyda phum busnes ledled Cymru. Dysgwch sut maent wedi gwneud newidiadau o fewn pum maes allweddol i wella eu cynaliadwyedd a helpu Cymru i gyrraedd statws Sero Net.
Mae manylion llawn ar gael ar wefan Twristiaeth Gynaliadwy Cymru; lle allwch hefyd lofnodi Addewid Twf Gwyrdd Twristiaeth a lawrlwytho Llawlyfr Marchnata Twristiaeth Gynaliadwy Cymru.Twristiaeth Gynaliadwy Cymru | Drupal (gov.wales).
“Llwybrau” – Adnoddau ac asedau ar gael nawr
Yn 2023 rydym yn gwahodd ymwelwyr a thrigolion Cymru i grwydro llwybrau epig Cymru wrth i ni ddangos yr hyn sydd ar gael - gan ddefnyddio llwybrau fel sbardun i brofiadau cyffrous a chyfleoedd newydd.
Mae'r flwyddyn yn ymwneud â
- dod o hyd i drysorau anghofiedig,
- croesawu teithiau o'r synhwyrau
- gwneud atgofion ar hyd llwybrau o amgylch atyniadau, gweithgareddau, tirweddau ac arfordiroedd.
Gobeithio bydd y thema eleni yn cael ei chroesawu gan y diwydiant ac yn annog ymwelwyr i gilfachau o'r wlad drwy'r flwyddyn.
Mae canllawiau “Llwybrau” ar gael nawr, gyda logo, canllawiau logo a delweddau o ansawdd uchel i bartneriaid yn y diwydiant eu lawrlwytho a’i defnyddio ar gyfer marchnata Llwybrau. Cymerwch olwg a'u lawrlwytho ar Assets: Llwybrau | Visit Wales.
Cymru’n lansio cystadlaethau cenedlaethol i gael hyd i’r cogyddion gorau
Mae cogyddion talentog yn cael eu herio i brofi’u doniau yn nwy gystadleuaeth uchaf eu bri yng Nghymru.
Mae Cymdeithas Coginio Cymru (CAW) wedi lansio cystadlaethau Cogyddion Iau a Chenedlaethol Cymru gan gynnig gwobrau gwych.
I gael cystadlu, rhaid i gogydd weithio mewn sefydliad neu astudio mewn coleg am gymhwyster arlwyo yng Nghymru neu fod o dras Cymreig a gweithio mewn gwlad arall.
Derbynnir ceisiadau nawr ar gyfer y ddwy gystadleuaeth a gynhelir ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru (WICC), 21-23 Chwefror 2023 yng nghampws Grŵp Llandrillo Menai yn Llandrillo-yn-Rhos.
Dysgwch fwy yn: Wales launches premier national competitions to find the best chefs - Culinary Association of Wales.
£460 miliwn o gymorth ardrethi i helpu busnesau sy’n ei chael yn anodd ymdopi â chostau uwch
Bydd pob busnes yng Nghymru yn elwa ar gymorth ardrethi newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu gydag effeithiau costau cynyddol.
Bydd pecyn cymorth sy’n werth mwy na £460 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf wedi ei gyhoeddi yn y Gyllideb ddrafft sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru.
Dysgwch fwy yn: £460 miliwn o gymorth ardrethi i helpu busnesau sy’n ei chael yn anodd ymdopi â chostau uwch | LLYW.CYMRU ac mae'r datganiad llafar ar Gyllideb Ddrafft 2023-24 i'w weld ar Cyfarfod Llawn 13/12/2022 - Senedd Cymru.
Marchnata digidol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch –dyddiadau gweminar am ddim Ionawr
Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau a Croeso Cymru wedi partneru i gynnig gweminar dwy ran AM DDIM, sydd wedi'i deilwra ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch.
Dysgwch sut i wneud i'ch busnes sefyll allan ar-lein, ymgysylltu â chwsmeriaid newydd, gwneud mwy o adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol fel platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.
-
Rhan 1: Marchnata digidol ar gyfer twristiaeth a lletygarwch
-
Rhan 2: Rhedeg eich busnes twristiaeth a lletygarwch ar-lein
Cewch wybod mwy a chofrestru ar Marchnata Digidol ac Offer Ar-lein ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch (Tudalen 1 o 4) (office.com). Caiff rhagor o ddyddiadau gweminarau ym mis Chwefror, cofiwch nodi’r dyddiadau.
Cennin Cymru yn cael eu gwarchod
Mae planhigyn a symbol cenedlaethol Cymru, y Genhinen Gymreig, bellach wedi'i gwarchod yn swyddogol wrth iddo ennill statws PGI (Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig) y DU.
Hwn yw'r trydydd cynnyrch Cymreig newydd i gael statws GI y DU y mae galw mawr amdano, gan ddilyn Cig Oen Morfa Heli Gŵyr a Chig Oen Mynyddoedd Cambria.
Dysgwch fwy yn: Cennin Cymru yn cael eu gwarchod | LLYW.CYMRU.
Canlyniadau ar gyfer dŵr ymdrochi yng Nghymru yn cyrraedd y brrrig, gyda chydymffurfedd o 99% wedi’i gyflawni yn 2022
Unwaith eto, mae’r canlyniadau a gyhoeddwyd ar gyfer safonau ansawdd dŵr ymdrochi yng Nghymru yn rhagorol, gyda chydymffurfedd o 99% wedi’i gyflawni yn 2022.
Dysgwch fwy yn: Canlyniadau ar gyfer dŵr ymdrochi yng Nghymru yn cyrraedd y brrrig, gyda chydymffurfedd o 99% wedi’i gyflawni yn 2022 | LLYW.CYMRU.
Cymru ar flaen y gad o fewn y DU wrth i'r Senedd wahardd plastigau untro
Cymru fydd y rhan gyntaf o’rDU I ddeddfu yn erbyn rhestr drylwyr o blastigau untro, wrth I’r Senedd gymeradwyo deddfwriaeth I wahardd gwerthu cynhyrchion tafladwy, diangen I ddefnyddwyr.
Dysgwch fwy yn: Cymru ar flaen y gad o fewn y DU wrth i'r Senedd wahardd plastigau untro | LLYW.CYMRU.
Cyhoeddi arian ar gyfer prosiectau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru
Mae Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, wedi cyhoeddi £4.5m dros y tair blynedd nesaf i gynnal amcanion a gweithgareddau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru.
Mae’r Cynllun Gweithredu’n rhan o Raglen Lywodraethu a Chytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru.
Dysgwch fwy yn: Cyhoeddi arian ar gyfer prosiectau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cymru | LLYW.CYMRU.
Canllaw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gadw tymheredd yn y gweithle yn rhesymol
Wrth i'r gaeaf gydio, gallwch ddod o hyd i gyngor defnyddiol gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gadw pobl mor gyfforddus â phosibl wrth weithio yn yr oerfel.
Mae'r canllawiau wedi cael eu hadnewyddu er mwyn ei gwneud hi'n haws canfod a deall cyngor ar sut i ddiogelu gweithwyr mewn tymereddau isel ac uchel.
Dysgwch fwy yn: Canllaw’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar gadw tymheredd yn y gweithle yn rhesymol | Busnes Cymru (gov.wales).
Ydy’ch busnes chi yn barod am y gaeaf?
Pa un a ydych chi’n fusnes bach, canolig neu fawr, gall y tywydd effeithio arnoch chi mewn unrhyw le ac ar unrhyw adeg. Mae treulio amser yn cynllunio ac yn paratoi’ch busnes yn gallu arbed amser ac arian i chi pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le.
Gall pob busnes gymryd camau syml i wneud yn siŵr eu bod yn barod am dywydd gwael.
Dysgwch fwy yn: Ydy’ch busnes chi yn barod am y gaeaf? | Busnes Cymru (gov.wales).
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Dolenni Defnyddiol
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|