|
 Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda ichi i gyd, gan bawb yn Rhwydwaith Gwledig Cymru
Wel, mae mis Rhagfyr wedi cyrraedd unwaith eto – lle mae’r amser wedi mynd?
Mae wedi bod yn flwyddyn brysur, ac wrth i ddiwedd Rhaglen 2014–2020 yr UE nesáu, rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed i gasglu’r enghreifftiau gorau o arfer da, wrth ar yr un pryd weithio’n galed i sicrhau bod prosiectau newydd sydd wedi cael eu cymeradwyo ar gael yn ein cyfeiriadur prosiectau – ac mae prosiectau newydd yn parhau i gael eu cymeradwyo’n rheolaidd.
Hoffen ni fanteisio ar y cyfle hwn i roi crynodeb o lwyddiannau 2022.
Yr uchafbwynt ar gyfer Rhwydwaith Gwledig Cymru a’n holl randdeiliaid oedd y digwyddiad llwyddiannus Dathlu Cymru Wledig – y digwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ers 2019.
Mae’r ffordd yr aeth popeth yn y digwyddiad, ym Maes Sioe Frenhinol Cymru ym mis Mehefin, yn destun balchder a phleser inni.
Croesawodd y dathliad dros 360 o fynychwyr dros ddeuddydd y digwyddiad, gyda mwy na 30 prosiect yn dangos eu gwaith.
Roedd y ddeuddydd yn cynnwys trafodaethau panel ar themâu penodol a oedd yn cynnwys materion sydd o bwys i Gymru wledig, a sgyrsiau â rhai o fuddiolwyr yr astudiaethau achos, lle roeddent yn egluro sut roedd y cyllid wedi’u helpu nhw ac yn rhannu eu llwyddiannau.
Daeth y diwrnod cyntaf i ben gyda dathliad Gwir Flas o gynhyrchion bwyd a diod Cymru mae’r rhaglen wedi’u cefnogi: -
- 30 o gynhwysion o brosiectau a ariannwyd gan yr RDP wedi’u defnyddio yn y fwydlen
- 28 o brosiectau yn cael eu harddangos
- 129 o gwmnïau bwyd a diod sydd wedi derbyn cyllid yr RDP yn derbyn sylw.
Pinacl y dathliadau oedd Gwobrau Rhwydwaith Gwledig Cymru, gyda'r pedwar prosiect ar draws holl themâu’r digwyddiad oedd yn dangos orau ethos y cyllid yn derbyn gwobrau.
 |
|
Gyda dros 1,700 o brosiectau sydd wedi derbyn cyllid wedi’u cynnwys ar ein gwefan, mae’r map hwn yn rhoi syniad gweledol o faint o brosiectau sydd wedi derbyn cyllid yng Nghymru – ddylen ni byth tanamcangyfrif y gwahaniaeth enfawr mae hyn wedi’i wneud i ardaloedd, cymunedau a phobl leol.
Rydyn ni wedi ychwanegu 118 prosiect at y cyfeiriadur yn ystod 2022, a bydd diweddariad arall yn y flwyddyn newydd.
|
 |
|
Fel y dywedon ni, rydyn ni wedi bod yn brysur yn ystod y flwyddyn diwethaf yn casglu enghreifftiau o’r arferion gorau, ac mae gennyn ni dudalennau penodol ar y wefan lle gallwch weld y canlynol:-
|
 |
|
Yn ôl ein harfer, rydyn ni wastad yn ychwanegu storïau newydd – os ydych yn edrych yn rheolaidd dylech chi weld rhywbeth newydd i ddarllen amdano bob dydd!!
|
 |
|
Yn ystod 2022 rydyn ni wedi coladu a lanlwytho 206 o astudiaethau achos ar y wefan, rhai ohonynt yn cynnwys fideos. Darllenwch am siwrneiau diddorol y prosiectau hyn, a’r gwersi wedi’u dysgu ar gyfer prosiectau yn y dyfodol.
|
|
|