Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

25 Tachwedd 2022


autumn

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc y Byd 2022; Cymru yng Nghwpan y Byd 2022: Edrych ar yr ymgyrch a’r asedau; Dyma Gymru - mynd â Chymru i'r byd yn ystod Cwpan y Byd FIFA; Adnodd Cofnodion Cynhyrchion Croeso Cymru: Gwelliannau wedi’u gwneud; Canllawiau cyngor ar ynni a chyfrifiannell costau i fusnesau; Ardoll Ymwelwyr i Gymru – Nodyn atgoffa i ddweud eich dweud: yn cau ar 13 Rhagfyr; Arolwg Tracio Teimladau Domestig Prydain Fawr; Cofrestrwch nawr – Gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru: Dydd Mawrth 6 Rhagfyr, 4pm; Ymunwch â’r rhai sy’n creu profiadau; Mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio premiwm y dreth gyngor a meini prawf gosod; Ymgyngoriadau; Premiymau’r dreth gyngor ar gyfer anheddau gwag hirdymor ac ail gartrefi: canllawiau i awdurdodau Lleol; Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth; Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru; Yn Gefn i Chi


Cogydd Ifanc Gweinydd Ifanc y Byd 2022

Mae enillwyr Cystadleuaeth Cogydd Iffanc Gweinydd Ifanc y Byd 2022 (World YCYW) wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar ac maent o Gymru.  Mae’r wobr Cogydd Ifanc wedi’i roi i Ali Halbert o Heaney’s, Caerydd a’r Gweinydd Ifanc i Tilly Morris Grove of Narberth.

Mae’r gystadleuaeth flynyddol hon yn hyrwyddo lletygarwch fel gyrfa o ddewis, proffesiwn a galwediaeth.

Llongyfarchiadau i Ali a Tilly ac i Heaney’s a Grove of Narberth am ddatblygu a chefnogi unigolion mor dalentog.

Cewch wybod mwy am y gystadleuaeth a’r enillwyr yma.


Cymru yng Nghwpan y Byd 2022: Edrych ar yr ymgyrch a’r asedau

Gyda Cymru yn chwarae yn ein Cwpan y Byd gyntaf ers 64 o flynyddoedd, mae hyn yn rhoi cyfle digynsail i arddangos Cymru fel gwlad ohoni ei hun ar y llwyfan byd-eang. 

Mae pecyn Cwpan y Byd Cymru wedi ei greu i arddangos ein pobl, diwylliant, cymunedau a thirwedd yn rhyngwladol, sy’n cynnwys asedau digidol a fideo.  Mae amrywiol ddelweddau pendol i’r ymgyrch a delweddau pêl-droed ar gael ichi eu defnyddio ar Lyfrgell Asedau Croeso Cymru: Assets: World Cup 2022 | Visit Wales.

Cewch hefyd gymeryd rhan drwy rannu’r sianeli cyfryngau cymdeithasol pan yn bosibl a defnyddio’r hashnodau #cmoncymru #timcymru22. Edrychwch ar – Dyma Gymru (cymrudotcom) Twitter, Facebook, Instagram: a Croeso Cymru Twitter, Instagram

 

Dyma Gymru - mynd â Chymru i'r byd yn ystod Cwpan y Byd FIFA

Cafodd cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru flaengar, fodern ar y llwyfan byd-eang a ddarperir gan Gwpan y Byd FIFA yn Qatar eu datgelu gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething ar 15 Tachwedd 2022.

Bydd yr ymgyrch yn cyflwyno gwerthoedd Cymru a sicrhau gwaddol cadarnhaol o weld Cymru yn cystadlu yn yr ymgyrch Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 mlynedd.

Darllen mwy ar: Dyma Gymru - mynd â Chymru i'r byd yn ystod Cwpan y Byd FIFA | Busnes Cymru (gov.wales)


Adnodd Cofnodion Cynhyrchion Croeso Cymru: Gwelliannau wedi’u gwneud

Yn dilyn arolwg y llynedd yn gofyn am eich adborth ynghylch eich profiadau o ddefnyddio ein hadnodd gweinyddol ar gyfer cofnodion cynhyrchion

i ddiweddaru’ch cofnod ar croeso.cymru, mae gwelliannau bellach wedi’u gwneud.

Diolch am roi eich amser i rannu eich adborth. Rydyn ni’n gwerthfawrogi hynny’n fawr ac mae eich sylwadau wedi helpu i lywio newidiadau sy’n cynnwys y canlynol:

  • Rydyn ni wedi newid cyfeiriad e-bost desg gymorth y Stiward Data icroesocymruhelp@nvg.net (bydd yr hen gyfeiriad yn parhau i weithio am y tro).
  • Rydyn ni wedi newid edrychiad a steil rhai adrannau gan eu gwneud yn haws eu defnyddio.
  • Rydyn ni wedi gwella’r prosesau mewngofnodi gan ychwanegu adnoddau cymorth ychwanegol yn ogystal â ffenestr naid ‘helpu drwy sgwrsio’.
  • Rydyn ni wedi ychwanegu hidlyddion ychwanegol i alluogi pobl sy’n edrych am wyliau sy’n fwy ecogyfeillgar a chynaliadwy i ddod o hyd i’r tudalennau cynhyrchion perthnasol yn haws.
  • Bellach, gallwch dagio eich cofnod os ydych chi’n cynnig: Llogi E-feiciau, E-wefru, Trosglwyddiadau Trafnidiaeth Gyhoeddus, Twristiaeth Agoriad Gwyrdd a Thwristiaeth Werdd.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu rywfaint o gymorth i dagio’r rhain yn eich cofnod, anfonwch e-bost at cronfaddata.cynnyrch@llyw.cymru.


Canllawiau cyngor ar ynni a chyfrifiannell costau i fusnesau

Mae UKHospitality wedi cyhoeddi canllawiau cyngor ar ynni a chyfrifiannell costau y gall pob busnes eu defnyddio.

Darllen mwy ar: Canllawiau cyngor ar ynni a chyfrifiannell costau i fusnesau | Busnes Cymru (gov.wales)


Ardoll Ymwelwyr i Gymru – Nodyn atgoffa i ddweud eich dweud: yn cau ar 13 Rhagfyr

Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn am gynigion i ddarparu pwerau dewisol i awdurdodau lleol ddefnyddio ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd. Mae’r Ymgynghoriad ar agor tan 13 Rhagfyr 2022.

Mae cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ymrwymiad yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae’r gwaith yn cael ei wneud mewn cydweithrediad â Phlaid Cymru, ac mae’n rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Bydd angen deddfwriaeth newydd i roi’r polisi hwn ar waith ac mae’n annhebyg y bydd mesurau’n dod i rym am sawl blwyddyn, a hynny os bydd y Senedd yn eu cymeradwyo.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig y bydd ardoll ymwelwyr yn dâl ychwanegol bach a fydd i’w godi ar arosiadau mewn llety ymwelwyr dros nos a osodir yn fasnachol. Bydd unrhyw benderfyniadau terfynol am ffurf yr ardoll yn cael eu gwneud ar ôl yr ymgynghoriad ac ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael.

Hoffem glywed gan ystod mor eang â phosibl o safbwyntiau i helpu i lunio unrhyw gynigion a fydd yn cael eu datblygu. Byddem yn ddiolchgar petaech yn rhannu manylion yr ymgynghoriad drwy’ch rhwydweithiau.

Mae’r ymgynghoriad ar gael yma: Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU. Bydd adroddiad ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn yn 2023.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau i YmgynghoriadArdollYmwelwyr@llyw.cymru  


Arolwg Tracio Teimladau Domestig Prydain Fawr

Mae canlyniadau ton Tachwedd 2022 o Arolwg Tracio Teimladau Domestig Prydain Fawr wedi’u cyhoeddi ar gwefan VisitBritain. Mae’n seiliedig ar waith maes a gynhaliwyd rhwng 1 a 7 Tachwedd 2022. Mae’r don ddiweddaraf o waith ymchwil yn dangos bod pryderon ariannol yn cyfrannu at lefel isel o archebu ymlaen llaw, cyllidebau llai ar gyfer gwyliau a llai o dripiau dydd sy’n cael eu cynllunio. Bydd yr arolwg yn parhau i gael ei gynnal bob mis hyd fis Ebrill y flwyddyn nesaf.  


Cofrestrwch nawr – Gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru: Dydd Mawrth 6 Rhagfyr, 4pm

Cofrestrwch nawr ar gyfer gweminar Diwydiant Teithio Rhyngwladol Cymru, lle cewch gyfle i wrando ar Gymdeithas Gweithredwyr Teithiau Ewropeidd ac UKinbound, a hefyd ar weithredwyr teithiau blaenllaw a Chwmnïau Rheoli Cyrchfannau. Cofrestrwch nawr ar Event Forms - ETOA Webinar | Prospects for inbound tourism into Wales


Ymunwch â’r rhai sy’n creu profiadau

Bydd yr ymgyrch Creu Profiadau yn gyfrifol am sianeli Cymru’n Gweithio ar y cyfryngau cymdeithasol o ddydd Llun 28 Tachwedd, gan chwalu rhwystrau i sicrhau swyddi ym maes twristiaeth a lletygarwch gydag astudiaethau achos a chynnwys o bob rhan o’r diwydiant yng Nghymru.

Bydd cyfle i hyrwyddo eich swyddi gwag mewn digwyddiad penodol ddydd Mawrth 29 Tachwedd. Anfonwch fanylion eich swyddi gwag at marketing@careerswales.gov.wales gan nodi yn y blwch pwnc Swyddi mewn lletygarwch a thwristiaeth erbyn canol dydd ddydd Llun 28 Tachwedd a byddant yn cael eu hyrwyddo ar sianel Cymru’n Gweithio ar Twitter.


Mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio premiwm y dreth gyngor a meini prawf gosod

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd rhagor o gategorïau eiddo yn cael eu heithrio rhag talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, gan reoli effaith rheolau treth lleol newydd i wahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety hunanddarpar.

Bydd canllawiau ychwanegol hefyd ar y disgresiwn fydd gan awdurdodau lleol o ran defnyddio’r premiymau. Daw hyn yn sgil trafod ac ymgysylltu parhaus â chynghorau, cymunedau a'r diwydiant twristiaeth.

I gael mwy o wybodaeth: Mwy o hyblygrwydd wrth ddefnyddio premiwm y dreth gyngor a meini prawf gosod | Busnes Cymru (gov.wales)


Ymgyngoriadau

Mae ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru i’w cael ar Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU ac maent yn cynnwys:

 

Premiymau’r dreth gyngor ar gyfer anheddau gwag hirdymor ac ail gartrefi: canllawiau i awdurdodau Lleol

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig newidiadau i’r canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol wrth iddynt benderfynu codi treth gyngor ychwanegol. Rhagor o wybodaeth yma: Premiymau’r dreth gyngor ar gyfer anheddau gwag hirdymor ac ail gartrefi: canllawiau i awdurdodau lleol | Busnes Cymru (gov.wales)

Ymgynghoriad yn cau 22 Rhagfyr 2022.

 

Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth

Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn gofyn am dystiolaeth am sut gellir cryfhau cymunedau Cymraeg. Rhagor o wybodaeth yma: Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad am dystiolaeth | LLYW.CYMRU 

Ymgynghoriad yn cau 13 Ionawr 2023. 

 

Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru

Mae galw am farn ar ddulliau gorfodi i annog cydymffurfiaeth â rheoliadau arfaethedig a fydd yn gwella ansawdd a lefel yr ailgylchu o safleoedd annomestig. Rhagor o wybodaeth yma: Cynigion ar gyfer gorfodi rheoliadau ailgylchu busnesau, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yng Nghymru | LLYW.CYMRU.

Ymgynghoriad yn cau 15 Chwefror 2023.


Yn Gefn i Chi

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn swyddi, sgiliau a hyfforddiant i helpu busnesau i dyfu a bodloni anghenion tirwedd economaidd newidiol Cymru er mwyn adeiladu dyfodol economaidd cryfach, tecach a gwyrddach.

Mae Busnes Cymru yn cefnogi ymgyrch "Yn Gefn i Chi" Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o sgiliau, rhaglenni cyflogadwyedd a chyngor sydd ar gael am ddim i bob busnes yng Nghymru. Mae hyn er mwyn sicrhau bod cymaint o fusnesau â phosibl yn cael mynediad at y cymorth ariannol a’r cyngor arbenigol sydd ar gael.

Rhagor o wybodaeth yma: Yn Gefn i Chi | Busnes Cymru (gov.wales)



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Dolenni Defnyddiol


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram