Adventure Parc Snowdonia
Mae’r economi ymwelwyr yn newid yn gyflym, ac mae swyddogaeth llety ymwelwyr yn creu heriau enfawr i gymunedau ar draws y byd. Er enghraifft, mae twf platfformau archebu ar-lein wedi sbarduno nifer o fanteision, fel llwybrau newydd i farchnadoedd a rhagor o ddewis i ddefnyddwyr. Rydym yn ymwybodol, fodd bynnag, fod llawer o bryderon ynghylch cydymffurfiaeth â’r gofynion presennol ac effaith eiddo a gaiff eu gosod am gyfnodau byr ar y stoc tai ac ar gymunedau.
Bydd ein cynlluniau ar gyfer datblygu cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety i ymwelwyr yn canolbwyntio ar sicrhau sefyllfa deg fel rhan o ymateb hirdymor i’r heriau enfawr rydym yn eu hwynebu.
Darllenwch y datganiad yn llawn yma – Datganiad Llafar: Cynllun trwyddedu statudol ar gyfer pob llety ymwelwyr yng Nghymru (15 Tachwedd 2022) Datganiad Llafar: Cynllun trwyddedu statudol i bob llety ymwelwyr yng Nghymru (15 Tachwedd 2022) | LLYW.CYMRU
Mae cynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru flaengar, fodern ar y llwyfan byd-eang a ddarperir gan Gwpan y Byd FIFA yn Qatar wedi eu datgelu gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething heddiw.
- Cyhoeddi 'Lleisiau' - llysgenhadon i Gymru yn Qatar
- Lansio ymgyrch farchnata newydd fyd-eang
Bydd yr ymgyrch yn cyflwyno gwerthoedd Cymru a sicrhau gwaddol cadarnhaol o weld Cymru yn cystadlu yn yr ymgyrch Cwpan y Byd cyntaf mewn 64 mlynedd.
Gyda llai nag wythnos i fynd nes bod Cymru'n chwarae'r gêm grŵp gyntaf yn erbyn UDA, mae rhaglen o weithgareddau Llywodraeth Cymru wedi hen ddechrau mewn ymgais i arddangos y gorau o Gymru ar lwyfan byd-eang a chyflwyno Cymru i gynulleidfaoedd newydd.
Ceir rhagor o wybodaeth ar gael yn Dyma Gymru - mynd â Chymru i'r byd yn ystod Cwpan y Byd FIFA | LLYW.CYMRU
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|