Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

4 Tachwedd 2022


path

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Ymchwil a Chipolwg: Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos) 2021 a Tracio Bwriadau Domestig Prydain Fawr; Sgiliau: Rhaglen Sgiliau Hyblyg; Pecyn Cymorth Twristiaeth Bwyd; Lansio Twristiaeth Gynaliadwy Cymru y mis hwn; Pecyn cymorth cyfathrebu Byw'n Ddiogel gyda COVID-19: Cadwch Gymru'n Ddiogel; Pam mae’n bwysig ailgylchu; Ffeithlen Cymorth â Biliau Ynni; Canllawiau Cymru Iach ar Waith newydd er mwyn helpu cyflogwyr i gefnogi staff drwy'r argyfwng costau byw; Wythnos Cyllid Busnes 2022; Cynllun Benthyciadau Adfer


Ymchwil a Chipolwg:

Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos) 2021

Mae amcangyfrifon o nifer a gwerth y tripiau twristiaeth dros nos gan drigolion o Brydain Fawr i Gymru yn 2021 wedi’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Dyma’r tro cyntaf i ystadegau o Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr ac arolwg ymweliadau undydd Prydain Fawr gael eu cyfuno i’w cyhoeddi. Cofnodir tripiau a gwariant y cyfnod Ebrill 2021 i Ragfyr 2021.  Rhwng Ebrill a Rhagfyr 2021, bu 9.97 miliwn o dripiau dros nos gan drigolion o Brydain Fawr i Gymru, gan dreulio 35,52 miliwn o nosau a gwario £1,979 miliwn yn ystod y tripiau hyn.  Mae’r dulliau cyfrif newydd a gyflwynwyd yn 2021 ynghyd â’r tarfu ar y cyfrif data oherwydd COVID-19 yn golygu na ellir cymharu’r canlyniadau a gyhoeddwyd o Ebrill 2021 yn uniongyrchol â’r data a gyhoeddwyd ar gyfer 2019 a blynyddoedd cynt.

Disgwylir cyhoeddi’r amcangyfrifon cyntaf ar gyfer Tripiau Undydd Prydain Fawr yn Rhagfyr 2022.

Tracio Bwriadau Domestig Prydain Fawr

Mae canlyniadau Hydref 2022 Tracio Bwriadau Domestig Prydain Fawr wedi’u cyhoeddi ar wefan VisitBritain.  Mae’r don ymchwil ddiweddaraf yn dangos bod yr argyfwng costau byw yn bryder amlwg iawn ym meddyliau pobl ac yn cael effaith negyddol ar nifer y gwyliau domestig a thramor y mae pobl yn bwriadu’u cymryd dros y 12 mis nesaf. Mae teithwyr yn bwriadu torri hefyd ar eu gwariant ar y tripiau dros nos ac undydd y bwriedir eu cymryd.  Parheir i gynnal yr arolwg bob mis tan fis Ebrill flwyddyn nesaf.


Sgiliau:

Rhaglen Sgiliau Hyblyg

A oes angen gwella sgiliau’ch staff i helpu’ch busnes i dyfu a datblygu? Mae’r Rhaglen Sgiliau Hyblyg yn cynnig cymorth ariannol i fusnesau o Gymru sydd am wella sgiliau eu gweithlu yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch.

Dyma oedd gan un busnes i’w ddweud am y Rhaglen: “Gwnaeth y Rhaglen Sgiliau Hyblyg ein helpu i ganolbwyntio’n meddyliau ar anghenion hyfforddi ein staff. Gwnaethon ni weld pa sgiliau oedd yn brin a chawsom gymorth o 50% i gynnal yr hyfforddiant yr oedd ei angen i lenwi’r bwlch.”

I wybod mwy pa fath o hyfforddiant y gall y rhaglen ei helpu – ewch i’r adran Twristiaeth a Lletygarwch ar Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru Porth Sgiliau (llyw.cymru)


Pecyn Cymorth Twristiaeth Bwyd

Mae bwyd a diod yn mynd law yn llaw â lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru. O gyfuno bwyd tymhorol â chynhwysion lleol, mannau diddorol i fwyta ac aros, rhai o gogyddion gorau’r byd, a dyna ichi grynhoi’r sector lletygarwch yng Nghymru a’i enw da haeddiannol am ansawdd rhagorol.

Dysgwch pam mae twristiaeth bwyd yn bwysig i Gymru ac i’ch busnes yn y Pecyn Cymorth Twristiaeth Bwyd.pdf (gov.wales)


Lansio Twristiaeth Gynaliadwy Cymru y mis hwn

Mae Croeso Cymru wedi ymuno â Busnes Cymru i ddarparu cynllun cymorth newydd i fusnesau: Twristiaeth Gynaliadwy Cymru.

Caiff y cynllun ei lansio ddiwedd y mis a bydd yn cynnig cyngor a chymorth ar sut i arbed arian a hyrwyddo’ch busnes mewn ffyrdd cynaliadwy.

Gan fanteisio ar brofiad ymarferol arbenigwyr yn y diwydiant, nod Twristiaeth Gynaliadwy Cymru yw helpu busnesau twristiaeth a chi i gymryd camau ymarferol i fod yn fusnesau gwyrddach.

Bydd y cynllun yn cynnwys rhoi cyngor da yn ogystal ag opsiynau ariannu a chymorth marchnata.  Cadwch olwg am ragor o fanylion yn ein taflen newyddion ac ar twitter - @CroesoCymruBus a @VisitWalesBiz.


Pecyn cymorth cyfathrebu Byw'n Ddiogel gyda COVID-19: Cadwch Gymru'n Ddiogel

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i gynnal ymddygiadau allweddol sy'n amddiffynnol – i gadw eu hunain a'r bobl o'u cwmpas yn ddiogel.

Mae yna gamau y gallwn eu cymryd i helpu i leihau'r risg o ddal COVID-19, a heintiau anadlol eraill, fel y ffliw, a'u trosglwyddo i eraill. 

Mae asedau digidol ar gael i chi allu eu defnyddio ar eich sianeli eich hun i gefnogi a chyfathrebu'r canllawiau.

Darllenwch fwy ar wefan Busnes Cymru.


Pam mae’n bwysig ailgylchu

Yn ystod Wythnos Ailgylchu 2022, cafodd pawb eu hannog i ailgylchu fwy. Darllenwch fwy am bwysigrwydd ailgylchu ac am bum myth ailgylchu.


Ffeithlen Cymorth â Biliau Ynni

Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru eu Ffeithlen Cymorth â Biliau Ynni ac wedi nodi camau i gefnogi pobl a busnesau gyda'u biliau ynni. Cewch ragor o wybodaeth ar Ffeithiau am gymorth gyda biliau ynni GOV.UK


Canllawiau Cymru Iach ar Waith newydd er mwyn helpu cyflogwyr i gefnogi staff drwy'r argyfwng costau byw

Mae Cymru Iach ar Waith wedi lansio canllawiau newydd i gyflogwyr ar yr 'Argyfwng Costau Byw'. 

Mae'r adran newydd ar y wefan yn darparu cyngor i gyflogwyr ar sut y gallant gefnogi iechyd a llesiant eu staff yn ystod yr argyfwng economaidd presennol. Mae hefyd yn cynnwys dolenni i wasanaethau ac adnoddau llesiant ariannol defnyddiol, gan gynnwys podlediad arbenigol Cymru Iach ar Waith gyda'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Dysgwch fwy ar Canllawiau Cymru Iach ar Waith newydd er mwyn helpu cyflogwyr i gefnogi staff drwy'r argyfwng costau byw | Busnes Cymru (gov.wales)


Wythnos Cyllid Busnes 2022

Trwy gydol yr wythnos 7 i 11 Tachwedd 2022, bydd Banc Busnes Prydain, ynghyd â phartneriaid cymorth busnes o bob rhan o'r DU, yn gweithio gyda'i gilydd i gynnal Wythnos Cyllid Busnes gyntaf 2022.

Dros bum diwrnod o ddigwyddiadau cenedlaethol a rhanbarthol, gweminarau a mwy, byddwn yn helpu busnesau llai i ddysgu popeth am y gwahanol opsiynau cyllid sydd ar gael iddyn nhw i gefnogi eu hanghenion unigol. Dysgwch fwy am Wythnos Cyllid Busnes 2022 | Busnes Cymru (gov.wales)


Cynllun Benthyciadau Adfer

Bwriad iteriad newydd y Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS) yw cefnogi mynediad at gyllid i fusnesau yn y DU wrth iddynt geisio buddsoddi a thyfu. Dysgwch fwy ar wefan Busnes Cymru.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Dolenni Defnyddiol


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram