Cyfleoedd i gwrdd a gwneud busnes gyda gweithredwyr rhyngwladol
Mae dau gyfle dan arweiniad VisitBritain yn cael eu cynnal yn 2023 – ITB Berlin ac ExploreGB Virtual – yn ogystal â gweithdy cwrdd â'r prynwr allweddol gan Weithredwr Teithiau Ewropeaidd (ETOA), a gefnogir gan VisitBritain: Britain & Ireland Marketplace 2023.
Mae manylion am y digwyddiadau hyn a sut i gofrestru i'w gweld isod. I gael rhagor o wybodaeth, gweler dolenni gwe'r digwyddiadau unigol neu cysylltwch â traveltradewales@llyw.cymru , neu flavia.messina@visitbritain.org (ar gyfer digwyddiadau VisitBritain yn unig).
Os oes gennych ddiddordeb mewn busnes domestig yn unig, cysylltwch â ni am gyfleoedd eraill yn 2023.
Britain and Ireland Marketplace: 27 Ionawr 2023 – Intercontinental Llundain, yr O2
Mae'r digwyddiad hwn yn dod â'r cynnyrch twristiaeth Prydeinig a Gwyddelig gorau at ei gilydd. Mae'n gyfle i gwrdd â gwneuthurwyr penderfyniadau byd-eang allweddol o brynwyr o ansawdd uchel mewn cyfres o apwyntiadau un-i-un - o weithredwyr teithiau bach pwrpasol i weithredwyr grwpiau, i gyd yn barod i fanteisio ar y cynhyrchion twristiaeth gorau o Brydain ac Iwerddon. Bydd VisitBritain hefyd yn dod â 100 o brynwyr ychwanegol o farchnadoedd targed yng Ngogledd America ac ar draws Ewrop.
Mae Croeso Cymru yn falch iawn i bartneru ag ETOA i gynnig disgownt unigryw, gan alluogi partneriaid Croeso Cymru i arbed £200 drwy ddefnyddio cod gostyngol 23WALBIM wrth gofrestru ar gyfer y digwyddiad. Pris gostyngol: £699 + TAW i’r prif gynrychiolwr. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i: Overview (etoa.org).
ExploreGB
Mae VisitBritain wedi agor y broses gofrestru ar gyfer ExploreGB Virtual 2023, sy'n ymwneud â thros 20 o gyrchfannau yn fyd-eang ac sy’n estyn gwahoddiad i dros 300 o brynwyr, gan ganiatáu i brynwyr a chyflenwyr byd-eang gwrdd yn rhithiol ar blatfform pwrpasol VisitBritain.
Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn cynnig:
- Eich dyddiadur eich hun o apwyntiadau rhithwir un i un a chyfle i arddangos eich busnes drwy eich Bwth Arddangos Rhithwir
- Mynediad i gronfa ddata o dros 300 o brynwyr yn fyd-eang, cynnwys hyfforddiant ar-lein addysgiadol ac ymchwil
- Cymorth busnes cynhwysfawr un i un gyda thîm VisitBritain ac arbenigwyr yn y farchnad
Cewch ragor o wybodaeth ar: ExploreGB Virtual 2023 – Cofrestrwch nawr | VisitBritain
ITB Berlin 2023 – 7-9 March 2023
Bydd VisitBritain yn cynnal Stondin benodol yn y DU yn ITB Berlin 2023, y ffair Fasnach Deithio fwyaf yn y byd i arddangos y gorau o Brydain i brynwyr Almaenig a byd-eang (digwyddiad masnach/cyfryngau yn unig erbyn hyn). Bydd Croeso Cymru yn cynrychioli Cymru ar stondin VisitBritain yn 2023, gan feithrin cysylltiadau allweddol i’w trosglwyddo fel y bo'n briodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yno ochr yn ochr â ni, cofrestrwch nawr i gael mynediad at amlygrwydd amhrisiadwy yn y sioe, rhwydwaith gyda chyd-bartneriaid yn y diwydiant a chael mwy o adnabyddiaeth yn fyd-eang. Cewch ragor o wybodaeth ar: ITB Berlin 2023 - Register now | VisitBritain.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|