 |
|
Mae Ysgol Gyfun Treforys wedi defnyddio 'hyrwyddwyr' a newid technegau rheoli er mwyn helpu cyflwyno ei cwricwlwm newydd. Darganfyddwch mwy ar ein blog!
|
Sgwrs gyda Jeremy Miles
Ydych chi’n bennaeth ysgol neu goleg?Oes gennych chi ddiddordeb mewn sgwrs â'r Gweinidog? Os hoffech gymryd rhan mewn sgwrs agored ac anffurfiol gyda'r Gweinidog, anfonwch e-bost atom Dysg@llyw.cymru gyda'ch dyddiad dewisol.
Dyddiadau ar gael: 24 Tachwedd 2022 ac 15 Rhagfyr 2022
Mae Adran Addysg o’r Canllawiau Cartrefi i Wcráin ar gyfer awdurdodau lleol wedi eu diweddaru i gynnwys cyngor ar Addysg Ddewisol yn y Cartref. Gellir dod o hyd i'r cyngor o dan yr adran ar Addysg Ysgol Gynradd ac Uwchradd: Cartrefi i Wcráin: addysg
Athrawon, rhannwch gyda’ch rhieni a gofalwyr.
Cytundeb data: Benaethiaid, cofiwch fod rhaid i chi dderbyn y cytundeb data ar gyfer y flwyddyn ysgol 2022-2023 ac adolygu swyddogaethau staff cyn i’ch staff allu cael mynediad i’r system asesiadau personol.
Cynllunio’r camau nesaf: Gweler sut mae Ysgol Gynradd Mwynglawdd ac Ysgol Gynradd Llanusyllt/Saundersfoot wedi defnyddio adroddiadau’r asesiadau personol i gynllunio ar gyfer cynnydd. Hefyd, gall y gweminarau sydd ar y system eich helpu i ystyried sut i ddefnyddio’r wybodaeth yn yr adroddiadau.
Yn cau 28 Hydref
Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud mewn ymateb i adroddiad Estyn ar sut mae cynnal ysgolion cynradd, uwchradd, hollt ac arbennig yn datblygu dulliau effeithiol o asesu sy'n gwella addysgu a dysgu.
Mae Prif Weinidog Cymru wedi cyhoeddi bod Efa Gruffudd Jones wedi’i phenodi’n Gomisiynydd y Gymraeg.
Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Bydd sesiynau byw yn y pynciau craidd ar gael i fyfyrwyr TGAU ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr. Caiff y sesiynau eu cyflwyno ar Microsoft Teams drwy Hwb, ar ôl oriau ysgol.
Mae’r casgliad hwn o ganllawiau yn rhoi gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr ynghylch y cyfryngau cymdeithasol a’r apiau gemau mwyaf poblogaidd ymhlith plant a phobl ifanc heddiw.
Pleser o'r mwyaf yw cyhoeddi lansiad cystadleuaeth Her Clwb y Dyfodol WRU 2022-23! - dydd Llun 24 Hydref 2022.
Wrth ddathlu pen-blwydd Cwmpas yn 40, mae Cwmpas a Hwb yn falch o gyhoeddi cystadleuaeth ‘Cydweithredwyr Yfory’ ar gyfer disgyblion oed 7-11.
Adnoddau newydd
Gwefan newydd sy'n cynnig llawer o adnoddau i ddysgwyr ac athrawon i'w cefnogi gyda lles meddyliol
Mae ieithoedd rhyngwladol yn elfen gyffrous o'r Cwricwlwm i Gymru. Bydd angen i ddysgwyr symud ymlaen mewn ieithoedd rhyngwladol fel Almaeneg o’r ysgol Gynradd. Mae ein cydweithwyr yn y Goethe-Institut yn cynnig cwrs a gweithdai rhad ac am ddim ym Mhrifysgol Caerdydd ar 11 Tachwedd (10–17:30) i athrawon Cynradd i helpu i wella eu Almaeneg.
|