© James Bowden
Diweddariad diwydiant marchnata Croeso Cymru: adnoddau ar ôl y digwyddiad bellach ar gael
Ar 13 Hydref 2022, cynhaliodd Croeso Cymru sesiwn ar-lein i’r diwydiant twristiaeth a oedd yn rhannu gwybodaeth am
- Ymgyrchoedd defnyddwyr yr Hydref a'r Gaeaf
- Thema Blwyddyn ar gyfer 2023
- Gweithgareddau y Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes
- Gweithgareddau Cwpan y Byd
- Cynulleidfaoedd defnyddwyr yn cael eu targedu dros y 6 mis nesaf
Mae gwybodaeth o'r sesiwn bellach ar gael drwy’r canlynol:
- Recordiad o’r digwyddiad diwydiant ar-lein - diweddariad marchnata Croeso Cymru
- Cyflwyniadau marchnata (PDF)
- Dolenni defnyddiol o’r sesiwn
Defnyddiwch y Visit Wales marketing industry update Oct 2022 CY | Drupal (gov.wales) – a chofiwch ddarllen y Canllaw i’r Diwydiant ar gyfer Blwyddyn Llwybrau 2023 a fydd ar gael yn fuan.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|