|
Mae cwmni coffi o orllewin Cymru yn dathlu ar ôl derbyn clod mawr yng ngwobrau Great Taste Golden Fork 2022. O’r saith cynnyrch Cymreig a gafodd y brif anrhydedd o 3 seren aur yng ngwobrau Great Taste 2022, dyfarnwyd Golden Fork Cymru i Bay Coffee Roasters am eu coffi Indonesian Sumatran Masnach Deg Organig.
|
|
Beth am ddechrau ar nodyn positif – onid oedd yn anhygoel gweld pawb yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf ar ôl bwlch o 3 blynedd?
Roedd mor galonogol gweld cynifer ohonoch yn y digwyddiad a chlywed eich straeon am y gwytnwch, yr arloesedd a’r ystwythder sydd wedi helpu'r diwydiant i addasu a hyd yn oed i fanteisio ar bandemig Covid. Rwy’n cael fy synnu bob amser gan ddyfeisgarwch y diwydiant hwn ac o weld eich bod, mewn sawl achos, wedi achub ar y cyfle i adfywio’ch busnesau.
Pan adawsom y sioe ar y diwrnod olaf yn ôl yn 2019, pwy allai fod wedi rhagweld pandemig Covid-19 a'r effaith enfawr y byddai’n ei chael ar yr economi fyd-eang, ar economi’r DU a Chymru, ar y ffordd y mae busnesau'n gweithredu ac, wrth gwrs, ar ein bywydau personol.
|
|
|
Tîm o gynghorwyr arbenigol yn y diwydiant yw Cyflymydd Digidol SMART sy'n gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i nodi'r dechnoleg gywir i roi hwb i'w llinell waelod. Gyda chymaint o dechnolegau newydd ar gael, gall fod yn anodd nodi pa rai fydd yn iawn ar gyfer eich busnes, gan eich helpu i ddatrys y problemau rydych chi'n eu hwynebu nawr ac yn y dyfodol. Ond gyda chefnogaeth Cyflymydd Digidol SMART, gallwch fanteisio ar gyfleoedd newydd, tyfu fel sefydliad a gwella cystadleurwydd. Mae'r tîm eisoes yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr o sawl sector gwahanol, gan gynnwys bwyd a diod.
|
|
|
Gweledigaeth strategol Llywodraeth Cymru yw adeiladu diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog gyda chadwyni cyflenwi cynaliadwy sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth ac sydd ag un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf amgylcheddol a chymdeithasol gyfrifol yn y Byd.
|
|
|
Mae Clwstwr Cynaliadwyedd Bwyd a Diod Cymru a gefnogir gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd carreg filltir o ei 100 o gynhyrchwyr. Mae'r busnesau hyn yn cynhyrchu ystod eang o gynhyrchion o eitemau arbenigol ar gyfer marchnadoedd niche i eitemau cyfaint uchel ar gyfer rhwydweithiau dosbarthu mawr.
|
|
|
Sefydlwyd Cradoc’s gan Allie Thomas yn 2008 ar ôl iddi sylweddoli nad oedd y cracers a’r bisgedi ar ei bwrdd caws yn agos at ansawdd y caws yr oedd yn ei fwyta. Perswadiodd Allie ei merch Ella i’w helpu ac aethon nhw ati i bobi rhai eu hunain!
|
|
|
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflogi pobl sydd wedi'u dadleoli o Wcráin yn dilyn yr ymosodiad gan Rwsia. Mae mynediad at gyflogaeth yn bwysig i bobl o Wcráin wrth iddynt adeiladu bywydau newydd yng Nghymru. Mae cyflogi pobl o Wcráin hefyd yn rhoi mynediad i gyflogwyr yng Nghymru at dalent, sgiliau, a phrofiad i helpu eu sefydliadau.
|
|
|
Wedi’i lansio gan y National Skills Academy for Food and Drink (NSAFD) a’r Food and Drink Federation (FDF), bydd y Pasbort Gyrfaoedd yn cyflymu’r broses o’ch rhoi ar restrau byr am gyfweliadau a chynefino mewn swyddi newydd, gan arbed amser ac arian i wneuthurwyr, a rhoi talent newydd awyddus ac ymroddedig ar y trywydd cyflym i mewn i’r sector.
|
|
|
Newid yn yr Hinsawdd 2022
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, sy'n gwireddu uchelgais Gweinidogion Cymru ar draws meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiadau radical ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd ar hyd y daith i 'Cymru Sero Net'.
'Bwyd a Diod Cymru' sy'n mynd ati o hyd i'r weledigaeth o gael sector bwyd a diod a'r lefelau uchaf o gyfrifoldeb amgylcheddol a chymdeithasol. Mae gan Gymru'r cynhwysion cywir i fusnesau fod yn gynaliadwy ac yn gystadleuol, gyda:
|
|
|
Mae Dietau'r Dyfodol yn ymchwil bwysig iawn, sy'n rhoi darlun tymor hir ar dueddiadau bwyta cwsmeriaid yn ystod y 10 mlynedd nesaf, a bydd yn hollbwysig o ran helpu busnesau i lunio strategaeth busnes a datblygu cynnyrch newydd tymor hir. y gwaith ymchwil hwn ei arwain ar y cyd gan y Rhaglen Mewnwelediad ac IGD, a chafwyd cefnogaeth gan Kantar a thefoodpeople. Dewch o hyd i’r ymchwil hwn ar yr Hwb Mewnwelediad yn Ardal Aelodau Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru.
|
|
|
Manylion o gyllid llwyddiannus ar gyfer Gwyliau Bwyd a Digwyddiadau 2022/2023.
|
|
|
Mae bwyd a diod yn mynd law yn llaw â lletygarwch a thwristiaeth yng Nghymru. Cyfunwch fwyd tymhorol a chynhwysion lleol o safon, lleoedd diddorol i fwyta ac aros, a rhai o gogyddion gorau’r byd, ac rydych yn diffinio’r sector lletygarwch yng Nghymru â’i enw haeddiannol am ragoriaeth.
|
|
|
Mae'r UGRGC yn cynorthwyo cyfnewid syniadau rhwng sefydliadau gwledig. Mae ar gael i unrhyw un:
- gyda diddordeb mewn datblygu gwledig
- ymwneud â Chymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 a'r cynlluniau y mae'n eu hariannu.
- cadw i fyny efo gwybodaeth ariannu yn y dyfodol
|
Mae’r Hydref yn gyfnod cyffrous i Gymru gan y bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn chwarae yng Nghwpan y Byd a bydd Gemau Rygbi Rhyngwladol yr Hydref yn cael eu cynnal drwy gydol mis Tachwedd. Cynhelir ymgyrch #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste ledled diwydiant Bwyd a Diod Cymru, a bydd yn dychwelyd i ysgogi ymgysylltiad â’r farchnad a chodi ymwybyddiaeth defnyddwyr, gan alw ar gefnogwyr i ddangos eu balchder cenedlaethol a #CaruTimCymru #LoveTeamWales. Bydd busnesau bwyd a diod yn cael cynnig pecyn cymorth digidol ac yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr ymgyrch.
|
|
Mae recriwtio ar y gweill erbyn hyn i arddangos gyda Llywodraeth Cymru o dan y fanner Bwyd a Diod Cymru yn sioe Gulfood, Dubai 20 Chwefror - 24 Chwefror 2023. Nodwch y dyddiad cau ar gyfer derbyn eich ffurflen cais i arddangos yw'r 24 Hydref 2022.
|
|
|
Ym mis Hydref a mis Tachwedd 2022 byddwn yn cynnal cyfres o weithdai hyfforddi datgarboneiddio a fydd yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd symud tuag at sero net ar gyfer y sector, Cymru, y DU a buddion byd-eang drwy ddarparu’r sgiliau cywir i fuddiolwyr wneud penderfyniadau ar sut y gallant symud tuag at sero net, rhannu arfer gorau gyda chydweithwyr a rhoi newidiadau ar waith i’w strategaethau busnes, technoleg a dylunio prosesau mewn arferion gwaith o ddydd i ddydd.
|
|
|
Dewch i siarad a'r tim am gynyddu eich busnes bwyd neu ddiod!
Rydyn ni’n crwydro’r ffyrdd gyda’n Cymorthfeydd Uwchraddio. Ymunwch â ni am sgwrs gyfrinachol gyda’n harbenigwyr uwchraddio am eich cynlluniau i dyfu eich busnes a sut gallwn ni eich helpu i’w gwireddu.
|
|
|
Cyflwynydd - Chris Hayward,Cyfarwyddwr Gwerthiant IGD
Wedi’i drefnu ar y cyd gan Raglen Masnach Bwyd & Diod Cymru, y Rhaglen Mewnwelediad ac Arloesi Bwyd Cymru.
|
|
|
Ar ôl Cynhadledd Bwyd Rhanbarthol cyntaf De-orllewin Cymru ym mis Hydref 2021 a digwyddiad ail-lunio nôl ym mis Ebrill 2022, rydym yn dod yn ôl at ein gilydd i rannu diweddariadau, archwilio prosiectau sy'n dod i'r amlwg, ac annog cydweithio ar bob peth sy'n ymwneud â tyfu, cynhyrchu, dosbarthu, rhannu a gofalu am fwyd yn Ne-orllewin Cymru.
|
|
|
DeMae Cyrchfan: Dwyrain Canol yn brosiect peilot i gefnogi hyrwyddiadau manwerthu yn y farchnad ac ymgysylltu â defnyddwyr mewn masnach. Bydd amrywiaeth o fwyd a diod o Gymru yn cael eu hyrwyddo ar y cyd am gyfnodau mewn archfarchnadoedd targed, gwestai pen uchel a bwytai o amgylch Dydd Gwyl Dewi 2023.
|
|
|