Cyfleoedd i arddangos mewn arddangosfeydd digwyddiadau busnes byd-eang 2023
Mae tîm Digwyddiadau Cymru, Cwrdd yng Nghymru yn arddangos gyda stondin â brand Cymru mewn pedwar digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer Digwyddiadau Busnes yn 2023:
- IMEX, Frankfurt 23 -25 Mai 2023
- The Meetings Show, ExCel, Llundain 28 – 29 Mehefin 2023
- IMEX America, Las Vegas 09 – 12 Hydref 2023
- IBTM World, Fira, Barcelona 28 – 30 Tachwedd 2023 (dyddiadau i'w cadarnhau)
Er mwyn cefnogi cyflenwyr digwyddiadau busnes sydd eisoes wedi ennill eu plwyf yng Nghymru a'r rheiny sydd yn datblygu eu cynnyrch, cynnigir hyd at 12 o leoedd ym mhob arddangosfa a'r cyfle i arddangos ar bafiliwn Cwrdd Yng Nghymru
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 4.00pm, 7 Hydref 2022.
Am fwy o wybodaeth ar gymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i: Business Events Wales – Exhibition Opportunities - CY | Drupal (gov.wales).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Cwrdd yng Nghymru CwrddyngNghymru@llyw.cymru.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|