Bwletin Newyddion: NODYN ATGOFFA: Sesiwn ar-lein - Diweddariad diwydiant marchnata Croeso Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

5 Hydref 2022


Forest

NODYN ATGOFFA: Sesiwn ar-lein - Diweddariad diwydiant marchnata Croeso Cymru, 13 Hydref 2022,  10:30am tan 12pm: COFRESTRU YN CAU AR 7 HYDREF

Cofrestrwch nawr ar gyfer sesiwn ar-lein Croeso Cymru lle bydd cyfle i fusnesau glywed am weithgareddau marchnata dros gyfnod yr hydref a'r gaeaf.

Cynhelir y sesiwn drwy MS Teams ar 13 Hydref 2022 rhwng 10.30am a 12pm.

Ymunwch â ni i glywed am ein gweithgareddau marchnata “uwchben y llinell” (ATL), sy’n cyflwyno Thema’r Flwyddyn ar gyfer 2023 - a ddewiswyd yn ofalus i alluogi pob cyrchfan a chynnyrch yng Nghymru i gymryd rhan a gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo Cymru – a mynd â’r rhai fydd yn bresennol drwy ein canllawiau i'r diwydiant, a fydd ar gael ar-lein. 

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o:

  • Ymgyrchoedd defnyddwyr yr Hydref a'r Gaeaf
  • Thema Blwyddyn ar gyfer 2023
  • Gweithgareddau y Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes
  • Gweithgareddau Cwpan y Byd
  • Cynulleidfaoedd defnyddwyr a fydd yn cael eu targedu dros y 6 mis nesaf

Bydd cyfle i fusnesau ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb byr.

Bydd adnoddau ar gael i bawb sy'n bresennol, gan gynnwys dadansoddiadau o fathau o gynulleidfaoedd a chanllawiau i'r diwydiant ar gyfer thema y flwyddyn yn 2023.

Cofrestrwch i ymuno â ni, erbyn 3:00pm, 7 Hydref: Digwyddiadur Busnes Cymru - Diweddariad diwydiant marchnata Croeso Cymru, Digwyddiadau (business-events.org.uk)

Y cyntaf i’r felin fydd hi, a chaiff dolen ymuno ei hanfon cyn y digwyddiad at bawb fydd yn cymryd rhan.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram