© James Bowden
Diweddariad diwydiant marchnata Croeso Cymru - Sesiwn ar-lein, 13 Hydref 2022, 10:30am tan 12pm: COFRESTRU NAWR AR AGOR
Mae'r cyfnod cofrestru nawr ar agor ar gyfer sesiwn ar-lein Croeso Cymru lle bydd cyfle i fusnesau glywed am weithgareddau marchnata dros gyfnod yr hydref a'r gaeaf.
Cynhelir y sesiwn drwy MS Teams ar 13 Hydref 2022 rhwng 10.30am a 12pm.
Ymunwch â ni i glywed am ein gweithgareddau marchnata “uwchben y llinell” (ATL), sy’n cyflwyno Thema’r Flwyddyn ar gyfer 2023 - a ddewiswyd yn ofalus i alluogi pob cyrchfan a chynnyrch yng Nghymru i gymryd rhan a gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo Cymru – a mynd â’r rhai fydd yn bresennol drwy ein canllawiau i'r diwydiant, a fydd ar gael ar-lein.
Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o:
- Ymgyrchoedd defnyddwyr yr Hydref a'r Gaeaf
- Thema Blwyddyn ar gyfer 2023
- Gweithgareddau y Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes
- Gweithgareddau Cwpan y Byd
- Cynulleidfaoedd defnyddwyr a fydd yn cael eu targedu dros y 6 mis nesaf
Bydd cyfle i fusnesau ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi ac ateb byr.
Bydd adnoddau ar gael i bawb sy'n bresennol, gan gynnwys dadansoddiadau o fathau o gynulleidfaoedd a chanllawiau i'r diwydiant ar gyfer thema y flwyddyn yn 2023.
Cofrestrwch i ymuno â ni, erbyn 3:00pm, 7 Hydref
https://wales.business-events.org.uk/cy/digwyddiadau/diweddariad-diwydiant-marchnata-croeso-cymru/
Y cyntaf i’r felin fydd hi, a chaiff dolen ymuno ei hanfon cyn y digwyddiad at bawb fydd yn cymryd rhan.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|