Bwletin Newyddion: Dweud eich dweud am ardoll ymwelwyr i Gymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

20 Medi 2022


Beach

Dweud eich dweud am ardoll ymwelwyr i Gymru

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad â’r cyhoedd ar gynigion i roi pwerau i awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr.

Tâl bach i’w dalu gan bobl sy’n aros dros nos mewn llety yng Nghymru fyddai’r ardoll.

Bydd gan bob awdurdod lleol yng Nghymru bŵer i benderfynu a yw am gyflwyno ardoll ymwelwyr, a bydd yr arian sy’n cael ei godi yn cael ei ailfuddsoddi mewn ardaloedd lleol er mwyn cefnogi twristiaeth leol. Gallai hyn amrywio o fuddsoddi mewn cadw’r traethau a’r palmentydd yn lân, i fuddsoddi mewn cynnal parciau, toiledau a llwybrau troed lleol.

Mae dros 40 o wledydd a chyrchfannau gwyliau ledled y byd wedi cyflwyno math o ardoll ymwelwyr, gan gynnwys Gwlad Groeg, Ffrainc, Amsterdam, Barcelona, a Chaliffornia. Byddai ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol yng Nghymru yn gyfran fach iawn o gyfanswm gwariant ymwelydd.

Mae’r ymgynghoriad helaeth yn gofyn am safbwyntiau ynghylch pwy ddylai dalu ardoll, pwy fyddai’n codi’r ardoll ac yn ei gasglu, y dull gorau o’i weithredu, a sut y gellid dyrannu’r refeniw o’r dreth.

Bydd y broses ofalus o drosi’r cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr yn ddeddfwriaeth ac yna’n gamau gweithredu yn ymestyn dros nifer o flynyddoedd, ac yn dibynnu ar gymeradwyaeth y Senedd.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

“Diben y cynigion hyn yw paratoi ar gyfer y dyfodol. Ein bwriad yw ennyn ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd ymysg preswylwyr ac ymwelwyr dros warchod ein hardaloedd lleol a buddsoddi ynddyn nhw. Drwy ofyn i ymwelwyr – p’un a ydyn nhw wedi teithio o fannau eraill yng Nghymru neu o bellach draw – i wneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella’r ardal y maen nhw’n ymweld â hi, byddwn yn annog dull mwy cynaliadwy o weithredu ar gyfer twristiaeth.”

Mae’r cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr wedi’u datblygu drwy Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru. Dywedodd Cefin Campbell, Aelod Dynodedig Plaid Cymru:

“Er y gall Cymru fod y lle cyntaf yn y DU i gyflwyno ardoll o’r fath, nid Cymru fydd yr olaf i wneud hynny, yn ein barn ni. Fel y gwelsom yn ddiweddar, mae’n bosibl y bydd ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno yng Nghaeredin cyn bo hir, felly nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hyn o beth.

“Rydym am barhau i weld diwydiant twristiaeth ffyniannus yng Nghymru. Mae’n hanfodol bod gennym dwristiaeth gynaliadwy a chyfrifol sy’n gweithio i ymwelwyr a’r cymunedau y maen nhw’n ymweld â nhw fel ei gilydd. Pe bai awdurdodau lleol yn penderfynu gweithredu ardoll ymwelwyr, fe allai hynny wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn cymunedau ledled Cymru o ran helpu i ddatblygu gwasanaethau a seilwaith lleol, a’u gwarchod. Rydym yn croesawu pob safbwynt er mwyn deall beth fyddai’n gweithio’n dda i Gymru, ac rydym yn annog pawb i gyfrannu i’r ymgynghoriad."

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:

“Mae Cymru yn adnabyddus ledled y byd fel cyrchfan gwych i ymweld â hi, ond mae’n bwysig sicrhau bod twristiaeth yn gynaliadwy a’i bod yn elwa ar ddigon o fuddsoddi er mwyn gallu ei mwynhau yn y dyfodol. O dan y cynigion hyn, byddai gan gynghorau ddisgresiwn i osod yr ardoll fel bod eu cymunedau a’r seilwaith twristiaeth yn cael eu hariannu’n briodol.  “Mae ardollau yn nodwedd gyffredin ar gyrchfannau twristiaid yn rhyngwladol, ac mae’r ymgynghoriad sydd i ddod yn gyfle pwysig i breswylwyr a busnesau gael dweud eu dweud am y ffordd ymlaen.”

Darllenwch y datganiad ar Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol | LLYW.CYMRU



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram