Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
CYNNWYS BWLETIN: Sesiwn rithwir ar yr ymgynghoriad ardoll ymwelwyr; Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA: Gweinidog yr Economi yn datgelu prosiectau Llywodraeth Cymru i fynd â Chymru i'r Byd; Diweddariad diwydiant marchnata Croeso Cymru - Sesiwn ar-lein, 13 Hydref 2022, 10:30am tan 12pm: COFRESTRU AR AGOR; DYSGU: Cyfrif Dysgu Personol; Cyfleoedd i arddangos mewn arddangosfeydd digwyddiadau busnes byd-eang 2023; Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2022; Bil Plastig Untro; Cefnogwch Wythnos Ailgylchu 2022: Helpu i gael Cymru i Rif 1
Sesiwn rithwir ar yr ymgynghoriad ardoll ymwelwyr
Bydd Llywodraeth Cymru’n cynnal sesiwn rithwir ar yr ymgynghoriad ar yr ardoll ymwelwyr ddydd Iau 27 Hydref, 9.30am–11:00am. Bydd y digwyddiad hwn yn cyflwyno’r un wybodaeth ag a fydd yn cael ei rhoi yn ystod y pedwar digwyddiad wyneb yn wyneb sy'n cael eu cynnal dros yr wythnosau nesaf a bydd yn cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau i swyddogion Llywodraeth Cymru.
Os byddai gennych ddiddordeb mewn mynychu’r digwyddiad hwn, anfonwch e-bost at ardollymwelwyr@llyw.cymru yn datgan eich diddordeb er mwyn ein galluogi i ddefnyddio'r dull technolegol priodol gan ddibynnu ar y niferoedd sy'n mynychu.
Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA: Gweinidog yr Economi yn datgelu prosiectau Llywodraeth Cymru i fynd â Chymru i'r Byd
"Gyda chynulleidfa fyd eang o bum biliwn o bobl, mae Cwpan y Byd FIFA yn cynnig llwyfan i fynd â Chymru i'r byd."
Dyna'r neges gan y Gweinidog Economi, Vaughan Gething, sydd wedi datgelu amryw o fentrau sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, fydd yn hybu a dathlu Cymru yn y twrnament yn Qatar.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar: Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA: Gweinidog yr Economi yn datgelu prosiectau Llywodraeth Cymru i fynd â Chymru i'r Byd | LLYW.CYMRU.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion y cymorth sydd ar gael, ewch i: Datganiad Ysgrifenedig: Cronfa Cefnogi Partneriaid Cwpan y Byd.
Diweddariad diwydiant marchnata Croeso Cymru - Sesiwn ar-lein, 13 Hydref 2022, 10:30am tan 12pm: COFRESTRU AR AGOR
Mae'r cyfnod cofrestru ar agor ar gyfer sesiwn ar-lein Croeso Cymru lle bydd cyfle i fusnesau glywed am weithgareddau marchnata dros gyfnod yr hydref a'r gaeaf.
Cynhelir y sesiwn drwy MS Teams ar 13 Hydref 2022 rhwng 10.30am a 12pm.
Ymunwch â ni i glywed am ein gweithgareddau marchnata “uwchben y llinell” (ATL), sy’n cyflwyno Thema’r Flwyddyn ar gyfer 2023 - a ddewiswyd yn ofalus i alluogi pob cyrchfan a chynnyrch yng Nghymru i gymryd rhan a gweithio gyda'i gilydd i hyrwyddo Cymru – a mynd â’r rhai fydd yn bresennol drwy ein canllawiau i'r diwydiant, a fydd ar gael ar-lein.
Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o:
- Ymgyrchoedd defnyddwyr yr Hydref a'r Gaeaf
- Thema Blwyddyn ar gyfer 2023
- Gweithgareddau y Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes
- Gweithgareddau Cwpan y Byd
- Cynulleidfaoedd defnyddwyr a fydd yn cael eu targedu dros y 6 mis nesaf
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan y diwydiant twristiaeth a chofrestru erbyn 3pm ar 7 Hydref yn: Digwyddiadur Busnes Cymru - Diweddariad diwydiant marchnata Croeso Cymru, Digwyddiadau (business-events.org.uk)
DYSGU: Cyfrif Dysgu Personol
Mae rhaglen y Cyfrif Dysgu Personol wedi’i gynllunio i helpu busnesau i recriwtio talent newydd a mynd i’r afael â phrinderau sgiliau, nawr ac yn y dyfodol.
Gall y rhaglen gefnogi cyflogwyr nid yn unig i uwchsgilio staff drwy gynnig cyrsiau a chymwysterau hyblyg, ond hefyd drwy gyrchu unigolion sydd eisiau newid gyrfa a mynd i lefel uwch o gyflogaeth.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/cymorth-recriwtio/cyfrif-dysgu-personol
Cyfleoedd i arddangos mewn arddangosfeydd digwyddiadau busnes byd-eang 2023
Mae tîm Digwyddiadau Cymru, Cwrdd yng Nghymru yn arddangos gyda stondin â brand Cymru mewn pedwar digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer Digwyddiadau Busnes yn 2023:
- IMEX, Frankfurt 23 -25 Mai 2023
- The Meetings Show, ExCel, Llundain 28 – 29 Mehefin 2023
- IMEX America, Las Vegas 09 – 12 Hydref 2023
- IBTM World, Fira, Barcelona 28 – 30 Tachwedd 2023 (dyddiadau i'w cadarnhau)
Er mwyn cefnogi cyflenwyr digwyddiadau busnes sydd eisoes wedi ennill eu plwyf yng Nghymru a'r rheiny sydd yn datblygu eu cynnyrch, cynnigir hyd at 12 o leoedd ym mhob arddangosfa a'r cyfle i arddangos ar bafiliwn Cwrdd Yng Nghymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 4.00pm, 7 Hydref 2022.
Am fwy o wybodaeth ar gymhwysedd a sut i wneud cais, ewch i: Business Events Wales – Exhibition Opportunities - CY | Drupal (gov.wales).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Cwrdd yng Nghymru CwrddyngNghymru@llyw.cymru.
Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2022
Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales bellach ar agor ar gyfer ceisiadau.
Diben y gwobrau yw dathlu a chydnabod rhagoriaeth yn sectorau lletygarwch a thwristiaeth y rhanbarth.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 10 Hydref 2022.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar Gwobrau Twristiaeth Go North Wales 2022 | Busnes Cymru (gov.wales).
Bil Plastig Untro
Yn ddiweddar (20 Medi) cafodd Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) ei gyflwyno yn y Senedd, a bydd bellach yn symud drwy’r broses ddeddfwriaethol yn y Senedd. Gellir dilyn y broses hon drwy’r ddolen ganlynol:
Bil drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (senedd.cymru)
Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i ymgysylltu â chi drwy gydol y broses a’ch diweddaru wrth gyrraedd cerrig milltir arwyddocaol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y ddeddfwriaeth bwysig hon yn y cyfamser, cysylltwch â ni ar EQR@llyw.cymru.
Cefnogwch Wythnos Ailgylchu 2022: Helpu i gael Cymru i Rif 1
Fe ŵyr pawb fod pobl Cymru’n ailgylchwyr gwych – ni yw trydedd genedl orau’r byd, ac yn anelu at fod y gorau, ond gallwn wneud llawer mwy.
Cymru yn Ailgylchu sy’n cynnal Wythnos Ailgylchu eleni rhwng 17 – 23 Hydref, gyda ffocws ar daclo dryswch dros beth y gellir – ac na ellir – ei ailgylchu. Os yw eich sefydliad am gefnogi’r ymgyrch eleni, beth am fod yn bartner Wythnos Ailgylchu?
Mae gan Cymru yn Ailgylchu Becyn Adnoddau Partner i’w lawrlwytho i ysbrydoli eich dilynwyr a’ch ymwelwyr i wneud eu rhan. Mae sawl ffordd o gymryd rhan – o oleuo eich adeilad yn wyrdd i hybu ailgylchu, i rannu asedau’r ymgyrch ar eich sianeli cymdeithasol.
Mae asedau Wythnos Ailgylchu ar gael o Lyfrgell Adnoddau WRAP, naill ai drwy gofrestru yma neu fewngofnodi yma. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am sut i gael mynediad i’n Pecyn Adnoddau Partner anfonwch e-bost at: walesrecycles@wrap.org.uk.
Diwygio ardrethi annomestig yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar ystod o gynigion a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i gyfraddau annomestig yng Nghymru.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Busnes Cymru, a chyflwyno eich sylwadau erbyn 14 Rhagfyr 2022.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Dolenni Defnyddiol
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|