Bwletin Newyddion: CADW Y DYDDIAD: Marchnata Croeso Cymru - sesiwn ar-lein

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

8 Medi 2022


Walking

CADW Y DYDDIAD: Marchnata Croeso Cymru - sesiwn ar-lein

Fel yn 2021, mae Croeso Cymru yn cynnal sesiwn ar-lein i drafod gweithgareddau marchnata dros gyfnod yr hydref a'r gaeaf.

Bydd y sesiwn eleni, a gynhelir drwy MS Teams, ar 13 Hydref 2022 a bydd yn rhedeg rhwng 10.30am a 12pm.

Gyda Chymru bellach i'w gweld "uwchben y llinell" (ATL) drwy'r flwyddyn (ar deledu, Fideo Ar Alw, y cyfryngau cymdeithasol, drwy bartneriaethau digidol cyfryngol y telir amdanynt), byddwn yn trafod y gweithgareddau hynny a hefyd yn cyflwyno Thema'r Flwyddyn ar gyfer 2023 - wedi'i dewis yn ofalus i alluogi pob cyrchfan a chynnyrch yng Nghymru i gymryd rhan a chydweithio er mwyn hyrwyddo Cymru. Yn ystod y sesiwn byddwn yn mynd â'r rhai fydd yn bresennol drwy ein canllawiau i'r diwydiant a fydd ar gael ar-lein. 

Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o::

  • Ymgyrchoedd defnyddwyr yr Hydref a'r Gaeaf
  • Thema Blwyddyn ar gyfer 2023
  • Gweithgareddau y Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes
  • Gweithgareddau Cwpan y Byd
  • Cynulleidfaoedd defnyddwyr yn cael eu targedu dros y 6 mis nesaf

Bydd adnoddau ar gael i bawb sy'n bresennol, gan gynnwys dadansoddiadau o fathau o gynulleidfaoedd a chanllaw i'r diwydiant ar gyfer thema y flwyddyn yn 2023.

Bydd manylion pellach ar gael wrth i'r cofrestru agor ymhen pythefnos. 



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram