![art 1](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKWALES_CY/2022/08/6350327/4293216/innovation-in-wales-2_crop.jpg) |
|
Dweud eich dweud am arloesi yng Nghymru
Mae digwyddiadau’n cael eu cynnal ledled Cymru i chi gael dweud eich dweud am Strategaeth Arloesi newydd i Gymru. Helpwch ni i siapio’r strategaeth a datblygu diwylliant arloesi byrlymus mewn Cymru gryfach, tecach a gwyrddach. Cofrestrwch yma
|
100fed rhifyn o Advances Wales allan nawr
Mae 100fed rhifyn Advances Wales yn garreg filltir sy’n edrych ar y meysydd gwaith sydd wedi cael y sylw mwyaf dros y 30 mlynedd diwethaf ac ar ddatblygiadau newydd sbon yn rhai o’r sectorau hyn yng Nghymru. Darllenwch y rhifyn cyfan yma
|
|
![pic 2](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKWALES_CY/2022/08/6350414/4293217/art-3_crop.jpg) |
![art 3](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKWALES_CY/2022/08/6350416/picture4-2_original.jpg) |
|
Cronfa Trawsnewid Cerbydau Carbon Isel Ford
Mae Ford a Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £1.8m ar gyfer cronfa i annog busnesau i roi’r gorau i gynhyrchu peiriannau tanio mewnol a throi at gynhyrchu cerbydau carbon isel. Darllenwch fwy
|
Gwobr Dewi Sant 2023
Mae angen eich help arnon ni i ffeindio enillwyr nesaf Gwobrau Dewi Sant – gwobrau cenedlaethol Cymru. Ydych chi’n gwybod am rywun sy’n gwneud darganfyddiadau arloesol neu sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn i ddiwydiant neu sefydliad? Dysgwch fwy ar wefan Gwobrau Dewi Sant.
|
|
![art 4](https://content.govdelivery.com/attachments/fancy_images/UKWALES_CY/2022/08/6350418/picture5_original.jpg) |
Rhagor o arian ar gyfer Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth
Os ydych yn fudiad yn y trydydd sector ac am weithio’n well, beth am gydweithio â thîm academaidd? Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig grant i dalu am 75% o’r costau. Dysgwch fwy a gweld sut gwnaeth y Bartneriaeth helpu Cymdeithas Plant Dewi Sant yma.
Digwyddiadau Ymgynghori ar y Strategaeth Arloesi i Gymru
Os hoffech gyfle i fynegi’ch barn, beth am ddod i un o’n digwyddiadau ymgynghori?
5 Medi – Prifysgol Abertawe, Abertawe. Cofrestrwch yma
6 Medi – Arloesedd Aber, Aberystwyth. Cofrestrwch yma
7 Medi - Sbarc | Sparc, Caerdydd. Cofrestrwch yma
8 Medi – M-Sparc, Bangor. Cofrestrwch yma
16 Medi – Ar-lein. Cofrestrwch yma
Cymhorthfa Ar Gyfer Y Gystadleuaeth Menywod Mewn Arloesi
6 Medi 2022, 09:00 - 17:00
Cymhorthfa ar Ariannu Arloesedd i helpu cwmnïau dethol yng Nghymru i baratoi ar gyfer y Gystadleuaeth Menywod mewn Arloesedd a gynhelir. Cofrestrwch yma
Cymhorthfa Ar Geisio Am Dendrau
7 Medi 2022, 13:00 - 17:00
Bydd Llywodraeth Cymru ar y cyd ag Innovate UK EDGE yn cynnal cymhorthfa i helpu cwmnïau dethol o Gymru i baratoi ar gyfer Cyflwyno Ceisiadau am Dendr fel rhan o’u cais am gymorth i Innovate UK a KTN-iX. I gofrestru, cliciwch yma
Cyfarfod Cymorth Am Au Ac Ab
14 Medi 2022, 10:00 - 17:00
Yn cynnal Cyfarfod Cymorth Cyllid Arloesi Ar Lein i helpu Athrofeydd AU Ac AB lleolwyd yng Nghymru paratoi eu hunan yn well ar gyfer cynnal prosiectau mwy effeithiol a fusnesau.Cofrestrwch yma
Cyfarfod Cymorth
21 Medi 2022, 10:00 - 16:45
Cyfarfod Cymorth Cyllid Arloesi Ar Lein i helpu Cwmnïoedd dewiswyd yng Nghymru paratoi eu hunan yn well ar gyfer cynnal Prosiectau Ymchwil a Datblygu mwy effeithiol. Cofrestrwch yma
|