Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
CYNNWYS BWLETIN: Ymweliad Gweinidog yr Economi â Cei Llechi ar ei newydd wedd; Adroddiadau galw’r farchnad ym maes twristiaeth: Mehefin 2022; Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau a Croeso Cymru wedi ffurfio partneriaeth i ddarparu cefnogaeth ddigidol AM DDIM i fusnesau twristiaeth; Defnyddio Cymraeg yn eich busnes; Lleihau plastig untro yng Nghymru; Gwella awyru cyffredinol yn y gweithle; Cynllun newydd i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael Gwaith; Gwobrau Dewi Sant 2023
Ymweliad Gweinidog yr Economi â Cei Llechi ar ei newydd wedd
Cafodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, gyfle yn ddiweddar i weld Cei Llechi yng Nghaernarfon ar ei newydd wedd, yn dilyn prosiect adfywio gwerth £5.9 miliwn.
Mae’r prosiect uchelgeisiol hwn, sydd wedi ei gwblhau yn ddiweddar, wedi trawsnewid adeilad Swyddfa’r Harbwr a’r adfeilion y tu ôl iddo a’u hadfywio, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru drwy brosiect Cyrchfannau Denu Twristiaeth Croeso Cymru.
Heddiw yn Cei Llechi mae’r adfeilion gynt wedi’u trawsnewid yn 19 o unedau gweithio ar gyfer gwneuthurwyr crefftau / artisan lleol a bwyty. Mae’r safle hefyd yn cynnwys 3 llety gwyliau hunanddarpar, gydag ystafell fwrdd Swyddfa’r Harbwr ar gael i’w llogi ac ystafell yn cyflwyno rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd hanesyddol Cei Llechi yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Y peth hanfodol yw bod diwydiant a chrefft yn dychwelyd i’r rhan hon o Gaernarfon, er ar raddfa wahanol i’r hen ddyddiau.
Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Gweinidog yr Economi yn ymweld â Cei Llechi ar ei newydd wedd | LLYW.CYMRU.
Adroddiadau galw’r farchnad ym maes twristiaeth: Mehefin 2022
Mae Croeso Cymru wedi cyhoeddi y canfyddiadau diweddaraf o’r ymchwil i’r farchnad a’r brand gan gynnwys marchnadoedd y DU ac Iwerddon.
Cafodd yr arolwg o ymwelwyr posibl i Gymru ei gynnal ym Mehefin 2022 ac mae’n ddiweddariad o arolwg a gynhaliwyd cyn Covid ym mis Chwefror 2020. Mae’n cynnig gwybodaeth bwysig iawn ar ganfyddiadau a chysylltiadau â Cymru fel cyrchfan wyliau, ysgogiadau a rhwystrau i ymweld â Chymru y tu allan i’r prif dymor ac agweddau tuag at deithio cynaliadwy.
Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau a Croeso Cymru wedi ffurfio partneriaeth i ddarparu cefnogaeth ddigidol AM DDIM i fusnesau twristiaeth
Gwyliwch i ddarganfod mwy a dysgu am y weminar dwy ran am ddim sydd wedi'i deilwra ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch lle byddwch yn gweld sut i wneud i'ch busnes sefyll allan ar-lein, cysylltu â chwsmeriaid newydd, elwa mwy o adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol fel platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.
Defnyddio Cymraeg yn eich busnes
Gall defnyddio ychydig o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr a chynnig manteision pwysig i’ch busnes
Mae Helo Blod yn cynnig gwasanaeth cyfieithu i’r Gymraeg sydd am ddim, yn gyflym a chyfeillgar. Cewch wybod mwy ar Croeso i Helo Blod | Helo Blod (gov.wales)
Edrychwch hefyd ar y cwrs hwn sy’n egluro’r manteision a sut y gallwch eu rhoi ar waith. BOSS: Defnyddio’r Gymraeg yn dy Fusnes (gov.wales)
Lleihau plastig untro yng Nghymru
Yn 2020 bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynigion i wahardd neu gyfyngu ar naw o eitemau plastig untro a geir yn aml mewn sbwriel.
Gyda cyfanswm o 3,581 o ymatebion, roedd y mwyafrif llethol o blaid gwahardd y cynhyrchion plastig untro a awgrymwyd. Mae crynodeb o ymatebion i’w gweld ar Lleihau plastig untro yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Yn sgil yr ymgynghoriad hwn, cyflwynir y Bil Diogelu’r Amgylchedd (Plastigau Untro) (Cymru) yn Senedd Cymru.
Mae drafft o’r Bil ar gael ac mae’n dangos cwmpas a chyfeiriad arfaethedig y Bil cyn ei gyflwyno yn ffurfiol yn yr hydref. Bil Drafft Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) | LLYW.CYMRU
Mae’r gwaith yn parhau i baratoi’r Bil ac mae’n debyg y bydd newidiadau cyn ei gyflwyno yn y Senedd. Diweddarir y dudalen hon wrth i’r Bil symud drwy broses ddeddfu y Senedd.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar:
Gwella awyru cyffredinol yn y gweithle
Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod digon o awyru mewn rhannau caeedig o'u gweithle.
Gwyliwch fideo yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) sy'n nodi'r cyngor allweddol ar gyfer darparu digon o awyr iach yn y gwaith.
Mae tudalennau gwe yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd yn rhoi cyngor ar wella awyru yn y gweithle.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar Gwella awyru cyffredinol yn y gweithle | Busnes Cymru (gov.wales).
Cynllun newydd i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael Gwaith
“Mae helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith yn rhan allweddol o’n cynllun gweithredu i sicrhau eu bod yn cael cyfle i fyw bywydau llawn ac annibynnol,” yn ôl y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a oedd yn siarad (23 August 2022) ar ôl cyfarfod â dyn o Gaerdydd sy’n dathlu carreg filltir yn ei waith.
Darllenwch fwy am hyn, rhaglen WorkFit a Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Gweithredu ar Anabledd Dysgu am y Cynllun newydd i helpu pobl ag anableddau dysgu i gael gwaith | Busnes Cymru (gov.wales).
Gwobrau Dewi Sant 2023
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt.
Dysgwch fwy a dod i wybod sut i enwebu ar Gwobrau Dewi Sant 2023 | Busnes Cymru (gov.wales).
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Dolenni Defnyddiol
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|