Bwletin Newyddion: Datganiad Ysgrifenedig - Cwpan y Byd 2022 (gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, 15 Awst)

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

15 Awst 2022


World Cup

Datganiad Ysgrifenedig: Cwpan y Byd 2022 (gan Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, 15 Awst)

Wrth inni fynd heibio’r garreg filltir o 100 diwrnod tan dechrau’r twrnamaint, mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio elwa i'r eithaf ar y cyfleoedd a'r manteision a fydd yn deillio o’r ffaith y bydd tîm pêl-droed dynion Cymru yn cystadlu yng Nghwpan y Byd FIFA yn Qatar. Bydd gêm gyntaf Cymru yn y twrnamaint yn erbyn yr UDA ar 21 Tachwedd 2022.

Mae amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cwpan y Byd yn cynnwys: hyrwyddo Cymru; cyflwyno ein gwerthoedd; sicrhau diogelwch dinasyddion Cymru yn y digwyddiad; a sicrhau gwaddol positif a pharhaol. 

Tra bydd llawer o sefydliadau, yng Nghymru ac yn fyd-eang, yn ceisio cefnogi eu hystod eu hunain o weithgareddau i ddathlu'r achlysur gwych hwn, mae Llywodraeth Cymru'n sefydlu cronfa sy'n anelu at ychwanegu gwerth at nifer fach o brosiectau eithriadol a all wireddu ein hamcanion craidd. Mae cyfanswm o hyd at £1.5m ar gael ar gyfer y Gronfa Cymorth i Bartneriaid a gall sefydliadau wneud cais am hyd at £500,000 i ddarparu project neu weithgareddau amrywiol.  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1pm ddydd Gwener 26 Awst 2022. Gellir gofyn am ffurflen gais drwy e-bostio TimCymru.CwpanYByd22@llyw.cymru.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu ymgyrch farchnata yn gysylltiedig a Chwpan y Byd. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar farchnadoedd targed rhyngwladol craidd ar draws brand, busnes a thwristiaeth yn ogystal ag ymgyrch gref yng Nghymru. Mae'r ymgyrchoedd yn targedu marchnadoedd sy’n cynnwys Cymru, UDA, DU, a Qatar. Mae'r ymgyrch farchnata hefyd yn ceisio cyflwyno gweithgareddau drwy waith gyda'n cenhadon mwyaf – y cefnogwyr a lleisiau o Gymru – yn ogystal â gyda phartneriaid, Cymry ar wasgar a Llysgenhadon Byd-eang Cwpan y Byd.

Byddwn hefyd yn defnyddio Swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau'r cyfle mwyaf posibl i hyrwyddo Cymru, yn enwedig yn Qatar a Dubai, yr Unol Daleithiau ac Ewrop.

Darllenwch y datganiad llawn yn: Datganiad Ysgrifenedig: Cwpan y Byd 2022 (15 Awst 2022) | LLYW.CYMRU

Ceir rhagor o wybodaeth ar 100 diwrnod i fynd: Cronfa £1.5 miliwn yn agor i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd | LLYW.CYMRU



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram