Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
CYNNWYS BWLETIN: Gyrfaoedd gwerth chweil yn y diwydiant lletygarwch; Uchafbwyntiau digwyddiad lansio Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022-2030; Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Canllawiau ar weithio mewn tymheredd poeth; Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (gwaharddiad pibau dyfrhau) i amddiffyn cyflenwadau dŵr ac amgylchedd Sir Benfro; Hwb bwyta al fresco i fusnesau; Mae Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru wedi bod yn llinell fywyd i'r sector Creadigol, yn ôl adroddiad newydd
Gyrfaoedd gwerth chweil yn y diwydiant lletygarwch
Wrth ymweld â bwyty Dylan’s yn Llandudno, dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru fod y diwydiant lletygarwch yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil, amrywiol a chyffrous.
Mae Dylan's yn cynnal ei academi hyfforddi lletygarwch ei hunan, mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai, gyda'r bwriad o greu rhaglen hyfforddiant prentisiaeth gynaliadwy a hygyrch i bobl ifanc sy'n ceisio dod o hyd i yrfa foddhaol a gwerth chweil mewn lletygarwch, gyda swydd yn cael ei chynnig ar ddiwedd eu cwrs.
Mae Dylan's hefyd wedi cefnogi ymgyrch recriwtio Croeso Cymru a lansiwyd i annog mwy o bobl i ddiwydiant twristiaeth a lletygarwch Cymru i fynd i'r afael â’r prinder staff sy'n bodoli ledled y wlad ar hyn o bryd.
Gydag amrywiaeth enfawr o rolau yn cael eu cynnig ar hyn o bryd, mae Croeso Cymru, yn dod â lleisiau o bob rhan o'r sector ynghyd i dynnu sylw at fanteision niferus gweithio yn y sector lletygarwch – a helpu i roi profiadau gwych i westeion a chwsmeriaid.
Mae'r ymgyrch mewn partneriaeth â Cymru'n Gweithio, yn darparu un llwybr syml i bobl ifanc rhwng 16-24 oed yng Nghymru gael mynediad i'r sector drwy gynnig Gwarant i Bobl Ifanc. Mae'n annog pobl i ymuno â'r 'gwneuthurwyr profiadau' ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd gyrfa niferus ac amrywiol yn y sector.
Darllenwch y stori lawn: Gyrfaoedd gwerth chweil yn y diwydiant lletygarwch | LLYW.CYMRU.
Uchafbwyntiau digwyddiad lansio Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022-2030
Gwnaeth Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething AS, wahodd cynrychiolwyr o’r diwydiant digwyddiadau yn ddiweddar i ymuno ag ef yn nigwyddiad lansio Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022-2030. Gwnaeth y digwyddiad ganolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd allweddol y mae’r sector y neu hwynebu a sut y gallwn gydweithio i sicrhau bod Cymru’n cynnal ac yn gwella ei henw da fel cyrchfan o’r radd flaenaf ar gyfer digwyddiadau drwy bortffolio amrywiol o ddigwyddiadau diwylliannol, chwaraeon a busnes, gan sicrhau manteision gydol y flwyddyn ac ar draws Cymru yn unol â Nodau Llesiant Llywodraeth Cymru.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Ngholeg Brenhinol Celf a Drama Cymru yng Nghaerdydd ddydd Mercher 13 Gorffennaf 2022, ac ar ei ddiwedd cynhaliwyd derbyniad rhwydweithio ble y gwnaeth y cynrychiolwyr a’r siaradwyr barhau i drafod sut y gallai’r sector cyhoeddus a’r sector preifat gydweithio er mwyn cynnal a datblygu’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru.
Edrychwch ar uchafbwyntiau Lansiad Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Canllawiau ar weithio mewn tymheredd poeth
Gyda'r tymheredd yn codi i'r entrychion mewn rhannau o Gymru'r wythnos hon, gwnewch yn siŵr bod y cyngor a'r arweiniad cywir gennych i weithio'n ddiogel.
Mae'n bwysig cofio'r risgiau o orboethi wrth weithio mewn amodau poeth.
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddigon o arweiniad ar dymheredd yn y gweithle,
Cewch ragor o wybodaeth ar Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Canllawiau ar weithio mewn tymheredd poeth | Busnes Cymru (gov.wales).
Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (gwaharddiad pibau dyfrhau) i amddiffyn cyflenwadau dŵr ac amgylchedd Sir Benfro
Yn dilyn y flwyddyn sychaf ers 1976, tymereddau uchaf erioed a chynnydd yn y galw am ddŵr, mae adnoddau dŵr (neu gronfeydd dŵr) ar gyfer ardal Sir Benfro yn agosáu at lefelau sychder.
Er nad yw hyn yn peri risg uniongyrchol i gyflenwadau dŵr ar gyfer yr ardal, mae’n rhaid i Dŵr Cymru gymryd camau i sicrhau bod digon o ddŵr yn parhau i gyflenwi cwsmeriaid a diogelu’r amgylchedd lleol dros y misoedd nesaf.
O 08.00am ar 19 Awst, mae’r cwmni wedi cyhoeddi y bydd Gwaharddiad Defnydd Dros Dro, neu waharddiad pibau dyfrhau i roi ei enw cyffredin, yn dod i rym ar gyfer cwsmeriaid yn Sir Benfro. Bydd hyn yn golygu na fydd cwsmeriaid yn yr ardal hon sy’n cael eu dŵr gan Dŵr Cymru yn cael defnyddio piben ddyfrhau i gyflawni gweithgareddau yn eu heiddo nac o’i amgylch fel dyfrio planhigion neu lenwi pyllai padlo neu dwbâu twym.
I gael rhagor o fanylion ewch i Gwaharddiad Defnydd Dros Dro (gwaharddiad pibau dyfrhau) i amddiffyn cyflenwadau dŵr ac amgylchedd Sir Benfro | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com).
Hwb bwyta al fresco i fusnesau
Mae newidiadau dros dro, a gyflwynwyd i helpu tafarndai, caffis a bwytai i fanteisio ar y tywydd cynnes a gweithredu yn yr awyr agored, yn cael eu hymestyn a byddant yn cael eu gwneud yn barhaol y flwyddyn nesaf.
Mae newidiadau dros dro a gyflwynwyd yn ystod COVID-19 sy'n ei gwneud hi'n gyflymach, yn haws ac yn rhatach i fusnesau gael trwydded i weini bwyd a diod ar balmentydd a ffyrdd i gerddwyr wedi cael eu hymestyn. Bydd yr estyniad yn parhau hyd nes bydd y newidiadau'n cael eu gwneud yn barhaol yn y gwanwyn.
Cewch ragor o wybodaeth ar Hwb bwyta al fresco i fusnesau | Busnes Cymru (gov.wales).
Mae Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru wedi bod yn llinell fywyd i'r sector Creadigol, yn ôl adroddiad newydd
Roedd Cronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, a oedd yn werth £108 miliwn, yn hanfodol i allu llawer o sefydliadau diwylliannol yng Nghymru i oroesi yn ystod pandemig COVID-19, a helpodd i ddiogelu 2,700 o swyddi cyfwerth â llawnamser, yn ôl adroddiad newydd.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Mae Cronfa Adferiad Diwylliannol Cymru wedi bod yn llinell fywyd i'r sector, yn ôl adroddiad newydd | LLYW.CYMRU.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Dolenni Defnyddiol
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|