Dathlu Llwyddiant Datblygu Gwledig - Rhifyn 08 - Newyddion Prosiect

Rhannu Llwyddiant - Rhifyn 08 - Newyddion Prosiect

 
 

Yr Uned Gefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru

wrn

Mae cynnwys newydd i’w weld ar wefan Uned Cymorth Rhwydwaith Gwledig Cymru bob dydd – cofiwch edrych!

Dathlu llwyddiannau’r Cynllun Datblygu Gwledig Ddoe a Heddiw – Mae Cymru wedi cael budd o gyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig Ewropeaidd ers ymhell dros 20 mlynedd.

Prosiectau – Mae mwy na 1,700 o brosiectau bellach wedi’u rhestru yn y cyfeiriadur prosiectau.

Astudiaethau achos – Gyda’r Rhaglen Datblygu Gwledig bellach yn ei chweched flwyddyn, mae llu o brosiectau sydd wedi gallu rhannu arferion gorau a hybu eu straeon ar ffurf astudiaethau achos.

Newyddion – Mae’r newyddion diweddaraf yn cael eu hychwanegu yn ddyddiol.
A LLAWER, LLAWER MWY!!

Newyddion o’r Rhaglen Datblygu Gwledig gan Brosiectau a Chyrff Gweinyddol

sheep

Bridio ‘defaid amlbwrpas’ am y tro cyntaf yng Nghymru – Mae prosiect arloesol yn ceisio ychwanegu gwerth i wlân Cymreig

Mae Arloesi Gwynedd Wledig, sef prosiect gan Fenter Môn, wedi lansio prosiect peilot arloesol sy’n canolbwyntio ar fridio defaid amlbwrpas newydd mewn ymgais i wella ansawdd gwlân.
Rhoddwyd sylw i’r prosiect ar raglen Ffermio S4C ychydig wythnosau yn ôl, pan drafodwyd prosiect defaid amlbwrpas. Cliciwch yma i wylio’r eitem eto.

wool

GWNAED Â GWLÂN

Yn y gwres mawr, mentrodd tîm Gwnaed â Gwlân i Sioe Frenhinol Cymru i gwrdd â phobl newydd ac i sgwrsio am wlân. Roedd yn gyfle gwych iddynt gyflwyno’u cynllun profi gwlân rhad ac am ddim hefyd, i ffermwyr o bob rhan o’r wlad.

signs

Beth ydy'r arwyddion newydd hyn wedi'u dotio o amgylch Gwynedd?

Mae Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, yr elusen sy'n cefnogi cymunedau i ffermio, garddio a thyfu gyda'i gilydd, yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i gefnogi cymunedau wrth reoli ymylon a mannau gwyrdd cyhoeddus eraill (megis rhannau o dir neu barciau canolfannau cymunedol) fel cynefin dolydd. Nod hyn yw grymuso cymunedau i gymryd rheolaeth o'u mannau gwyrdd cyhoeddus fel eu bod â chysylltiadau gwell ar gyfer natur a phobl.

planed

Lansio Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro

Mae PLANED, y sefydliad elusennol blaenllaw ar gyfer datblygu cymunedau, wedi’i leoli yng Ngorllewin Cymru, wedi llwyddo i sicrhau cyllid ac wedi cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu Menter Gwerthu Cymunedol Ffres Sir Benfro.

food

Dosbarthiad Bwyd Cymunedol Cymru yn lansio ei hwb bwyd cyntaf yng Ngheredigion

Mae menter Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru, a arweinir gan PLANED, wrth ei bodd yn lansio ei hwb fwyd cyntaf ym mis Gorffennaf. Mae'r prosiect yn annog gwirfoddolwyr i gysylltu â chynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd er mwyn gallu mwynhau bwyd iach am bris da.

cardi

Cymorth i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned

Mae Grŵp Gweithredu Lleol (GGLl) Cynnal y Cardi yn falch o gymeradwyo’r ceisiadau cyntaf fel rhan o Gronfa Grant LEADER i gefnogi gweithgarwch LEADER ar raddfa fach yng Ngheredigion.

food

Be nesa i Be Nesa Llŷn? - Datblygu’r cynllun benthyciadau bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr

Mae Arloesi Gwynedd Wledig ac Arloesi Môn, dau o gynlluniau Menter Môn, wedi cyhoeddi eu bod yn ehangu eu prosiect ‘buddsoddiad mewnol’ i sawl ardal newydd ar draws Gwynedd a Môn.

pig

Cyhoeddi'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr moch yn Sioe Frenhinol Cymru

Mae'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchwyr moch yng Nghymru wedi cael eu cyhoeddi yn Sioe Frenhinol Cymru fel rhan o Gystadleuaeth Pesgi Moch Menter Moch Cymru a CFfI Cymru.

beefQ

Digwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio

Cynhaliwyd ail ddigwyddiad Arloesi ac Arallgyfeirio Cymru ar faes Sioe Frenhinol Cymru ar 15 Mehefin. Roedd BeefQ ymhlith y 70 o arddangoswyr a fu'n rhannu eu profiad a gwybodaeth â'r ymwelwyr.

hcc

HCC yn hyrwyddo technoleg ddiguro i olrhain bwyd

Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi gwella hygrededd brandiau Cig Oen Cymru PGI a Chig Eidion Cymru PGI wrth gydweithio â swyddogion gorfodaeth yr awdurdodau lleol ar draws Cymru.

 
 
 

Amdanom ni

Mae Newyddion Rhwydwaith Gwledig Cymru yn cynnig crynodeb o newyddion, gwybodaeth a chyfleoedd rhwydweithio sy’n gysylltiedig â Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020. Mae’n ffordd hwylus i rannu gwybodaeth ac enghreifftiau o arferion da yng Nghymru, y DU ac Ewrop. Os hoffech chi gyfrannu unrhyw beth sy’n berthnasol i ddatblygu gwledig yng Nghymru, cysylltwch â Rhwydwaithgwledig@llyw.cymru.

Rhagor o wybodaeth ar y we:

businesswales.gov.wales/
walesruralnetwork

Dilynwch ni ar Twitter:

@RGC_WRN

 

Dilynwch ni ar Facebook:

Rhwydwaith Gwledig Cymru

 

Dilynwch ni ar Instagram:

rgc_wrn

 

Dilynwch ni ar YouTube:

Rhwydwaith Gwledig Cymru