Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth
CYNNWYS BWLETIN: Croeso Cymru: Gweithio gyda ni; NEGES ATGOFFA: COFRESTRWCH ERBYN 29 Gorffennaf 2022 ar gyfer World Travel Market (WTM), 7-9 Tachwedd 2022; NEGES ATGOFFA: Gweminar - Marchnata Digitol ac Offer Ar-lein ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch; Yn cyflwyno eich Pecyn Adnoddau Digidol NEWYDD i Fusnesau; Iechyd a Diogelwch: Cyngor i reoli legionella ym mhyllau sba a thybiau poeth; Llywodraeth y DU yn cefnogi diwygiadau newydd sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr gadw cildyrnau oddi wrth staff; Cyllid Grant Cymunedau Gwydn; Strategaeth Cymru yr YHA 2022; Rheoliadau sy'n diwygio’r system apelio ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru; NODYN ATGOFFA: Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Croeso Cymru: Gweithio gyda ni
Mae llawer o gyfleoedd i weithio gyda Croeso Cymru o ddefnyddio gwefan asedau am ddim Brand Cymru Wales i gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd, ein digwyddiadau marchnata a’n arddangosfeydd.
Cewch wybod sut gallwn weithio gyda’n gilydd drwy edrych ar ein 5 awgrym ar gyfer gweithio gyda Croeso Cymru.
NEGES ATGOFFA: COFRESTRWCH ERBYN 29 Gorffennaf 2022 ar gyfer World Travel Market (WTM), 7-9 Tachwedd 2022
Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyrwyddo eich busnes i'r Diwydiant Teithio rhyngwladol gan gynnwys gweithredwyr teithiau ac asiantaethau teithio? Ymunwch â ni yn WTM, y prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant teithio, a gynhelir rhwng 7 a 9 Tachwedd 2022 yn ExCeL Llundain.
Manylion llawn a sut i archebu ar: Digwyddiadau masnach teithio | Busnes Cymru (llyw.cymru).
NEGES ATGOFFA: Gweminar - Marchnata Digitol ac Offer Ar-lein ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch
Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau a Croeso Cymru wedi dod ynghyd i gynnig gweminar dwy ran am ddim sydd wedi’i theilwra ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch.
Byddwch yn dysgu sut i osod eich busnes ar wahân ar-lein, ymgysylltu â chwsmeriaid newydd, manteisio’n well ar adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol megis platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i Marchnata Digitol ac Offer Ar-lein ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch (Tudalen 1 o 4) (office.com).
Yn cyflwyno eich Pecyn Adnoddau Digidol NEWYDD i Fusnesau
Mae rhedeg busnes yn haws os oes gennych chi’r offer a’r systemau cywir ar waith. Mae gan Cyflymu Cymru i Fusnesau Becyn Adnoddau Digidol newydd sbon ar gyfer busnesau i’ch helpu i ddod o hyd i’r meddalwedd diweddaraf sydd ar gael a dewis beth sy’n iawn ar gyfer eich busnes.
Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho, ewch i Pecyn Adnoddau Digidol i fusnesau (llyw.cymru)
Iechyd a Diogelwch: Cyngor i reoli legionella ym mhyllau sba a thybiau poeth
Gall systemau pyllau sba megis pyllau sba poeth, tybiau poeth a sbas cludadwy fod yn ffynhonnell afiechydon a achosir gan gyfryngau heintus, megis Legionella, E.coli, Cryptosporidium, Pseudomonas etc.
Mae cyngor dros reoli legionella mewn pyllau sba a thybiau poeth wedi cael ei gynhyrchu gan Gynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, sy'n bwriadu gweithio'n agos gyda busnesau lleol i ddarparu arweiniad a chyngor ar legionella a chlefydau heintus eraill. Os ydych yn cynnig cyfleusterau o'r fath yn yr ardaloedd hynny, cysylltwch â Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir drwy e-bost: healthandsafetyenforcement@cardiff.gov.uk.
Am ragor o gyngor mewn ardaloedd eraill, cysylltwch â’ch awdurdod lleol drwy: Dod o hyd i’ch awdurdod lleol | LLYW.CYMRU.
Mae rhagor o ganllawiau ar Iechyd a Diogelwch hefyd i’w gweld ar wefan HSE: Gwybodaeth iechyd a diogelwch yn y gwaith.
Llywodraeth y DU yn cefnogi diwygiadau newydd sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr gadw cildyrnau oddi wrth staff
Bydd deddfwriaeth newydd yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr gadw cildyrnau oddi wrth staff, ac yn golygu y bydd cwsmeriaid yn gwybod yn sicr y bydd pob cildwrn yn mynd i weithwyr sy'n gweithio'n galed. Bydd y Bil Cildwrn o fudd i fwy na 2 filiwn o weithwyr ac, am y tro cyntaf, bydd yn rhoi'r hawl iddynt weld cofnod cildwrn cyflogwr.
Llywodraeth y DU yn cefnogi diwygiadau newydd sy'n ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr gadw cildyrnau oddi wrth staff | Busnes Cymru (llyw.cymru).
Cyllid Grant Cymunedau Gwydn
Mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru £2 filiwn o gyllid grant ar gael i helpu unigolion a sefydliadau i gynyddu cyfranogiad y gymuned ym myd natur er mwyn meithrin cymunedau gwydn.
Bydd y cyllid yn helpu i gyflwyno prosiectau sy’n rhoi cyfleoedd i bobl:
- wella eu hiechyd meddwl a chorfforol
- dysgu sgiliau newydd
- bod yn rhan o gymunedau mwy diogel
- cael mwy o fynediad i fyd natur
- gwella’u hymwybyddiaeth o effaith newid hinsawdd
- cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau am eu hamgylchedd naturiol
- cymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion
Mae rhagor o fanylion ar gael ar Cyllid Grant Cymunedau Gwydn | Busnes Cymru (llyw.cymru).
Strategaeth Cymru yr YHA 2022
Mae YHA yn datblygu strategaeth sy'n benodol i Gymru sy'n amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer datblygu YHA yng Nghymru dros y tair blynedd nesaf.
Gan edrych i gysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid ar draws ystod o sectorau a chyrff - gan gynnwys twristiaeth, awyr agored, treftadaeth a diwylliant – gofynnir am farn ar y cynigion drafft a nodir yn strategaeth-cymru-yr-yha-2022-welsh.pdf.
Rheoliadau sy'n diwygio’r system apelio ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru
Rydym yn ceisio barn am fesurau a fydd yn gwella'r broses apelio.
Ymgynghoriad yn cau 11 Hydref 2022.
Mae rhagor o fanylion ar gael ar Rheoliadau sy'n diwygio’r system apelio ar gyfer ardrethi annomestig yng Nghymru | LLYW.CYMRU.
NODYN ATGOFFA: Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru
Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn estyn gwahoddiad i chi ymuno â sgwrs genedlaethol ynglŷn â’r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg.
Ymgynghoriad yn cau 31 Awst 2022.
Darllenwch fwy yma Dweud eich dweud: dyfodol cyfansoddiadol Cymru | LLYW.CYMRU.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Dolenni Defnyddiol
Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000. Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|