Bwletin Newyddion: World Travel Market (WTM), 7-9 Tachwedd 2022 - cofrestrwch erbyn 29 Gorffennaf 2022

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

22 Gorffennaf 2022


Event

World Travel Market (WTM), 7-9 Tachwedd 2022 - cofrestrwch erbyn 29 Gorffennaf 2022

Oes gennych chi ddiddordeb mewn hyrwyddo eich busnes i'r Diwydiant Teithio rhyngwladol gan gynnwys gweithredwyr teithiau ac asiantaethau teithio? Ymunwch â ni yn WTM, y prif ddigwyddiad byd-eang ar gyfer y diwydiant teithio, a gynhelir rhwng 7 a 9 Tachwedd 2022 yn ExCeL Llundain. 

Mae arddangos yn WTM yn cynnig cyfle unigryw i gyfarfod, rhwydweithio, trafod a gwneud busnes gyda mwy na 50,000 o weithwyr proffesiynol ym maes teithio rhyngwladol, o fwy na 38 sector o'r diwydiant teithio.  Rydym wedi sicrhau lle i bartneriaid Cymru ar stondin UKinbound, sydd mewn lleoliad ardderchog yn rhan flaen Neuadd y DU ac Iwerddon.

I gymryd rhan mae'n rhaid bod gennych ddiddordeb a’ch bod yn gallu contractio a gwerthu drwy'r Diwydiant Teithio, a chynnig cyfraddau comisiwn / net. Rhaid i unrhyw ddarparwyr llety fod wedi'u graddio gan Croeso Cymru neu AA.  Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.

Er mwyn helpu i adfer y diwydiant mae cyfraddau gostyngol sylweddol Croeso Cymru bellach ar gael ar gyfer pod partner; bydd ein cymhorthdal yn galluogi partneriaid cymwys i ymuno â ni ar gyfraddau â chymhorthdal 2019 er gwaethaf y cynnydd mewn prisiau ar gyfer 2022 (cymhorthdal o 50% o gostau cymryd stondin yn 2019 i gyflenwyr twristiaeth Cymru, yn amodol ar reoliad de minimis): 

Pod Partner - £2,625 + TAW, os rhoddir cymhorthdal i dalu 50% o gostau cymryd stondin yn 2019, yn amodol ar reoliad SAFA / cymorth de minimis (cost y pod llawn bellach yw £6,660 + TAW). Ar hyn o bryd nid oes opsiynau byrddau cyfarfod ar gael.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram