Briff Arloesi - Rhifyn 50

Gorffennaf 2022

English

 
 
 
 
 
 
Fifth Wheel Co.

Cwmni carafannau’n gwella cynhyrchiant drwy bartneriaeth â choleg

Mae cwmni arloesol Fifth Wheel wedi profi gwelliant mewn cynhyrchiant a sgiliau o ganlyniad i gymryd rhan mewn Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Cymorth arloesi ar gyfer eich busnes chi

A yw eich busnes yn ymwneud â lled-ddargludyddion, cydrannau electronig, neu eu cadwyni cyflenwi? Cliciwch yma i ddarganfod sut i gael mynediad i’n cymorth wedi’i deilwra a chyllid fesul cam.

Cohes3ion
Advances Wales

Mae cystadlaethau ar gyfer dwy wobr i fenywod sy’n arloesi bellach ar agor i geisiadau

Mae cystadleuaeth Gwobr yr UE ar gyfer menywod sy’n arloesi bellach ar agor i geisiadau. Ymgeisiwch yma.

Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad briffio Menywod sy’n Arloesi Innovate UK yma.

 

Her bwyd cynaliadwy

Mae her gwerth £2.6 miliwn wedi cael ei lansio i annog arloesi ym maes cynhyrchu a chyflenwi bwyd a dyfir yn lleol. Gallwch ddarllen mwy am hyn ac ymgeisio yma.

 

Grant ar gyfer arloeswyr ifanc

Os ydych rhwng 18 a 30 oed gallech ENNILL £5,000 a lwfans byw i drosi eich syniad arloesol yn wirionedd busnes. Mwy o wybodaeth am y Gwobryon Arloeswyr Ifanc.

 

Cystadleuaeth ariannu arloesi

A ydych yn fusnes bach micro yn y DU sy’n gweithio ym maes arloesi sero net a gofal iechyd? Cliciwch yma i gael gwybodaeth am sut y gallwch wneud cais am gyfran o hyd at £30 miliwn ar gyfer arloesi fforddiadwy, y mae modd buddsoddi ynddynt a’u mabwysiadu.

 

Galwad am gyllid SCoRE Cymru

Mae cyllid ar gael ar gyfer sefydliadau yng Nghymru i gefnogi cydweithio economaidd â Llydaw, Fflandrys a Baden Württemberg. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais.

Syniadau Busnes ac Arloesi

digwyddiadau

 

Cyfarfod Cymorth Arloesi

14 Medi 2022, 10:00 – 17:00

Ydych chi’n rhan o Sefydliad Addysg Uwch neu Addysg Bellach wedi ei leoli yng Nghymru sy’n chwilio am gefnogaeth i helpu eich paratoi i redeg prosiectau effeithiol gyda busnesau?

Cofrestrwch nawr am y cyfarfod cymorth ar-lein.

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: