Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

15 Gorffennaf 2022


music event

Llun: Kev Curtis 


Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: "Gwneud i bethau anhygoel ddigwydd mewn mannau anarferol ac annhebygol", Gweinidog yr Economi yn lansio strategaeth ddigwyddiadau uchelgeisiol newydd i Gymru; Annog y cyhoedd i gymryd gofal wrth i’r tymheredd godi yng Nghymru; Cadw ymwelwyr a Chymru'n ddiogel; Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Canllawiau ar weithio mewn tymheredd poeth; Byw'n Ddiogel gyda COVID-19: Pecyn cymorth cyfathrebu Diogelu Cymru; Y Prif Swyddog Meddygol yn atgoffa pobl o’r cyngor i atal lledaeniad coronafeirws; NODYN ATGOFFA: Diweddaru eich manylion yn barod am yr haf; Crwydro Arfordir Cymru; Archwilio i ddiwygio’r flwyddyn ysgol; Y Grant Cymunedau Gwydn; Cronfa Perchnogaeth Gymunedol 2022


"Gwneud i bethau anhygoel ddigwydd mewn mannau anarferol ac annhebygol", Gweinidog yr Economi yn lansio strategaeth ddigwyddiadau uchelgeisiol newydd i Gymru

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio strategaeth newydd i helpu i greu swyddi a lledaenu ffyniant economaidd drwy annog ystod eang o ddigwyddiadau llwyddiannus, cynaliadwy ac unigryw Gymreig ledled Cymru.

Mae Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Cymru 2022 i 2030 yn adeiladu ar dwf digynsail digwyddiadau yng Nghymru dros y ddau ddegawd diwethaf.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cymru wedi cefnogi digwyddiadau o bob math a maint, gan gynnwys digwyddiadau rhyngwladol mawr fel Cwpan Ryder yn 2010, Womex 2013, uwchgynhadledd NATO yn 2014, Cyfres y Lludw, Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA yn 2017, ac arhosiad gan Ras Cefnfor Volvo yn 2018.  Rydym hefyd wedi denu digwyddiadau busnes o'r safon uchaf fel y Farchnad Teithio Golff Ryngwladol ac wedi gweld datblygiad gwyliau unigryw Gymreig fel Focus Wales, Tafwyl a Steelhouse.

Datblygwyd y strategaeth newydd mewn partneriaeth â'r diwydiant digwyddiadau a'i nod yw annog digwyddiadau gwych ledled Cymru sy'n cefnogi lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol pobl, lleoedd a'r blaned. Ei nod yw sicrhau bod y digwyddiadau yn ehangu ar y cyfraniad y maent yn ei wneud i saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Mae'r strategaeth yn ceisio annog digwyddiadau o bob math a maint sydd wedi'u lleoli ym mhob cwr o Gymru, wedi'u gwasgaru ar draws pob tymor ac yn cynrychioli diwylliant Cymru.

Bydd Digwyddiadau Cymru nawr yn gweithio gyda chynrychiolwyr y sector i ddatblygu cynllun gweithredu.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru ac ewch i Dyma Digwyddiadau yng Nghymru.


Annog y cyhoedd i gymryd gofal wrth i’r tymheredd godi yng Nghymru

Mae Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru yn annog pobl i gymryd gofal ychwanegol a chynllunio ymlaen llaw i ddiogelu eu hunain ac eraill, yn sgil rhybudd y Swyddfa Dywydd am wres eithafol.

Mae’r rhybudd Oren, sydd mewn grym ar gyfer dydd Sul 17 Gorffennaf, dydd Llun 18 Gorffennaf a dydd Mawrth 19 Gorffennaf, yn awgrymu y gallai’r tymheredd godi i'r tridegau canol mewn rhai ardaloedd yn nwyrain Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r gwasanaethau brys, awdurdodau lleol, ysgolion a busnesau i ddiogelu’r cyhoedd yn ystod cyfnod rhybudd y Swyddfa Dywydd.

Cewch ragor o wybodaeth ar Llyw.Cymru.


Cadw ymwelwyr a Chymru'n ddiogel

Yn y sesiwn ar-lein a gynhaliwyd gan Croeso Cymru y llynedd, cafodd busnesau twristiaeth gyfle i glywed gan yr RNLI a Mentro’n Gall Cymru am sut i helpu gwesteion ac ymwelwyr i fod yn fwy diogel yn yr awyr agored yr haf hwn. Mae adnoddau o’r weminar hon yn dal i fod ar Arhoswch yn Fwy Diogel yn yr Awyr Agored | Busnes Cymru (llyw.cymru).

Gyda milltiroedd o arfordir trawiadol, afonydd a llynnoedd i’w gweld yng Nghymru, mae'r RNLI ac Adventure Smart UK yn cynnig cyngor ac arweiniad ar ddiogelwch arfordirol i unrhyw un sy'n dymuno mynd allan ar y dŵr a chymryd rhan yn y gweithgareddau dŵr niferus.

Gall busnesau hefyd helpu i achub bywydau drwy hyrwyddo negeseuon diogelwch dŵr allweddol mewn cymunedau lleol ledled Cymru, drwy gymryd rhan yn nghynllun llysgenhadon dŵr lleol yr RNLI .


Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch: Canllawiau ar weithio mewn tymheredd poeth

Gyda'r tymheredd yn codi i'r entrychion mewn rhannau o Gymru'r wythnos hon, gwnewch yn siŵr bod y cyngor a'r arweiniad cywir gennych i weithio'n ddiogel.

Mae'n bwysig cofio'r risgiau o orboethi wrth weithio mewn amodau poeth.

Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddigon o arweiniad ar dymheredd yn y gweithle, gan gynnwys:

Dysgwch fwy drwy fynd i wefan tymheredd yn y gweithle yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.


Byw'n Ddiogel gyda COVID-19: Pecyn cymorth cyfathrebu Diogelu Cymru

Mae pobl ledled Cymru yn cael eu hannog i gynnal ymddygiadau amddiffynnol allweddol – i gadw eu hunain a'r bobl o'u cwmpas yn ddiogel.

Mae camau y gallwn ni i gyd eu cymryd i helpu i leihau'r risg o ddal COVID-19, a heintiau anadlol eraill, megis y ffliw, a'u trosglwyddo i eraill.

Mae asedau digidol ar gael y gallwch eu defnyddio ar eich sianeli eich hun i gefnogi a chyfathrebu'r canllawiau.


Y Prif Swyddog Meddygol yn atgoffa pobl o’r cyngor i atal lledaeniad coronafeirws

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Syr Frank Atherton, yn atgoffa pobl i ddilyn camau syml i amddiffyn eu hunain rhag y risg o ddal COVID-19.

Mae'r rhain yn cynnwys cael eich brechu, gwisgo masgiau wyneb mewn mannau caeedig gorlawn a chymryd prawf llif unffordd os oes gennych symptomau.

Daeth ei sylwadau wrth i achosion coronafeirws gynyddu unwaith eto yng Nghymru.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


NODYN ATGOFFA: Diweddaru eich manylion yn barod am yr haf 

Ydych chi ar restr croesocymru.com? Mae rhestrau ar gyfer eich llety, atyniadau, gweithgareddau a digwyddiadau yn rhan allweddol o hyrwyddo'r amrywiaeth anhygoel o dwristiaeth sydd gennym yma yng Nghymru.  Mae cannoedd o filoedd yn gweld cynhyrchion croesocymru.com bob mis, degau o filoedd o atgyfeiriadau ar y we a miloedd o ymholiadau e-bost a ffôn bob mis. 

Er mwyn rhoi'r argraff orau, mae'n bwysig bod eich manylion yn cael ei ddiweddaru, a gwneud y gorau o ffotograffiaeth a nodweddion fideo er mwyn cael y rhyngweithio gorau gydag ymwelwyr posibl. 

Diweddarwch eich cofnod gan ddefnyddio rhestr.  Os hoffech gael rhywfaint o help i fewngofnodi, anfonwch e-bost at Stiward Data Croeso Cymru vw-steward@nvg.net neu ffoniwch 0330 808 9410.  I gael cyngor ac awgrymiadau ar gynnwys neu i ofyn am hyfforddiant neu gymorth, anfonwch e-bost at product.database@llyw.cymru


Crwydro Arfordir Cymru

Archwiliwch arfordir Cymru y Pasg hwn gyda’r Ap Wales Coast Explorer | Crwydro Arfordir Cymru newydd, RHAD AC AM DDIM. 

Mae yr ap Crwydro Arfordir Cymru RHAD AC AM DDIM ar gyfer archwilio arfordir Cymru gyfan – o'r aber i'r cefnfor, y traeth i'r clogwyni – ac mae'n adeiladu ar Ap Cod Morol Sir Benfro, gan helpu pobl i ddeall sut i osgoi tarfu ar fywyd gwyllt a niweidio cynefinoedd, tra'n parhau i fwynhau'r golygfeydd sydd gan Gymru i'w cynnig.

Mae'n ganlyniad cydweithrediad rhwng Fforwm Arfordir Sir Benfro a'r rhwydwaith o reolwyr sy'n gofalu am Ardaloedd Morol Gwarchodedig arbennig Cymru, a phartneriaid eraill.

Gellir defnyddio'r ap i

  • Archwilio: Darganfod safleoedd hynafol a dysgu sut i fwynhau arfordiroedd Cymru.
  • Adnabod: Planhigion ac anifeiliaid a bywyd gwyllt eraill!
  • Cofnod: Dewch yn wyddonydd dinasyddion drwy rannu golygfeydd.

Darllenwch fwy ar Wales Coast Explorer | Crywdro Arfordir… | Wild Seas Wales (cy_gb) a chymryd rhan drwy roi gwybod i'ch ymwelwyr a lawrlwytho'r ap: Crwydro Arfordir Cymru | Wild Seas Wales (cy_gb).


Archwilio i ddiwygio’r flwyddyn ysgol

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio i ddiwygio'r diwrnod a'r flwyddyn ysgol i gefnogi lles dysgwyr a staff, mynd i'r afael ag anghydraddoldebau addysgol, a chysoni'n well â phatrymau bywyd teuluol a chyflogaeth.

Yn dilyn cyfnod o drafod â rhanddeiliaid a chasglu tystiolaeth, cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg Ddatganiad Ysgrifenedig ar 30 Mehefin ynghylch y gwaith hwn. Yn y datganiad, dywedodd y Gweinidog fod agwedd agored tuag at edrych ar ffyrdd amgen o strwythuro'r flwyddyn ysgol. Er iddo ddiystyru newidiadau i nifer cyffredinol y gwyliau neu leihau gwyliau'r haf i ddwy neu dair wythnos, ymrwymodd y Gweinidog i ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol ar y mater yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Rydyn ni’n cydnabod y gall fod gennych gwestiynau am y gwaith ar strwythur y flwyddyn ysgol – gan gynnwys sut y gallai hyn effeithio ar eich sector – a byddwn yn trafod â chi dros y cyfnod nesaf ac yn ystod yr ymgynghoriad ei hun, yn uniongyrchol a thrwy ein cydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru.


Y Grant Cymunedau Gwydn

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi lansio £2 miliwn o gyllid grant i helpu unigolion a sefydliadau i gynyddu cysylltiad cymunedau â natur i adeiladu cymunedau gwydn.

Bydd y Grant Cymunedau Cydnerth yn helpu i gyflawni prosiectau sy'n rhoi cyfleoedd i bobl wneud y canlynol:

  • wella eu hiechyd meddwl a chorfforol
  • dysgu sgiliau newydd
  • bod yn rhan o gymunedau mwy diogel
  • cael rhagor o fynediad i fyd natur
  • gwella eu hymwybyddiaeth o effaith newid hinsawdd
  • cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau am eu hamgylchedd naturiol
  • cymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Medi 2022, erbyn amser cinio.

Cewch ragor o wybodaeth ar Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyllid grant cymunedau gwydn (naturalresources.wales).


Cronfa Perchnogaeth Gymunedol 2022

Bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwaraeon a siopau cornel lleol sydd mewn perygl yn sgil lansio Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU.

Gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol wneud cais am arian cyfatebol.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Cronfa Perchnogaeth Gymunedol 2022 | Busnes Cymru (gov.wales).



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Dolenni Defnyddiol


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram