Bwletin Newyddion: DATGANIAD YSGRIFENEDIG: Archwilio cwestiwn diwygio’r flwyddyn ysgol

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

30 Mehefin 2022


cadw

DATGANIAD YSGRIFENEDIG: Archwilio cwestiwn diwygio’r flwyddyn ysgol (gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, 30 Mehefin 2022)

Fel llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i archwilio strwythur y flwyddyn ysgol i weld a allwn gefnogi lles dysgwyr a staff yn well, mynd i'r afael ag anfantais ac anghydraddoldebau addysgol, a sicrhau ei bod yn cyd-fynd yn well â phatrymau bywyd teuluol a chyflogaeth fodern nawr ac yn y dyfodol. Mae hyn yn cael ei ddatblygu fel rhan o'r Rhaglen Lywodraethu a'r ymrwymiadau yn y Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Rydw i’n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am hynt ein gwaith o ran archwilio’r cwestiwn diwygio a nodi'r camau nesaf.

Fel rhan o raglen ehangach i gasglu tystiolaeth ac ennyn diddordeb, ddiwedd y llynedd comisiynwyd Beaufort Research gennym i ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau ymchwil. Mae'r gwaith hwn wedi ein helpu i ddeall safbwyntiau pobl, awydd posibl am unrhyw newid a goblygiadau gwahanol fathau o ddiwygio, er enghraifft lleihau hyd gwyliau'r haf ac ymestyn gwyliau ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn.

Roedd y gweithgaredd hwn yn gymysgedd o ymgysylltu ansoddol a meintiol. Roedd yn cynnwys grwpiau ffocws ar-lein gyda rhieni a gofalwyr, plant a phobl ifanc a'r gweithlu addysg, arolygon ar-lein, a digwyddiadau ymgysylltu wedi'u hanelu at randdeiliaid ehangach fel byd busnes, twristiaeth, gofal plant a llywodraeth leol, yn ogystal â chynnal cyfweliadau manwl gydag amrywiaeth o randdeiliaid a oedd yn cynrychioli meysydd penodol.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi adroddiad Beaufort Research 'Agweddau at ddiwygio’r flwyddyn ysgol yng Nghymru: canfyddiadau ymchwil ac ymgysylltu'. Rydw i am ddiolch i Beaufort Research a'u partneriaid yn Cazbah am ymgymryd â'r gwaith hwn. Rydw i hefyd yn hynod ddiolchgar i'r 13,000 o randdeiliaid, unigolion a sefydliadau a gymerodd ran.

Mae'n amlwg o'r adroddiad hwn, o'i drafod yn fanwl, fod parodrwydd i edrych ar ffyrdd amgen o strwythuro'r flwyddyn ysgol, yn enwedig o ran sut yr ydym yn cefnogi dysgwyr yn well dros yr haf ac yn sicrhau mwy o gysondeb o ran hyd tymhorau – yn benodol tymor hir yr hydref sydd gennym ar hyn o bryd – i gyd-fynd yn well â phatrymau gwaith a theuluol modern, a mynd i’r afael ag anfantais a’r bwlch cyrhaeddiad.

Rydw i hefyd yn cydnabod, er bod cryn fodlonrwydd â’r flwyddyn ysgol bresennol ar hyn o bryd, ar ôl trafod a dangos modelau blwyddyn ysgol gwahanol posibl, roedd y rhan fwyaf o'r gweithlu addysg a thua hanner y dysgwyr wedi dewis model amgen.

Felly, ac yn unol ag ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu a'n Cytundeb Cydweithio, rydw i wedi gofyn i swyddogion ddatblygu opsiynau i gyflwyno ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf.

Yn ein gwaith archwilio hyd yma, rydym wedi mynd ati’n fwriadol i edrych ar ystod o opsiynau, modelau ac egwyddorion ar gyfer newid, a hynny er mwyn profi gwahanol strwythurau ar gyfer y flwyddyn ysgol, a chasglu’r amrywiaeth ehangaf o safbwyntiau gan ddysgwyr, staff, teuluoedd a’r gymuned ehangach.

Mae’r adroddiad a safbwyntiau cychwynnol rhanddeiliaid wedi bod yn hynod fuddiol o ran sianelu ein ffocws wrth inni ddatblygu opsiynau ar gyfer yr ymgynghoriad. Er fy mod yn glir nad oes dadl dros newid faint o wyliau a ganiateir, na thros gwtogi gwyliau'r haf i ddwy neu dair wythnos, rydw i’n falch bod yr ymchwil a gyhoeddwyd heddiw yn dangos parodrwydd i edrych ar ddosbarthiad cyffredinol gwyliau drwy gydol y flwyddyn, a thymhorau mwy cyson o ran eu hyd.

Wrth i ni symud ymlaen gyda'n cwricwlwm newydd, cefnogi ein gweithlu addysg, a chreu mwy o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu â rhieni a'r gymuned, rhaid i'r ffordd rydym yn cynllunio ein blwyddyn ysgol fod yn rhan o'r sgwrs hon. Credaf y gall archwilio opsiynau ar gyfer newid ein galluogi i gefnogi'r gwaith o gynllunio a darparu'r cwricwlwm, mynd i'r afael ag anfantais ac anghydraddoldebau addysgol, a chefnogi lles dysgwyr a staff. Mae gennym gyfle nawr i archwilio'r materion hyn yng nghyd-destun y cwestiwn ai'r strwythur presennol mewn gwirionedd yw'r system orau i gyflawni'r blaenoriaethau rydym yn eu rhannu.

Dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod, felly, byddwn yn parhau i gasglu tystiolaeth ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, yn enwedig dysgwyr a'r gweithlu addysg, i sicrhau dull cydweithredol o gynllunio unrhyw bolisi newydd. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i'r aelodau yn yr hydref.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram