Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

24 Mehefin 2022


southerndown

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: #CreuwyrProfiad – ymgyrch recriwtio a sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru; Diweddaru eich manylion yn barod am yr haf; Ydych chi’n dangos yr arwydd graddio cywir ar eich safle a’r logo electronig cywir ar eich gwefan?; Coedwig Genedlaethol i Gymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1); Cod Tafarndai a Dyfarnwr Cod Tafarndai: gwahoddiad am sylwadau ar yr ail adolygiad statudol; Gwobrau Croeso 2022: Gwobrau Twristiaeth Sir Benfro; Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghoriad ar Lunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (Cam 2); Sicrhewch fod eich digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel yr haf hwn; Canllawiau i fusnesau sy'n cynnig gwaith i bobl sy'n dod o'r Wcráin; Bwletin Cyflogwyr CThEM Mehefin 2022; Diweddariad CThEM ar gyfer cyflogwyr – trothwyon NIC yn eich cyflogres ym mis Gorffennaf.


#CreuwyrProfiad – ymgyrch recriwtio a sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru 

Bydd cam pellach o'r ymgyrch #CreuwyrProfiad sgiliau twristiaeth a lletygarwch a recriwtio, a gyflwynir mewn partneriaeth â Cymru'n Gweithio, yn mynd yn fyw o 22 Mehefin ymlaen. Bydd hysbyseb 30 eiliad newydd gyda'r nod o dynnu sylw at yr ystod o yrfaoedd a chyfleoedd sydd ar gael yn y sector twristiaeth a lletygarwch yn cael ei dangos mewn sinemâu ledled Cymru ac ar S4C a hysbysebu wedi'i dargedu ar ITV hub ac All4.  Bydd gweithgarwch digidol pellach hefyd ar draws sianeli cymdeithasol Cymru'n Gweithio i hyrwyddo gyrfaoedd yn y sector.  

Datblygwyd yr ymgyrch mewn partneriaeth â Sgiliau Twristiaeth a Lletygarwch Cymru a arweinir gan y diwydiant i gefnogi'r sector drwy godi ymwybyddiaeth o'r niferoedd uchel o swyddi gwag a'r amrywiol gyfleoedd gyrfa sydd ar gael.  Mae'r gweithgarwch a lansiwyd yn 2021, hyd yma, wedi cynnwys ymgyrchoedd digidol, creu cynnwys, hysbysebion a chyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus wedi'u targedu.  Wedi'i anelu at bobl ifanc – y rhai sy'n gadael yr ysgol, myfyrwyr, a'r rhai sy'n ansicr am eu gyrfa yn y dyfodol yn ogystal ag oedolion ifanc a allai fod yn chwilio am weithio hyblyg o gwmpas e.e. gofal plant ac oedolion hŷn sy'n chwilio am waith rhan-amser neu newid gyrfa.  Mae'r ymgyrch wedi cael ei chroesawu a'i chefnogi gan y diwydiant gan gynnwys UKHospitalityCymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru. 

Bydd yr hysbyseb sinema a theledu yn rhedeg o 22 Mehefin am fis cyn gwyliau'r ysgol, wedi'i hybu gan gyfeirio defnyddwyr digidol at wefan Cymru'n Gweithio i gael rhagor o wybodaeth a chyngor gyrfaoedd.  

Mae rhagor o wybodaeth a chynnwys ac astudiaethau achos i'w gweld ar Gweithio ym maes twristiaeth a lletygarwch | Working Wales (llyw.cymru).


Diweddaru eich manylion yn barod am yr haf 

Ydych chi ar restr croesocymru.com? Mae rhestrau ar gyfer eich llety, atyniadau, gweithgareddau a digwyddiadau yn rhan allweddol o hyrwyddo'r amrywiaeth anhygoel o dwristiaeth sydd gennym yma yng Nghymru.  Mae cannoedd o filoedd yn gweld cynhyrchion croesocymru.com bob mis, degau o filoedd o atgyfeiriadau ar y we a miloedd o ymholiadau e-bost a ffôn bob mis. 

Er mwyn rhoi'r argraff orau, mae'n bwysig bod eich manylion yn cael ei ddiweddaru, a gwneud y gorau o ffotograffiaeth a nodweddion fideo er mwyn cael y rhyngweithio gorau gydag ymwelwyr posibl. 

Diweddarwch eich cofnod gan ddefnyddio rhestr.  Os hoffech gael rhywfaint o help i fewngofnodi, anfonwch e-bost at Stiward Data Croeso Cymru vw-steward@nvg.net neu ffoniwch 0330 808 9410.  I gael cyngor ac awgrymiadau ar gynnwys neu i ofyn am hyfforddiant neu gymorth, anfonwch e-bost at product.database@llyw.cymru


Ydych chi’n dangos yr arwydd graddio cywir ar eich safle a’r logo electronig cywir ar eich gwefan?

Er bod llawer o fusnesau wrthi’n defnyddio’r arwyddion di-dâl newydd sy’n dangos brand Cymru Wales, mae rhai’n defnyddio’r hen arwyddion o hyd, ar eu safle ac ar-lein gyda’r logo electronig anghywir (ar eu gwefan).  Mae’r hen arwyddion yn gallu gwneud i’ch busnes edrych yn hen ffasiwn a dangos nad ydych yn rhan o frand Croeso Cymru.

I newid eich arwydd, e-bostiwch quality.tourism@llyw.cymru am rhagor o fanylion.

Hyd yn oed wrth aros am yr arwydd cywir, gallwch newid y logo ar eich gwefan – e-bostiwch quality.tourism@llyw.cymru a gallwn anfon y logo cywir atoch, er mwyn ichi allu rhoi’r gwaith celf newydd ar ein gwefan.

Visit Wales branding image

Coedwig Genedlaethol i Gymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1)

Ar 13 Mehefin, lansiwyd cylch newydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir. Gyda £1.9 miliwn o gyllid ar gael yn 2022/2023 mae'r cynllun yn cynnig grantiau rhwng £40,000 – £250,000 ar gyfer prosiectau sy'n creu coetiroedd newydd a/neu'n gwella ac yn ehangu coetiroedd presennol. Rhaid bod gan y coetiroedd hyn botensial i ddod yn rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy'n cael eu rheoli'n dda, sy'n hygyrch i bobl ac sy'n rhoi cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur.

Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld drwy’r ddolen a ganlyn: Coedwig Genedlaethol i Gymru – Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – Cylch 1) | LLYW.CYMRU


Cod Tafarndai a Dyfarnwr Cod Tafarndai: gwahoddiad am sylwadau ar yr ail adolygiad statudol 

Fel rhan o'r ail adolygiad statudol o'r Cod Tafarndai (y Cod) a Dyfarnwr y Cod Tafarndai (PCA), mae Llywodraeth y DU wedi rhoi gwahoddiad i randdeiliaid rannu eu barn a'u tystiolaeth i helpu i lywio casgliadau'r adolygiad. 

Mae'n ofynnol i'r Llywodraeth gynnal adolygiad o weithrediad y Cod a pherfformiad y PCA bob tair blynedd. Mae'r Cod yn rheoleiddio'r berthynas rhwng busnesau mawr sy'n berchen ar dafarndai a'u tenantiaid tafarn clwm yng Nghymru a Lloegr i sicrhau bod tenantiaid o'r fath yn cael eu trin yn deg ac yn gyfreithlon. 

Darganfyddwch fwy a chyflwynwch eich barn ar Pubs Code and Pubs Code Adjudicator: invitation for views on the second statutory review, 2019 to 2022 - GOV.UK (www.gov.uk).  

Y dyddiad cau yw 17 Awst 2022. 


Gwobrau Croeso 2022: Gwobrau Twristiaeth Sir Benfro 

Mae ceisiadau ar gyfer Gwobrau Croeso 2022 ar agor. Mae'r gwobrau, a drefnir gan Croeso Sir Benfro, yn agored i bob gweithredwr a chyflenwr twristiaeth i'r diwydiant twristiaeth yn Sir Benfro ac maent ar broses hunan-enwebu.  Darganfyddwch fwy ar: Gwobrau Twristiaeth Sir Benfro. Mae'r enwebiadau'n cau ar 8 Gorffennaf 2022.  


Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghoriad ar Lunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (Cam 2)

Cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ar 21 Mehefin gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ar gyfer lansio ymgynghoriad ar yr ail gyfres o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru a fydd yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol tuag at gyflawni'r nodau llesiant.

Er mwyn cyflawni’r nodau llesiant, bydd angen i’r Llywodraeth, y sector cyhoeddus, busnesau, y trydydd sector a dinasyddion gyfrannu drwy weithredu.

Gallwch weld y manylion yma: Datganiad Ysgrifenedig: Ymgynghoriad ar Lunio Dyfodol Cymru: Defnyddio Cerrig Milltir Cenedlaethol i fesur cynnydd ein Cenedl (Cam 2) (21 Mehefin 2022) | LLYW.CYMRU

Cyfnod yr ymgynghoriad: 21/06/22 – 12/09/22


Sicrhewch fod eich digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel yr haf hwn

Mae cynllunio a threfnu da yn hanfodol er mwyn cynnal digwyddiad sy'n ddiogel ac yn bleserus. 

Dechreuwch arni gydag arweiniad i drefnwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar sut i gynllunio, rheoli a monitro eich digwyddiad. Bydd hynny’n eich helpu i sicrhau nad yw gweithwyr, a'r cyhoedd sy'n ymweld, yn agored i risgiau iechyd a diogelwch. 

P’un a ydych yn drefnydd, yn berchennog lleoliad neu’n wirfoddolwr, dysgwch fwy am eich cyfrifoldebau.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Sicrhewch fod eich digwyddiad yn cael ei gynnal yn ddiogel yr haf hwn | Busnes Cymru


Canllawiau i fusnesau sy'n cynnig gwaith i bobl sy'n dod o'r Wcráin

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i fusnesau sy'n ystyried cynnig cyflogaeth i bobl sy'n dod i'r DU o'r Wcráin.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Canllawiau i fusnesau sy'n cynnig gwaith i bobl sy'n dod o'r Wcráin | Busnes Cymru


Bwletin Cyflogwyr CThEM Mehefin 2022

Mae rhifyn mis Mehefin o'r Bwletin Cyflogwyr yn rhoi holl ddiweddariadau a chanllawiau diweddaraf CThEM i gefnogi cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol cyflogres ac asiantau.

Yn y rhifyn hwn, mae diweddariadau pwysig ar:

  • gynnydd mewn trothwyon Yswiriant Gwladol
  • Offer TWE Sylfaenol – datganiad ychwanegol yn ystod y flwyddyn 
  • Hawddfreintiau COVID-19 sy'n dod i ben

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Bwletin Cyflogwyr CThEM Mehefin 2022 | Busnes Cymru


Diweddariad CThEM ar gyfer cyflogwyr – trothwyon NIC yn eich cyflogres ym mis Gorffennaf

Sicrhewch eich bod yn adlewyrchu trothwyon NIC uwch yn gywir yn eich cyflogres ym mis Gorffennaf.

Ar 23 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai trothwyon Yswiriant Gwladol yn cynyddu o 6 Gorffennaf 2022 ymlaen. Er mwyn darparu ar gyfer y newid hwn, bydd angen diweddaru meddalwedd cyflogres, gan gynnwys Offer TWE Sylfaenol CThEM. Gall hyn ddigwydd yn awtomatig, neu efallai y bydd angen i chi weithredu.  

Mae rhagor o fanylion ar gael ar:  Diweddariad CThEM ar gyfer cyflogwyr – trothwyon NIC yn eich cyflogres ym mis Gorffennaf | Busnes Cymru



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Dolenni Defnyddiol


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram