Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

09 Mehefin 2022


Beach

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Cefnogi entrepreneuriaid a datblygiadau llety yn Abertawe; Arolwg tracio teimladau defnyddwyr COVID-19 y DU: Proffil Cymru; Adeiladu ar lwyddiannau cyllid Ewropeaidd yn hanfodol i ddyfodol y Gymru wledig; Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd busnes ar Lwybr Arfordir Cymru yng Ngwynedd – 21 Mehefin 2022 ; Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022; Clywch eich llais: chi a'ch cefnfor yng Nghymru; Darganfyddwch fanteision parthau .wales a .cymru; Rhaglen flaenllaw newydd i helpu mwy o bobl i gael Gwaith; Gweinidogion yn amlinellu nodau i Gymru ddod yn Genedl Wrth-Hiliol 


Cefnogi entrepreneuriaid a datblygiadau llety yn Abertawe

Yn ystod ymweliad, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi gweld sut mae cyllid gan Lywodraeth Cymru yn helpu entrepreneuriaid lleol i ddatblygu llety newydd o ansawdd uchel yn Abertawe a’r Mwmbwls.

Cewch ragor o wybodaeth ar: Cefnogi entrepreneuriaid a datblygiadau llety yn Abertawe | LLYW.CYMRU.


Arolwg tracio teimladau defnyddwyr COVID-19 y DU: Proffil Cymru

Mae adroddiad Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth COVID-19 y DU: Proffil Cymru wedi cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi camau 44 i 46 o Arolwg Tracio Defnyddwyr y DU, gyda’r gwaith maes wedi cael ei gynnal rhwng 1 Mawrth a 9 Mai. Gan adlewyrchu lefelau uwch o hyder, mae trigolion y DU a Chymru yn bwriadu mynd ar nifer sylweddol uwch o deithiau dros nos yn ystod y 12 mis nesaf, o’u cymharu â’r 12 mis blaenorol. Er yr hyder uwch hwn, mae nifer o rwystrau posibl sy’n atal pobl rhag mynd ar deithiau yn y DU – gan gynnwys rhwystrau ariannol. 

Bydd Arolwg Tracio Defnyddwyr y DU yn parhau mewn partneriaeth â VisitEngland a VisitScotland.

Bydd canfyddiadau’r gwaith maes ym mis Mehefin yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen y mis hwn, a byddan nhw’n cynnwys dealltwriaeth newydd o effaith y sefyllfa ariannol ar wyliau yn y DU a thramor.


Adeiladu ar lwyddiannau cyllid Ewropeaidd yn hanfodol i ddyfodol y Gymru wledig

Bydd adeiladu ar y manteision y mae arian Ewropeaidd sylweddol wedi'u cynnig i brosiectau yn y Gymru wledig ac ymrwymiad cymunedau sydd wedi'u cyflawni yn hanfodol wrth inni edrych tua'r dyfodol.

Dyma neges y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths cyn digwyddiad i dros  200 a mwy o wahoddedigion sy'n dechrau heddiw ar Faes y Sioe yn Llanelwedd i ddathlu gwaith y Gymru wledig.

Cewch ragor o wybodaeth ar: Adeiladu ar lwyddiannau cyllid Ewropeaidd yn hanfodol i ddyfodol y Gymru wledig | LLYW.CYMRU.


Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd busnes ar Lwybr Arfordir Cymru yng Ngwynedd – 21 Mehefin 2022  

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed yn ystod 2022. 

Yn ogystal â bod yn gyrchfan wych i ymwelwyr y farchnad ddomestig a thramor, mae'r llwybr yn chwarae rhan bwysig yn economi twristiaeth ac ymwelwyr Cymru o ran annog adfywiad economaidd. 

Wedi'i anelu at y diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yng Ngwynedd, mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnal digwyddiad i ddathlu rhan boblogaidd o’r llwybr yng Ngwynedd - sy'n cyfrif am bron i 25% o'r llwybr cyfan.  

Mae'r digwyddiad yn gyfle i ddarganfod beth sydd gan ran Gwynedd o'r llwybr i'w gynnig i ymwelwyr, i glywed am ddatblygiadau diweddaraf y llwybr yng Ngwynedd a chlywed gan siaradwyr gwadd sy'n rhannu eu profiad o fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd busnes ar frand Llwybr Arfordir Cymru.  

Darganfyddwch fwy a chofrestrwch erbyn 15 Mehefin ar: Llwybr Arfordir Cymru / Manteisio’n llawn ar gyfleoedd busnes ar Lwybr Arfordir Cymru yng Ngwynedd (walescoastpath.gov.uk).


Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022

Mae Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022 ar agor ar gyfer enwebiadau (saesneg yn unig). Mae’r gwobrau hyn yn cydnabod ymdrechion staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ym Mharciau Cenedlaethol Cymru  a Lloegr dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf.

Unwaith eto mae’r Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol wedi ymuno â Chylchgrawn Countryfile y BBC.

Y thema eleni yw Pobl, Natur a’r Hinsawdd:

  • Pobl – cydnabod gwirfoddolwyr, cyflawniadau hyd oes ac arloeswyr yn ein mudiad Parciau Cenedlaethol  
  • Natur – cydnabod prosiectau adfer natur, prosiect dad-ddofi sy’n cysylltu natur â llesiant ac iechyd, yn enwedig ar ôl pandemig COVID-19  
  • Yr Hinsawdd – cydnabod pobl a phrosiectau sy’n gysylltiedig â lliniaru newid yn yr hinsawdd, mynd i’r afael â newid hinsawdd, gwaith partneriaeth ac ati

Dysgwch fwy yma Park Protector Awards | Campaign for National Parks (cnp.org.uk) (saesneg yn unig). Y dyddiad cau yw 19 Mehefin.


Clywch eich llais: chi a'ch cefnfor yng Nghymru

Ydych chi’n ymwneud ag addysgu neu reoli ein harfordiroedd a’n moroedd, codi ymwybyddiaeth gyda chymunedau neu gynghorau neu waith cysylltiedig?

Ydych chi eisiau helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i adeiladu llythrennedd cefnforol yng Nghymru?

Llythrennedd morol yw pan fydd pobl yn deall sut mae ein gweithredoedd cyfunol ac unigol yn effeithio ar iechyd y cefnforoedd a sut mae iechyd y cefnforoedd yn effeithio ar ein bywydau. Gallai gwell llythrennedd cefnforol arwain at welliannau yn y modd yr ydym yn rheoli ac yn defnyddio ein harfordir a’n môr er budd bywyd gwyllt a phobl.

CNC ar ran Grŵp Gweithredu a Chynghori Morol Cymru yn cynnal 2 weithdy byr ar-lein 1pm i 3pm ar 13eg a 16eg Mehefin 2022.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Darganfyddwch fanteision parthau .wales a .cymru

Mae'r we bellach yn Gymreig yn sgil parthau .cymru a .wales. 

.cymru a .wales yw'r parthau lefel uchaf i Gymru ac fe'u lansiwyd ar 1 Mawrth 2015 gan Nominet, y sefydliad sy'n gyfrifol am sicrhau bod y rhyngrwyd .UK yn rhedeg yn ddidrafferth. 

I'r rheiny sydd eisiau tanlinellu eu cysylltiad neu eu treftadaeth Gymreig, mae diwedd enw parth yn arwydd gweladwy i unrhyw un sy'n ymweld â'u safle. Mae'n newyddion gwych i Gymru, i fusnesau Cymru ac i unrhyw un sydd eisiau targedu marchnad Cymru. 

Cewch ragor o wybodaeth ar Darganfyddwch fanteision parthau .wales a .cymru | Busnes Cymru (gov.wales).


Rhaglen flaenllaw newydd i helpu mwy o bobl i gael Gwaith

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio rhaglen flaenllaw Newydd gan Lywodraeth Cymru, a fydd yn rhoi cymorth personol I bobl and ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth ar hyn o bryd I ddod o hyd I waith ac iaros mewn Gwaith.

Yn fras,

  • cynllun newydd gwerth £13.25 miliwn y flwyddyn i ddarparu cymorth wedi'i deilwra i helpu pobl i gael gwaith ledled Cymru
  • bydd ReAct+ hefyd yn rhoi cymorth i gyflogwyr o ran cyflog a hyfforddiant yn ystod y flwyddyn gyntaf ar gyfer staff sydd newydd eu cyflogi
  • mae’r rhaglen yn rhan o gynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru i helpu mwy o bobl i gael gwaith ac aros mewn Gwaith

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Rhaglen flaenllaw newydd i helpu mwy o bobl i gael gwaith  | Busnes Cymru (gov.wales).


Gweinidogion yn amlinellu nodau i Gymru ddod yn Genedl Wrth-Hiliol

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i wneud Cymru yn genedl wrth-hiliol. Mae Gweinidogion wedi cyhoeddi 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol' i fynd i'r afael â hiliaeth systemig a sefydliadol.

Gan ddefnyddio profiadau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol o hiliaeth ac anghydraddoldeb hil, mae'r Cynllun yn nodi cyfres o gamau gweithredu ar draws y Llywodraeth i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae'r camau gweithredu'n canolbwyntio ar y ddwy flynedd nesaf, ac wedi'u gosod yn erbyn y weledigaeth o Gymru wrth-hiliol erbyn 2030. 

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Gweinidogion yn amlinellu nodau i Gymru ddod yn Genedl Wrth-Hiliol | LLYW.CYMRU.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Dolenni Defnyddiol


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram