Briff Arloesedd - Rhifyn 49

Mai 2022

English

 
 
 
 
 
 
Blockchain Connected

Llwyddiant i naw prosiect technoleg Blockchain

Wedi’i lansio ym mis Ionawr eleni, mae’r “Her Blockchain”, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei darparu gan Technology Connected. Mae’r prosiectau buddugol yn darparu atebion i broblemau’n ymwneud â themâu’r economi gylchol, datgarboneiddio, cadwyni cyflenwi, a hunaniaeth ac ymddiriedaeth ddigidol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod.

Yr arferion gorau a chydweithio ym maes arloesi

Mae Cymru wedi croesawu dirprwyaethau o Gatalonia a Baden-Württemberg, gan helpu i feithrin perthnasau â gwledydd partner a rhanbarthau partner allweddol – sy’n un o flaenoriaethau Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru. Mae dysgu oddi wrth ranbarthau eraill wedi bod yn un o nodau allweddol Cymru wrth iddi gymryd rhan ym mhrosiect Innovation Cohes3ion Interreg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod.

Dirprwyaeth

Gwobrau Arloesedd Myfyrwyr 2022

Bydd Gwobrau Arloesedd Myfyrwyr CBAC, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn dychwelyd eleni ar ffurf rithwir. Mae’r gwobrau’n rhoi sylw i’r prosiectau dylunio a thechnoleg y mae myfyrwyr arloesol ledled Cymru wedi’u creu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael isod.

 

Cyllid yn cefnogi’r gwaith o lanhau dŵr gwastraff o fwyngloddiau

Gyda chymorth SMART Cymru, mae’r busnes Chemostrat yng Nghymru wedi uwchraddio proses technoleg labordy sy’n deillio o wymon i dynnu’r llygredd metel o ddŵr ffo o fwyngloddiau, a hynny ar ffurf sy’n ei gwneud yn bosibl ailddefnyddio’r deunyddiau a adferwyd yn y dyfodol. Mae gwybodaeth am sut y gall SMART gefnogi eich busnes chi ar gael isod.

DIGWYDDIADAU

 

Gweithdy Arwain Arloesi

13 Mehefin 2022, 14.00 – 15.30

Mae Cyngor Cynghorol Cymru ar Arloesi yn ceisio barn er mwyn helpu i lywio’i gyfraniad i’r Strategaeth Arloesi newydd i Gymru. Yn benodol, bydd y gweithdy’n archwilio’r thema Arwain Arloesi. Gallwch gofrestru isod. 

 

Cyfarfod Cymorth Arloesi

15 Mehefin 2022, 10.00 – 16.45

A ydych chi’n gwmni yng Nghymru sy’n dymuno cynnal prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol? Cofrestrwch nawr ar gyfer y cyfarfod cymorth ar-lein ar 15 Mehefin.

 

Cynhadledd MediWales Connects

29 Mehefin 2022

Gan godi proffil achosion o fabwysiadu dulliau arloesol, bydd y gynhadledd yn cynnwys prif gyflwyniadau, arddangosfeydd a gweithdai gyda 400 o fynychwyr o bob rhan o’r DU. Gallwch gofrestru isod.

 

Curiad Arloesi

30 Mehefin 2022, 10.00 – 11.10

Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru, swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch a'r Asiantaeth Ofod Ewrop. Cofrestrwch yma.

 

Cyfarfod Cymorth Cyflwyniadau a Chyflwyniadau Cyflym

20 Gorffennaf 2022, 13.00 – 17.00

A ydych chi’n ymgeisio am gymorth gan Innovate UK? Gallwch ymgofrestru yma ar gyfer y cyfarfod cymorth, a gynhelir ar y cyd ag Innovate UK EDGE, lle cynigir cymorth ichi gyda llunio’r cyflwyniad a ddefnyddir fel rhan o’ch cais.

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: