Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

26 Mai 2022


town

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Cymorth i gefn gwlad Cymru yn dilyn hwb i dwristiaeth; Datganiad Ysgrifenedig: Dosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth lleol; Cadarnhau Cefnogaeth Digwyddiadau Cymru i Wyliau Gottwood a Merthyr Rising; Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2022; Cynhadledd a phecyn cymorth sgiliau i’r diwydiant twristiaeth gan Gynghrair Next Tourism Generation (NTG); NODYN ATGOFFA - Defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol ac Offer Ar-lein Ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch – dyddiadau gweminarau Newydd; Atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith: rhestr wirio a chynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant lletygarwch; Dathlu Cymru Wledig: 9 - 10 Mehefin 2022, Maes Sioe Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru, Llanfair-ym-Muallt; Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar y brig o fewn y DU; Canllawiau i fusnesau sy’n cynnig gwaith i bobl sy’n dod o’r Wcráin; Buddsoddiad mawr a fydd yn annog beicio ac yn helpu Cymru i fod yn sero-net; Wythnos Gwin Cymru; 4-12 Mehefin 2022


Cymorth i gefn gwlad Cymru yn dilyn hwb i dwristiaeth

Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cyhoeddi (dydd Mercher 25 Mai) £26m i gyfyngu ar ôl troed carbon twristiaeth yng Nghymru, hybu bioamrywiaeth a gwella mynediad i gefn gwlad fel y gall pawb fwynhau ei harddwch.

Gwnaeth y Gweinidog y cyhoeddiad wrth iddi agor rhwydwaith cerbydau trydan (EV) ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – credir mai dyma'r rhwydwaith mwyaf helaeth mewn unrhyw barc cenedlaethol yn y DU gyda 74 o bwyntiau gwefru. 

Esboniodd y Gweinidog y byddai'r arian yn cael ei ddefnyddio i helpu i wneud twristiaeth yn fwy cynaliadwy a chefn gwlad Cymru yn fwy gwydn yn dilyn twf gwyliau gartref yn ystod y pandemig.   

Mae rhai o'r ffyrdd y caiff ei ddefnyddio yn cynnwys: 

  • gwella cyfleusterau trafnidiaeth a thwristiaeth, yn enwedigmewnmannau poblogaidd i dwristiaid
  • gwella rhwydweithiau llwybrau troed gan ganolbwyntio'n benodol ar fynediad i bobl anabl 
  • ariannu prosiectau a fydd yn gwella Parciau Cenedlaethol Cymru fel y gallant storio carbon yn well a darparu gwell amddiffyniad i fywyd gwyllt

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Datganiad Ysgrifenedig: Dosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth lleol

Cyflwynwyd datganiad ysgrifenedig ar 24 Mai gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, ar ddosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth lleol.

Gallwch weld y manylion yma: Datganiad Ysgrifenedig: Dosbarthu llety hunanddarpar at ddibenion treth leol (24 Mai 2022) | LLYW.CYMRU.


Gottwood

Cadarnhau Cefnogaeth Digwyddiadau Cymru i Wyliau Gottwood a Merthyr Rising

Bydd Gwyliau Gottwood a Merthyr Rising yn cael eu cynnal dros benwythnos 9-12 Mehefin ac rydyn ni’n disgwyl ymlaen yn fawr at groesawu’r torfeydd yn ôl i ddau ben y wlad.

Mae perchenogion y ddwy ŵyl wedi cael cymorth mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru trwy Digwyddiadau Cymru i’w helpu i ehangu a datblygu.

Mae Merthyr Rising yn ŵyl sy’n cael ei chynnal i gofio un o’r gwrthryfeloedd cyntaf erioed i gael ei drefnu gan weithwyr, sef Gwrthryfel neu Derfysg Merthyr ym 1831.  Mae’r ŵyl yn dathlu’r digwyddiad trwy wledd o gerddoriaeth, celf a thrafod gwleidyddol.

Mae Gottwood yn ŵyl danddaearol, annibynnol, ‘boutique’ ac agos atoch chi o gerddoriaeth electronig yng Nghaergybi, Ynys Môn. Yn ôl The Independent, “dyma un o’r gwyliau boutique pwysica’ yn y DU.”

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


SGILIAU A HYFFORDDIANT:

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2022

Mae’r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru yn rhoi'r cyfle i chi ddylanwadu ar bolisi a darpariaeth sgiliau o fewn y rhanbarth.

Mae’r bartneriaeth wedi’i chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwil er mwyn deall heriau, materion a chyfleoedd busnes o ran sgiliau a chyflogaeth gyfredol, yn ogystal ag anghenion sgiliau’r dyfodol.

Dilynwch y ddolen isod er mwyn cwblhau arolwg byr ar-lein, na ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau.

Dewch i wybod mwy a chwblhau’r arolwg byr ar-lein (ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau) ar Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth Gogledd Cymru 2022 Survey (surveymonkey.co.uk). Yn cau ar 31 Mai 2022.

Am ragor o wybodaeth neu i gysylltu â'r Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol ewch i Home - Partneriaeth Sgilliau Rhanbarthol Gogledd Cymru (partneriaethsgiliaugogledd.cymru).

 

Cynhadledd a phecyn cymorth sgiliau i’r diwydiant twristiaeth gan Gynghrair Next Tourism Generation (NTG)

Prosiect a gyllidir gan Erasmus+ yw Cynghrair Next Tourism Generation (NTG), ac mae’r Consortia yn cynnwys 14 o bartneriaid gan gynnwys NTG Cymru. Canolbwyntia ar fylchau o ran materion digidol, cymdeithasol a sgiliau gwyrdd o fewn y gweithlu twristiaeth a lletygarwch.

Mae Cynghrair NTG yn gwahodd arweinwyr twristiaeth a lletygarwch o bob rhan o Gymru i fynychu Cynhadledd olaf NTG: Trawsnewid gwaith datblygu sgiliau gwyrdd, digidol a chymdeithasol ym maes twristiaeth ar 9 Mehefin. Bydd yn gyfle i ddysgu mwy am allbynnau’r Gynghrair NTG sy’n cynnwys:

  • Pecyn Cymorth i’r Sector Twristiaeth
  • Methodoleg Asesu Sgiliau NTG
  • Matrics Sgiliau NTG
  • Fframwaith Safonau – Sgiliau o Ansawdd
  • Glasbrint i fynd i’r afael ag anghenion o ran sgiliau o fewn y sector twristiaeth

Gallwch gofrestru ar The Next Tourism Generation: The transition of green, digital and social skills development - NTG.

Mae pecynnau cymorth ar gyfer sgiliau hefyd ar gael i’r sector twristiaeth a gallwch eu gweld ar NTG Toolkit - NTG (nexttourismgeneration.eu).

I gael rhagor o wybodaeth am NTG Cymru ebostiwch Dr Sheena Carlisle.

 

NODYN ATGOFFA - Defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol ac Offer Ar-lein Ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch – dyddiadau gweminarau Newydd

Ymunwch â Cyflymu Cymru i Fusnesau am weminar dwy ran am ddim sydd wedi'i theilwra ar gyfer y sector twristiaeth a lletygarwch.

Dysgwch sut i osod eich busnes ar wahân ar-lein, ymgysylltu â chwsmeriaid newydd, manteisio’n well ar adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol megis platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.

Cofrestrwch ar gyfer y gweminarau a darganfod mwy am gefnogaeth un i un am ddim Defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol ac Offer Ar-lein Ym Maes Twristiaeth a Lletygarwch (Tudalen 1 o 4) (office.com).


Atal aflonyddu rhywiol yn y gwaith: rhestr wirio a chynllun gweithredu ar gyfer y diwydiant lletygarwch

Ochr yn ochr â UKHospitality, mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) wedi lansio rhestr wirio a chynllun gweithredu i helpu cyflogwyr yn y diwydiant lletygarwch i fynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol yn erbyn eu staff. Mae dros hanner y menywod a dwy ran o dair o bobl LGBT yn dweud eu bod wedi profi aflonyddu rhywiol yn y gweithle, gyda'r broblem yn arbennig o ddifrifol yn y sector lletygarwch.

Mae'r adnodd ymarferol hwn yn cynnwys cyngor diogelwch ac ataliol ar gyfer lleoliadau lletygarwch. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi gweithio'n agos gyda'r diwydiant lletygarwch i ddatblygu'r canllawiau hyn, ond gellir eu cymhwyso i unrhyw weithle. 

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Dathlu Cymru Wledig: 9 - 10 Mehefin 2022, Maes Sioe Cymdeithas Frenhinol Amaethyddol Cymru, Llanfair-ym-Muallt

Bydd Dathlu Cymru Wledig, sy’n cael ei drefnu gan Lywodraeth Cymru drwy Uned Cefnogi Rhwydwaith Gwledig Cymru, yn tynnu sylw at rai o’r prosiectau eithriadol  sydd wedi cael eu gweithredu  yng Nghymru drwy’r Rhaglen Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD), ac yn cofnodi’r hyn sy’n bwysig er mwyn parhau i gefnogi’r economi wledig yn y dyfodol.  Gallwch gofrestru heddiw ar Cofrestru | Dathlu Cymru Wledig.

Fel rhan o’r dathliad bydd digwyddiad i brofi bwyd a diod o Gymru a dysgu mwy am brosiectau datblygu gwledig yn cael ei gynnal. Cewch fwy o fanylion yma: Tocynnau Blas ar Gymru / A Taste of Wales, Dydd Iau 9 Mehefin 2022 am 16:00 | Eventbrite.


Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan ar y brig o fewn y DU

Cafodd dros 40 o atyniadau ar draws y DU – o amgueddfeydd gwyddoniaeth, trafnidiaeth a rhyfel i orielau celf – eu sgorio’n ddiweddar gan dros 4000 o ymwelwyr ar ran cylchgrawn Which?

Daeth| NAmgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan (amgueddfa.cymru) i’r brig fel atyniad gorau’r DU. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma The best museums and galleries in the UK - Which?. (Saesneg yn unig).


Canllawiau i fusnesau sy’n cynnig gwaith i bobl sy’n dod o’r Wcráin

Mae canllawiau gan Lywodraeth y DU ar gael i fusnesau sydd am gyflogi pobl sy’n dod i’r DU o Wcráin. Cewch ragor o wybodaeth ar: https://www.gov.uk/guidance/guidance-for-businesses-offering-work-to-people-coming-from-ukraine. (Saesneg yn unig).


Buddsoddiad mawr a fydd yn annog beicio ac yn helpu Cymru i fod yn sero-net

Annog pobl i gefnu ar eu ceir a dechrau beicio yw nod buddsoddiad gwerth £50 miliwn a gafodd ei gyhoeddi gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.

Fel rhan o’r buddsoddiad a gyhoeddwyd, bydd pob awdurdod lleol yn derbyn o leiaf £500,000, gyda dyraniadau ychwanegol wedi cael eu dyfarnu yn dilyn proses ymgeisio gystadleuol.

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Buddsoddiad mawr a fydd yn annog beicio ac yn helpu Cymru i fod yn sero-net | Busnes Cymru (gov.wales).


Wythnos Gwin Cymru; 4-12 Mehefin 2022

Bydd Wythnos Gwin Cymru yn cael ei chynnal eleni o 4-12 Mehefin. Dewch i wybod mwy a dysgu sut y gallwch gymryd rhan yma: https://welshwineweek.co.uk/cy/wythnos-gwin-cymru/.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram