Bwletin Newyddion: Dod â rheoliadau coronafeirws i ben yng Nghymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

27 Mai 2022


corona

Dod â rheoliadau coronafeirws i ben yng Nghymru

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford heddiw y gall Cymru edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair, wrth i’r cyfyngiadau coronafeirws cyfreithiol olaf gael eu dileu.

Ar ôl mwy na dwy flynedd o fyw gyda rheoliadau coronafeirws, daw'r rhain i ben ddydd Llun 30 Mai pan ddaw’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal i ben.

Ond bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i argymell bod pobl yn cymryd camau syml i ddiogelu eu hiechyd – gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal – wrth i Gymru symud y tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae’r pandemig wedi cael effaith fawr ar fywydau pob un ohonom - mae pawb wedi aberthu cymaint, ac wedi gorfod gwneud newidiadau i’w bywydau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond diolch i’ch ymdrechion chi, gallwn symud y tu hwnt i’r ymateb argyfwng a byw’n ddiogel gyda’r feirws hwn.

“Hoffwn ddiolch i bawb am bopeth rydych wedi’i wneud i ddiogelu eich hunain a’ch anwyliaid. Rydych wedi dilyn y rheolau ac wedi diogelu Cymru.

“Mae’r adolygiad tair wythnos hwn o’r rheoliadau coronafeirws yn garreg filltir bwysig - rydym yn cwblhau’r broses raddol o bontio oddi wrth gyfyngiadau cyfreithiol ac oddi wrth yr ymateb i argyfwng y pandemig.”

Mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru – mae canlyniadau Arolygon Heintiadau Coronafeirws diweddar yr ONS yn dangos bod y nifer o bobl sydd â COVID-19 yn lleihau.

Ond yn yr wythnos ddiwethaf, mae pedwar prif swyddog meddygol y DU wedi rhybuddio am y risg yn sgil amrywiolion newydd – BA.4 a BA.5.

Dywedodd y Prif Weinidog y bydd Cymru’n wyliadwrus o’r amrywiolion hyn ac yn barod i ddwysau’r trefniadau profi a brechu unwaith eto os yw’r sefyllfa iechyd y cyhoedd yn newid.

Ychwanegodd:

“Rydym yn parhau i fod yn wyliadwrus o’r bygythiad yn sgil amrywiolion newydd ac amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, a byddwn yn barod i ymateb os gwelwn ledaeniad cyflym o’r feirws sy’n achosi niwed helaeth.

“Bydd parhau i gymryd camau syml, gan gynnwys sicrhau eich bod yn manteisio ar y brechlynnau sy’n cael eu cynnig i chi; hunanynysu os oes gennych symptomau COVID-19 a sicrhau hylendid dwylo da, yn bwysig i’n helpu ni i fwynhau dyfodol diogel a disglair gyda’n gilydd.”

O ddydd Llun 30 Mai, daw’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal i ben. Mae hyn yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o’r rheoliadau coronafeirws ac yn cwblhau’r broses o lacio’r cyfyngiadau cyfreithiol yn raddol, fesul cam ers mis Ionawr.

Dros y tair wythnos diwethaf, mae’r sefyllfa iechyd y cyhoedd wedi parhau i wella, gyda chanlyniadau Arolwg Heintiadau Coronafeirws diweddaraf yr ONS yn dangos bod y canran o bobl sy’n cael prawf coronafeirws positif yng Nghymru yn lleihau.

Mae nifer y cleifion COVID-19 yn yr ysbyty hefyd wedi lleihau i lai na 700, sef y nifer isaf ers 28 Rhagfyr 2021, er bod y GIG yn parhau i fod o dan bwysau o ganlyniad i gyfuniad o bwysau argyfwng a phandemig, gyda nifer sylweddol o staff yn absennol.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (27 Mai 2022) | LLYW.CYMRU.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram