Bwletin Newyddion: Prif Weinidog Cymru yn dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

11 Mai 2022


wcp

Prif Weinidog Cymru yn dathlu 10 mlynedd o Lwybr Arfordir Cymru

Bydd y Prif Weinidog yn dathlu 10fed pen-blwydd Llwybr Arfordir Cymru gydag ymweliad i gwrdd â gwirfoddolwyr a cherddwyr yn Sir Fynwy heddiw.

Cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd sy'n dathlu Llwybr Arfordir Cymru drwy gydol 2022, gan gynnwys gwyliau cerdded, heriau rhithwir a gosodiadau celf.

Ers ei agor yn 2012, mae Llwybr Arfordir Cymru wedi sefydlu ei hun fel esiampl o harddwch naturiol ein cenedl.

Mae'r llwybr 870 milltir yn tywys cerddwyr ar hyd arfordir prydferth Cymru, gan fynd heibio cant o draethau ac un ar bymtheg o gestyll.

Meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford:

"Mae llwybr yr arfordir yn un o ogoniannau Cymru ac yn un o lwyddiannau mwyaf datganoli.

"Hoffwn ddiolch i bawb sy'n ymwneud â rheoli'r llwybr. Yn enwedig y staff a'r gwirfoddolwyr, sydd allan ym mhob tywydd, yn gweithio'n galed i gynnal y llwybr i safonau mor uchel.

"Pe bai'n rhaid i mi ddewis fy hoff ddarn o'r llwybr, byddai'r gyfran rhwng Pentywyn ac Amroth yn dod yn agos: gan ddechrau yn fy sir enedigol, sir Gaerfyrddin, a dod i ben yn Sir Benfro. Efallai nad dyma'r rhan fwyaf adnabyddus o'r llwybr, ond mae'n cynnig amrywiaeth enfawr: rhai dringfeydd heriol, amrywiaeth eithriadol o flodau, cilfachau cudd a digon o ddiddordeb hanesyddol".

Bydd Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar lwyddiannau'r deng mlynedd cyntaf fel y gall mwy o bobl fwynhau'r llwybr, o fwy o gefndiroedd, yn haws, a chyda mwy o fanteision i gymunedau lleol, busnesau a'r amgylchedd.

Gofynnodd y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, i Huw Irranca-Davies, AS Ogwr, gynnal adolygiad o Lwybr Arfordir Cymru.

Sefydlwyd grŵp bach, o'r byd academaidd a'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, i gynnal yr adolygiad.

Myfyriodd y Grŵp ar y llwyddiannau allweddol dros y ddegawd ddiwethaf a nododd sut i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd ar gyfer y dyfodol.

Mae eu hadroddiad wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw (11 Mai).

Mae'r adolygiad yn cydnabod gwerth a heriau posibl Llwybr Arfordir Cymru.  Mae'n cynnwys 19 o argymhellion i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth ddatblygu ei dull strategol o ymdrin â'r llwybr yn y dyfodol.

 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am:


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram