|
Er mwyn codi ymwybyddiaeth o Fwyd a Diod Cymru ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2022, cydlynodd Bwyd a Diod Cymru ystod o weithgareddau. Yr amcan oedd datblygu ymgyrch fasnach Bwyd a Diod Cymru draws-ddiwydiannol, gydweithredol ar gyfer defnyddwyr, i hyrwyddo Bwyd a Diod Cymru, gan gael yr effaith fwyaf am y gost leiaf. Arweiniodd y gweithgareddau at 16.36 miliwn o argraffiadau o’r ymgyrch gwbl integredig.
Prif ffeithiau’r ymgyrch:-
- 135 o gwmnïau Bwyd a Diod Cymru wedi cymryd rhan
- Fideos Ymgyrch Cynhyrchwyr Dydd Gŵyl Dewi – 3 ffilm wedi’i chynhyrchu
- Pecyn cymorth marchnata digidol #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste wedi’i ddefnyddio gan 135 o gwmnïau bwyd a diod
- Ymgyrch Cyfryngau Digidol/Cymdeithasol- gan gynnwys geo-dargedu ffonau symudol
- ITV Wales a Channel 4 OnDemand - ymgyrch Cliciwch i wylio’r hysbyseb deledu a ddarlledwyd ar ITV Wales #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste TV advert
- Hysbysebu y tu hwnt i siopa manwerthu a safleoedd porth i Gymru
- Cael sylw yn The Grocer
Diolch YN FAWR i’r holl gwmnïau Bwyd a Diod Cymru a gymerodd ran
|
|
Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf, yn ddi-os, wedi bod y mwyaf heriol i'n diwydiant mewn cof. Brexit, yna Covid, yna mae'r argyfwng yn yr Wcráin wedi effeithio'n fawr arnom ni i gyd ac wedi gadael creithiau mewn sawl ffordd. Mae effaith barhaus yr argyfyngau hyn wedi creu storm berffaith sy'n torri'n ddwfn ym mhob busnes bwyd a diod.
|
|
|
Mae deuddeg cwmni bwyd a diod o Gymru yn paratoi i fynychu arddangosfa fasnach bwyd a diod fwyaf ac uchaf ei pharch y DU. Bydd dros 1200 o arddangoswyr yn bresennol yn Food & Drink Expo yn Birmingham yr wythnos nesaf (25-27 Ebrill 2022), a phob un yn gobeithio dod o hyd i brynwyr a dosbarthwyr newydd.
|
|
|
Bydd un o’r grwpiau mwyaf o gwmnïau bwyd a diod o Gymru i arddangos mewn digwyddiadau masnach yn y DU yn mynd i Birmingham yn ddiweddarach y mis hwn ar gyfer dwy sioe allweddol yn y calendr coginio.
Mae’r grŵp yn cynnwys mwy na 40 o gynhyrchwyr gwych o Gymru a fydd yn cael sylw mewn dau ddigwyddiad cyfochrog a gynhelir yn yr NEC (Ebrill 25-27) – Farm Shop & Deli Show 2022 a’r Expo Bwyd a Diod 2022.
|
|
|
Bydd bwyd môr o Gymru yn cael ei arddangos yn Sbaen yn ddiweddarach y mis hwn yn nigwyddiad masnach mwyaf y byd ar gyfer y sector – Seafood Expo Global 2022.
Yn cynnwys mwy na 2,000 o gwmnïau o 89 o wledydd, bydd Seafood Expo Global yn cael ei gynnal yn Barcelona rhwng Ebrill 26 a 28.
|
|
|
Pan ymwelodd Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, â Mona Island Dairy ar Ynys Môn, roedd wrth ei bodd fod cynnydd yn cael ei wneud cyn i’r ffatri agor yn swyddogol yn ystod yr wythnosau nesaf.
|
|
|
Mae datblygu cynaliadwy wrth wraidd ein deddfwriaeth sefydlu yma yng Nghymru ac i gefnogi Llywodraeth Cymru i gyflawni ei thargedau ar gynaliadwyedd, mae prosiect Sgiliau Bwyd Cymru a gyflenwir gan Lantra, wedi gweithio’n ddiweddar ar y cyd â Cynnal Cymru ac Eco Studio i ddatblygu Rhaglen Hyfforddiant Cynaliadwyedd yn benodol ar gyfer y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd a diod.
|
|
|
O fis Gorffennaf 2022, mae Ardystiadau, Dogfennol, Hunaniaeth a Gwiriadau Ffisegol yn cael eu cyflwyno ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid o’r Undeb Ewropeaidd i Brydain Fawr
|
|
|
Yr Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am hyrwyddo'r diwydiant yng Nghymru. Gan weithio gyda phartneriaid, cyhoeddodd ei weledigaeth strategol ar gyfer y dyfodol yn ddiweddar gyda'r nod o greu sector bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru sydd ag enw da yn fyd-eang am ragoriaeth, ynghyd â chael un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd. Gweler yr erthyglau a gyhoeddwyd yn ‘The Grocer’.
|
Ar ddydd Sul 27 Chwefror, cymerodd Cymru yr awenau ym Mhafiliwn y DU yn Dubai Expo 2020. Roedd partneriaeth Llywodraeth Cymru â'r Adran Masnach Ryngwladol (DIT) a Phafiliwn y DU yn arddangos Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang yn gwneud pethau da – gartref a ledled y byd.
Roedd dod â'r gorau o gawsiau Cymreig i'r Pafiliwn yn gyfle i ymwelwyr flasu amrywiaeth o gynnyrch gorau Cymru. Gwelwyd perfformiadau cerddorol ysblennydd gan Bafiliwn Cymru yn Expo 2020. Perfformiodd lleisiau sioe gerdd gorau Cymru, Welsh West End, dros ddau ddiwrnod y tu allan i Bafiliwn y DU.
|
|
Mae cynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru wedi dychwelyd o Gulfood, Dubai yn ddiweddar (13 – 17 Chwefror 2022), yr arddangosfa fasnach ryngwladol gyntaf a fynychwyd gan yr Is-adran Fwyd mewn dwy flynedd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Rhoddodd y sioe fasnach gyfle i gwmnïau arddangos eu cynnyrch i lu o brynwyr a dosbarthwyr wyneb yn wyneb unwaith eto, gan ddangos eu bod yn dal i fod ar agor ar gyfer busnes ac yn ceisio sicrhau cyfleoedd allforio newydd yn y rhanbarth.
|
|
|
Ymunodd buddsoddwyr, banciau a darparwyr cyllid â busnesau bwyd a diod o Gymru yn y Bathdy Brenhinol eiconig ar ddydd Iau 24 Mawrth ar gyfer cynhadledd flynyddol gyntaf y Clwstwr Uwchraddio Cynaliadwy, Arian I Dyfu. Dan ofal y newyddiadurwr busnes Brian Meechan, dechreuodd yr agenda gyda sylwadau agoriadol gan Lesley Griffiths MS, ac aelod o Fwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, Maggie Ogunbanwo.
|
|
|
Dosbarth Meistr Marchnata
TUCK IN
Neuadd Soughton, ger yr Wyddgrug
11 Mai 2022
Trefnir y digwyddiad hwn gan y Clwstwr Bwyd Da a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.
Bydd y dosbarth meistr undydd hwn yn edrych ar farchnata bwyd a diod, a bydd amrywiaeth o frandiau’n rhannu eu profiadau ymarferol o ddatblygu a marchnata brand yn llwyddiannus..
I ARCHEBU EICH LLE
Am fwy o fanylion ac i gadw eich lle e-bostiwch Megi Gruffydd
megi.gruffydd@menterabusnes.co.uk
|
|
|
Wrth i Raglen Datblygu Gwledig 2014-2020 ddechrau ar ei blwyddyn olaf, mae'r digwyddiad Dathlu Gwledig yn edrych yn fanylach ar brosiectau a buddiolwyr y cyllid, nid yn unig dros y rhaglen ddiwethaf ond llawer o brosiectau a ddechreuodd gyda grantiau llai ac sydd wedi tyfu a symud ymlaen i wneud cais a derbyn cyllid drwy gynlluniau eraill.
|
|
|
Cynhadledd Dynodiad Gwarchodedig (GI) - 15 Mehefin (Saesneg yn unig)
Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn cynnal Cynhadledd Dynodiad Gwarchodedig (GI) ar-lein ar fore 15 Mehefin. Gellir dod o hyd i amlinelliad agenda a ffurflen gofrestru yma
|
|
|