
Dathlu Cymru Wledig - 9 & 10 Mehefin 2022
#dathlucymruwledig
Digwyddiad ‘wyneb yn wyneb’ cyntaf Rhwydwaith Cymru Wledig ers 2019
Mae’r cynlluniau wedi hen ddechrau erbyn hyn. Mae cysylltiadau wedi'u gwneud ac mae Aelodau arbenigol o'r Panel yn cael eu cadarnhau.
Sicrhewch eich bod wedi neilltuo un diwrnod, neu'r ddau ddiwrnod, er mwyn mynychu'r digwyddiad dathlu hwn. Bydd yn arddangos y llu o brosiectau llwyddiannus (ac mae miloedd) sydd wedi cael cyllid drwy'r Rhaglen hon.
Croeso i rifyn arall o'n cylchlythyr 'Dathlu Gwledig'. Mae peth amser wedi bod ers yr un diwethaf ond rydyn i yn ôl, yn dathlu rhagor o brosiectau gwych a gefnogir gan Raglen Datblygu Gwledig Cymru ac Ewrop.
Yn y rhifyn hwn rydyn ni’n edrych ar bwysigrwydd cynaliadwyedd a ffyrdd y gallwn ddiogelu a rheoli'r adnoddau naturiol hardd sydd gennym yng Nghymru.
Mae’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy yn cefnogi camau gweithredu uniongyrchol ar reoli adnoddau naturiol ledled Cymru gan gyflawni yn unol â’r dull a'r egwyddorion a nodir yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Diben y cynllun yw cefnogi prosiectau cydweithredol ar lefel y dirwedd sy'n cynnig atebion yn seiliedig ar natur i wella cadernid ein hadnoddau naturiol a'n hecosystemau mewn modd sydd hefyd yn sicrhau manteision i fusnesau fferm ac iechyd a lles cymunedau gwledig.
Mae prosiectau SMS yn cymryd camau gweithredu i wella bioamrywiaeth, gwella seilwaith gwyrdd, cynnal gwaith rheoli tir a dŵr gwell ac yn bwysig iawn, hwyluso'r gwaith o addasu a lliniaru i newid yn yr hinsawdd ar lefel y dirwedd, drwy bartneriaethau cydweithredol.
Mae'r partneriaethau hyn yn cynnwys perchnogion tir, ffermwyr a phorwyr sydd wedi gweld manteision cydweithio ac sydd wedi cael eu hysbrydoli i weithio gyda dulliau newydd a thraddodiadol.
Mae'r Amgylchedd a Newid Hinsawdd ar feddwl pawb ac mae Cynaliadwyedd yn allweddol i'r thema drawsbynciol hon.
Yn ogystal â’r Cynllun Rheoli Cynaliadwy, mae'r ffrydiau ariannu canlynol hefyd yn ystyried y materion hyn.
Cyswllt Ffermio - Mae rhaglen well yn darparu cymorth sy'n trawsnewid rhagolygon busnes miloedd o ffermwyr a choedwigwyr.
Partneriaeth Arloesi Ewrop (EIP) yng Nghymru - Mae EIP Cymru yn darparu cyllid i 46 o brosiectau o bob rhan o Gymru sy'n treialu technegau a thechnolegau arloesol ar lefel ymarferol o fewn busnesau ffermio a choedwigaeth.
 |
|
Ffocws y prosiect hwn yw Ystad Ddiwydianol Wrecsam sy’n lleoliad mawr (550ha) a gwledig. Gweledigaeth Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru yw sicrhau bod y dirwedd o fewn yr ystâd ddiwydiannol ac o’i hamgylch yn fwy croesawgar i fywyd gwyllt, yn haws i bobl gael mynediad ato ac yn fwy deniadol i fusnesau. Dymunir hefyd wella iechyd a lles gweithwyr a chymunedau cyfagos.
|
 |
|
Menter gymdeithasol yn Llanrwst yw Golygfa Gwydyr. Mae’n sefydliad di-elw sy’n cael ei arwain gan y gymuned. Yng nghyd-destun y gymuned leol a’r lle, ei nod yw gwella cydnerthedd cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd a darparu cyfleoedd ar gyfer twf personol a chysylltiadau cymunedol bywiog.
|
 |
|
Prosiect, dan arweiniad PLANED, i weithredu ar y cyd ar raddfa’r dirwedd gyfan, gan weithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i ddwyn ynghyd ffermwyr, diwydiannau, cadwyni cyflenwi, sefydliadau amgylcheddol a chymunedau lleol er mwyn “Datblygu Gallu Dalgylchoedd i Wrthsefyll Newidiadau” (BRICs).
|
 |
|
Nod yr SMS yw bodloni Maes Ffocws 4 y Rhaglen Datblygu Gwledig: Adfer, cadw a gwella ecosystemau sy’n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth drwy:
- Adfer a chadw bioamrywiaeth, gan gynnwys ardaloedd Natura 2000 a ffermio â gwerth natur uchel, a chyflwr tirweddau Ewropeaidd,
- Gwella’r rheolaeth ar bridd
- Gwella’r rheolaeth ar ddŵr
- Dal a storio carbon mewn amaethyddiaeth a choedwigaeth.
Darllenwch Fwy o Wybodaeth a gweld mwy o astudiaethau achos
|
|