Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

8 Ebrill 2022


adventure parc snowdonia

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth


CYNNWYS BWLETIN: Busnesau twristiaeth gogledd Cymru yn barod ar gyfer y Pasg; Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf a datblygiad digwyddiadau cartref; Cadw'r dyddiad: Gweminar hyfforddi'r Fasnach Deithio – Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, 4 Mai 2022; Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Ebrill 2022; Crwydro Arfordir Cymru – ar gael nawr; Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi cyllid gwerth £4.5 miliwn ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg; Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Hydref i Ragfyr 2021; Dosbarth Meistr Marchnata Dydd Gwener 22ain Ebrill 10.00yb - 1.00yp; Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru


Busnesau twristiaeth gogledd Cymru yn barod ar gyfer y Pasg

Wrth i fusnesau twristiaeth ar draws gogledd Cymru baratoi ar gyfer gwyliau'r Pasg, aeth Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, ar ymweliad ag Adventure Parc Snowdonia i glywed am eu paratoadau.

Mae'r datblygiadau diweddaraf yn y Parc yn cynnwys Gwesty a Sba Hilton, sydd bellach bron yn flwydd oed, a'r ganolfan antur dan do sy'n cynnig profiad cyffrous ym mhob tywydd. Mae'r ddau ddatblygiad wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Gyda dechrau'r tymor syrffio newydd a disgwyl ymwelwyr dros wyliau'r Pasg a'r haf, mae Adventure Parc Snowdonia yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae wedi bod yn ddwy flynedd heriol iawn i'r diwydiant twristiaeth. Ddwy flynedd yn ôl roedd gwyliau'r Pasg yn wahanol iawn, ond erbyn hyn mae busnesau ledled y wlad yn barod i groesawu ymwelwyr.

“Mae Croeso Cymru wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd yn ystod y gaeaf i gadw Cymru ym meddyliau darpar ymwelwyr, wrth i bobl ddechrau meddwl am archebu gwyliau unwaith eto.

“Mae'n wych gweld y datblygiadau yma yn Adventure Parc Snowdonia, sy'n rhan allweddol o wella enw da Gogledd Cymru fel cyrchfan twristiaeth antur o'r radd flaenaf. Gyda llety a gweithgareddau o ansawdd uchel sy'n addas i bawb, mae'r atyniad wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r arlwy twristiaeth yma.

“Mae hefyd yn darparu sgiliau a chyfleoedd hyfforddi rhagorol i'r ardal leol. Mae cael y cyfle i hyfforddi a gweithio mewn datblygiad o'r fath yn y Gymru wledig yn brofiad aruthrol.

“Rwy'n dymuno tymor llwyddiannus iawn i Adventure Parc Snowdonia.”

Nodyn atgoffa: Gallwch hefyd ddarllen am sut mae busnesau twristiaeth Sir Benfro yn paratoi ar gyfer y Pasg ac am ymweliad Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething â busnesau yn Sir Benfro ar: Busnesau twristiaeth Sir Benfro yn paratoi ar gyfer y Pasg | LLYW.CYMRU.


Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf a datblygiad digwyddiadau cartref

Mae digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ledled Cymru yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl yn y cnawd dros y misoedd nesaf wrth i drefnwyr newid yn ôl i berfformiadau cynulleidfaoedd byw.  

Mae llawer o'r digwyddiadau cartref hyn wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy Ddigwyddiadau Cymru.  

Yn ôl y ffigurau diweddaraf o 2019, gwnaeth digwyddiadau a gefnogwyd drwy Ddigwyddiadau Cymru ddenu 200,000 o ymwelwyr i Gymru. Cynhyrchodd hyn werth £33.35 miliwn o effaith economaidd uniongyrchol/gwariant ychwanegol net i Gymru a chefnogodd dros 770 o swyddi drwy’r economi dwristiaeth ehangach.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae digwyddiadau cartref Cymru yn cyfoethogi'r cynnwys celfyddydol a diwylliannol sydd ar gael yn ein cymunedau, gan ddarparu llwyfan i dalent o Gymru sy'n dod i'r amlwg. Yn aml, mae’n cynnig y sylfaen i ddigwyddiad fynd ymlaen i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru. Mae ein cefnogaeth eang ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, ochr yn ochr â'n cefnogaeth i ddigwyddiadau chwaraeon a busnes, yn ein helpu i gynnal portffolio cytbwys o ddigwyddiadau ledled Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr yn ôl i ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ledled Cymru a'u gweld yn ymweld ag atyniadau a rhanbarthau eraill fel rhan o'u taith. Rydym yn cydnabod ei bod wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'r sector digwyddiadau a bod heriau mawr i'w goresgyn o hyd. Fodd bynnag, gyda chymorth fel y Gronfa Adferiad Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi darparu mwy na £108 miliwn  o gymorth ariannol i'r sectorau diwylliannol, creadigol, digwyddiadau a chwaraeon, gobeithio y gall y sector ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol yn fwy cadarnhaol.”

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Cadw'r dyddiad: Gweminar hyfforddi'r Fasnach Deithio – Cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, 4 Mai 2022

Mae'r Fasnach Deithio yn rhan bwysig o'r diwydiant twristiaeth a gall roi cyfle allweddol i fusnesau dyfu drwy agor i farchnadoedd newydd. 

Mae Croeso Cymru wedi ymuno â Mike Newman o b2me Tourism Marketing Ltd i gyflwyno gweminar hyfforddi am ddim ar 4 Mai, i dynnu sylw at y cyfleoedd i weithio gyda'r Fasnach Deithio ac i dynnu sylw at dueddiadau newydd sy'n dod i'r amlwg yn yr amgylchedd ar ôl COVID.

Bydd hwn yn gyfle i fusnesau a hoffai wybod mwy am y Fasnach Deithio, sydd â diddordeb mewn dechrau yn y sector hwn neu loywi i'r rhai sy'n fwy cyfarwydd â gweithio gyda'r Fasnach Deithio, gan gynnwys:

  • Llety gan gynnwys llety gwely a brecwast sy'n gallu cynnig cyfraddau teithwyr cwbl annibynnol i westai mawr
  • Atyniadau
  • Gweithredwyr gweithgareddau / golygfeydd / teithiau
  • Sefydliadau Marchnata Cyrchfannau (DMOs) ac Awdurdodau Lleol
  • Clybiau golff

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.


Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Ebrill 2022

Mae diweddariad i randdeiliaid wedi ei ddarparu sy’n casglu’r wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar y system Ardrethi Annomestig yng Nghymru.

Mae hwn i’w weld ar: Diweddariad i randdeiliaid ar ardrethi annomestig: Ebrill 2022 | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Crwydro Arfordir Cymru – ar gael nawr

Archwiliwch arfordir Cymru y Pasg hwn gyda’r Ap Wales Coast Explorer | Crwydro Arfordir Cymru newydd, RHAD AC AM DDIM. 

Mae yr ap Crwydro Arfordir Cymru RHAD AC AM DDIM ar gyfer archwilio arfordir Cymru gyfan – o'r aber i'r cefnfor, y traeth i'r clogwyni – ac mae'n adeiladu ar Ap Cod Morol Sir Benfro, gan helpu pobl i ddeall sut i osgoi tarfu ar fywyd gwyllt a niweidio cynefinoedd, tra'n parhau i fwynhau'r golygfeydd sydd gan Gymru i'w cynnig.

Mae'n ganlyniad cydweithrediad rhwng Fforwm Arfordir Sir Benfro a'r rhwydwaith o reolwyr sy'n gofalu am Ardaloedd Morol Gwarchodedig arbennig Cymru, a phartneriaid eraill.

Gellir defnyddio'r ap i

  • Archwilio: Darganfod safleoedd hynafol a dysgu sut i fwynhau arfordiroedd Cymru.
  • Adnabod: Planhigion ac anifeiliaid a bywyd gwyllt eraill!
  • Cofnod: Dewch yn wyddonydd dinasyddion drwy rannu golygfeydd.

Darllenwch fwy ar Wales Coast Explorer | Crywdro Arfordir… | Wild Seas Wales (cy_gb) a chymryd rhan drwy roi gwybod i'ch ymwelwyr a lawrlwytho'r ap. 


Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi cyllid gwerth £4.5 miliwn ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid gwerth £4.5 miliwn i ddatblygu sylfaen sgiliau busnesau a chreu gweithlu yng Nghymru sy'n barod i fanteisio ar gyfleoedd economaidd yn y dyfodol.

Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP), a ddechreuodd yn 2015, yn darparu ymyriadau sgiliau wedi'u targedu ochr yn ochr â rhaglenni sy'n bodoli eisoes, neu lle mae angen cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect busnes penodol.

Mae'r rhaglen yn gweithredu ar sail buddsoddi ar y cyd sy'n golygu bod yn rhaid i gyflogwyr roi arian cyfatebol i gymorth Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn golygu bod cyfanswm o £9 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru. Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu am dair blynedd arall.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Rhaglen Sgiliau Hyblyg | Busnes Cymru Porth Sgiliau (gov.wales).


Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Hydref i Ragfyr 2021

Bydd canlyniadau diweddaraf Arolwg Defnydd Llety Twristiaeth Cymru yn cael eu cyhoeddi ar 12 Ebrill ac mae'r canfyddiadau'n dangos:

  • Roedd defnydd ystafelloedd gwesty i fyny ar gyfer mis Hydref (75%), Tachwedd (69%), a Rhagfyr (56%) o'i gymharu â 2020.
  • Ar draws y sector hunanarlwyo, roedd lefelau defnydd unedau wedi gwneud yn dda yn ystod mis Hydref, sef 74%, ond ym mis Tachwedd gwelwyd lefelau'n gostwng i 34%. Ym mis Rhagfyr gwelwyd cynnydd mewn defnydd unedau gyda lefelau o 55% er gwaethaf Omicron.

Mae data ar gyfer Tai Llety, Gwely a Brecwast, carafannau sefydlog, gwersylla a lleiniau gwersylla a teithio hefyd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad.

Bydd yr adroddiad ar gael ar: Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Hydref i Ragfyr 2021 | LLYW.CYMRU.


Dosbarth Meistr Marchnata Dydd Gwener 22ain Ebrill 10.00yb - 1.00yp

Bydd y Dosbarth Meistr Marchnata hwn yn cael ei ddarparu gan gynghorwyr arbenigol Busnes Cymru, a fydd yn dysgu technegau Marchnata ymarferol ichi, hawdd eu defnyddio. Byddwch hefyd yn cael offer i ddeall pwy yw eich cleientiaid a sut i farchnata eich cynnyrch neu wasanaeth er mwyn tyfu eich busnes.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed gan gyflwynwyr, gan gynnwys:

  • Louise Wharton, Busnes Cymru, yn trafod cyfleoedd ac effaith gadarnhaol posibl mentora marchnata i chi.
  • Catherine Rowland, Busnes Cymru, yn cyflwyno Addewidion Cydraddoldeb a Thwf Gwyrdd Llywodraeth Cymru, eu defnydd fel Symbolau Ymddiriedaeth amhrisiadwy.

I gadw eich lle, ffoniwch 01267 233749 neu anfonwch neges e-bost at westwales@businesswales.org.uk

I gael gwybodaeth neu gymorth gyda hyfforddi a recriwtio staff darllenwch ein Sgiliau a Recriwtio | Drupal (gov.wales).


Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn: cynllunio bysiau fel gwasanaeth cyhoeddus i Gymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar gynigion ar gyfer deddfwriaeth bysiau newydd.

Mae'r papur gwyn hwn yn amlinellu cynigion ar gyfer gwasanaethau bysiau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cynllunio a datblygu'r rhwydwaith bysiau yn well, sicrhau ei fod yn diwallu anghenion y cyhoedd, sicrhau’r gwerth mwyaf posibl am ein buddsoddiadau mewn gwasanaethau bysiau a thorri ein dibyniaeth ar geir preifat.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 24 Mehefin 2022.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.



Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Ar gyfer cymorth a chyngor penodol i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio, cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000.  Dylech ddarllen gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rheolaidd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram