Briff Arloesi - Rhifyn 48

Mawrth 2022

English

 
 
 
 
 
 
IP

Diogelu eich eiddo deallusol (IP)

Mae pob busnes yn berchen ar ryw fath o eiddo deallusol – o enwau eich cynnyrch a'ch brandiau i sut maen nhw'n edrych ac yn teimlo – ac mae diogelu eich Eiddo Deallusol yr un mor bwysig ag yswirio'ch asedau ffisegol. I ddarganfod sut y gallwn eich helpu gyda'ch IP cliciwch yma.

Estyn cyfnod ariannu cynyddol ar gyfer busnesau bach a chanolig

Rydym bellach wedi estyn ein cyfraniad cynyddol o 75% at fusnesau bach a chanolig yng Nghymru sy'n cymryd rhan mewn Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) tan fis Chwefror 2023. Rhagor o wybodaeth yma.

Gall KTP helpu i wella perfformiad a chynhyrchiant busnes drwy bartneriaeth â sefydliad addysgol neu ymchwil. Darllenwch sut y manteisiodd Qioptiq yma.

KTP
Storïau am Lwyddiant

Ailgylchu ac ailddefnyddio cewynnau tafladwy

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae Nappicycle yn ailgylchu'r ffibrau a ddefnyddir mewn cewynnau tafladwy ar gyfer ceisiadau masnachol gan gynnwys rhoi wyneb newydd ar ran o'r A487. Darllenwch fwy yma.

 

Launchpad Canolbarth Cymru

Mae 14 o brosiectau bellach yn cael eu hariannu yn dilyn Launchpad a Arweinir gan Her Canolbarth Cymru ArloesiAber. Darllenwch amdano yma.

Mae dau o'r cwmnïau y dyfarnwyd cyllid iddynt wedi ymddangos yn Advances Wales, ein cylchgrawn technoleg ac arloesi o'r blaen. Darllenwch fwy am Pennotec ac ARCITEKBio.

 

Cymru yn cydweithio â Baden-Wuttenberg

Y mis nesaf bydd Cymru'n cyflwyno i aelodau clwstwr E-mobil Baden-Wuttenberg, gan gynnwys crynodeb o ecosystemau E-Symudedd Cymru gyfan, canolfannau rhagoriaeth a seilwaith hydrogen.

Canol mis Mai: bydd dirprwyaeth o fusnesau bach a chanolig o'r Almaen sy'n canolbwyntio ar dechnoleg cerbydau annibynnol yn ymweld â Chymru.

I gael gwybod mwy am ymgysylltu â chadwyni cyflenwi Baden-Wuttenberg a throsglwyddo gwybodaeth, e-bostiwch Innovation@llyw.cymru.

parth arloesi

Digwyddiadau

 

Cyfarfod Cymorth Arloesedd

29 Mawrth 2022, 10.00 - 17.00

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth i gael gafael ar gyllid ymchwil a datblygu, cynnal prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol a masnacheiddio'r canlyniadau, archebwch eich lle yma ar gyfer y gymhorthfa ym mis Mawrth.

Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb i'r sefydliadau hynny sy'n ymwneud â ffotoneg, lled-ddargludyddion a thechnolegau cwantwm.

 

Wythnos Digwyddiadau Clwstwr Diwydiannol De Cymru

29 - 31 Mawrth 2022

Bydd hyn yn cynnwys chwe chyflwyniad rhithwir sy'n canolbwyntio ar sut mae Cymru'n gweithio i gyflawni Sero Net, gwaith cydweithredol a wneir gan bartneriaid, cyfleoedd ariannu gan IUK/BEIS a llwyddiannau hyd yn hyn.

Mae rhagor o fanylion am y digwyddiadau yma.

 

Digwyddiad Strategaeth Arloesi

6 Ebrill 2022, 10.00 - 12.30

Os hoffech gyfle i gyfrannu at ddatblygu Strategaeth Arloesi Cymru, cofrestrwch yma ar gyfer digwyddiad ymgysylltu mis Ebrill.

I weld yr holl ddogfennau sy'n gysylltiedig â'r strategaeth cliciwch yma.

Mae yna groeso i bawb, er hyn, mae'r digwyddiad yma yn cael ei dargedu at ymrwymiad cymuned a dinasyddion.

 

Curiad Arloesi

20 Ebrill 2022, 10.00 - 11.00

Bydd y digwyddiad hwn yn tynnu sylw at y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth Cymru, swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch a'r Asiantaeth Ofod Ewrop. Cofrestrwch yma.

 

Cyfarfod Cymorth Cyflwyno Syniadau

27 Ebrill 2022, 13.00 - 17.00

Ydych chi'n gwneud cais am gymorth gan Innovate UK? Cofrestrwch yma ar gyfer y cyfarfod cymorth, a gynhelir ar y cyd ag Innovate UK Edge, gan eich helpu i baratoi sut i gyflwyno syniadau a ddefnyddir fel rhan o'ch cais.

 
 

AMDANOM NI

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu mwy o swyddi a swydd gwell trwy economi gryfach a thecach.  Byddwn yn gwella ac yn diwygio’n gwasanaethau cyhoeddus ac yn cael gwared ar anghysondeb yn y ddarpariaeth.  Trwy weithio gyda’n gilydd dros Gymru, byddwn yn creu cyfle i bawb ac yn adeiladu gwlad unedig, cysylltiedig a chynaliadwy. 

Rhagor o wybodaeth ar y we:

gov.wales

Dilyn ar-lein: