Cyfleoedd i arddangos mewn arddangosfeydd digwyddiadau busnes byd-eang 2022
Mae tîm Digwyddiadau Cymru, Cwrdd yng Nghymru yn arddangos gyda stondin â brand Cymru mewn tri digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer Digwyddiadau Busnes yn 2022:
- IMEX: Frankfurt, 31 Mai - 02 Mehefin 2022
- The Meetings Show: ExCel, Llundain, 29 - 30 Mehefin 2022
- IBTM: Fira, Barcelona, 29 Tachwedd - 01 Rhagfyr 2022
Fel sbardun i gynlluniau adfer busnes COVID-19, bydd Cwrdd yng Nghymru yn cynnig cymhorthdal tuag at y gost ar gyfer nifer cyfyngedig o gwmnïau cymwys i fynychu hyd at dri digwyddiad byd-eang blaenllaw ar gyfer Digwyddiadau Busnes ym mhafiliwn Cwrdd yng Nghymru yn 2022 (10 cwmni cymwys i fynychu IMEX ac IBTM a hyd at 14 o gwmnïau ar gyfer The Meetings Show.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd 1 Ebrill 2022.
Ewch i wefan y diwydiant twristiaeth i gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd a sut i wneud cais: Digwyddiadau Busnes Cymru – Cyfleoedd Arddangos | Busnes Cymru (llyw.cymru).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â thîm Cwrdd yng Nghymru CwrddyngNghymru@llyw.cymru.
Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant
Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (llyw.cymru).
Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)
Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19).
Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19
Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw. Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.
|