Bwletin Newyddion: Codi’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

28 Chwefror 2022


covid

Codi’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do

Heddiw, mae’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do wedi dod i ben.

Mae’r newid hwn yn golygu na fydd gofyniad cyfreithiol bellach ar bobl i wisgo gorchuddion wyneb mewn ystod o leoliadau o dan do, gan gynnwys sinemâu, theatrau, canolfannau cymunedol, amgueddfeydd a champfeydd.

Er hyn, bydd gwisgo gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i oedolion a phlant sy’n 11 oed ac yn hŷn, os nad ydynt wedi’u heithrio, ym mhob lleoliad manwerthu ac mewn rhai lleoliadau eraill gan gynnwys busnesau trin gwallt a harddwch, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Yn ogystal, bydd canllawiau swyddogol yn parhau i bwysleisio pwysigrwydd gorchuddion wyneb yn un ffordd o helpu i ddiogelu pobl.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

"Rydyn ni wedi gweithio’n galed i sicrhau bod yr amddiffyniadau sydd gennym yn eu lle yn gymesur â sefyllfa iechyd y cyhoedd a’r risg yn sgil y coronafeirws.

"Gyda diolch i’r gwaith caled gan bawb a’r holl maent wedi’i aberthu, mae achosion o’r coronafeirws yn gostwng ledled Cymru. Nawr yw’r amser iawn i lacio’r gofyniad cyffredinol i wisgo gorchudd wyneb mewn nifer o fannau cyhoeddus o dan do.

"Ond byddwn yn parhau â’r gofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb, gan gynnwys mewn lleoliadau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, sy’n cael eu defnyddio’n helaeth ac sy’n sectorau hanfodol.

"Mae hyn yn rhan o’n hymateb pwyllog a gofalus i’r pandemig. Byddwn yn parhau i ystyried y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf er mwyn llywio’n dull gweithredu.

"Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn gosod ein cynlluniau hirdymor ar gyfer delio â’r pandemig wrth inni gynnal yr adolygiad tair wythnos rheolaidd o’r rheoliadau."

Wrth i ysgolion ddychwelyd heddiw ar ôl eu gwyliau hanner tymor, byddant yn dychwelyd i ddefnyddio eu fframwaith penderfynu lleol, gan wneud penderfyniadau a fydd yn adlewyrchu’r risgiau lleol.

Ni fydd gwisgo gorchuddion wyneb mewn dosbarthiadau bellach yn ofynnol fel mater o drefn arferol, ond dylid parhau i’w gwisgo mewn mannau cymunedol mewn ysgolion uwchradd.

Y gofyniad sy’n cael ei lacio heddiw yw’r cam diweddaraf yn y newidiadau a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog yn yr adolygiad tair wythnos diwethaf o reoliadau’r coronafeirws.

Mae gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn mannau manwerthu, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r gofyniad hwn yn berthnasol i oedolion a phlant sy’n 11 oed ac yn hŷn. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai’r gofyniad cyfreithiol hwn ddod i ben erbyn diwedd mis Mawrth, os bydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella.

Bydd canlyniadau’r adolygiad nesaf o’r rheoliadau yn cael eu cyhoeddi ar 4 Mawrth pan fydd yr holl fesurau sy’n weddill ar lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu.

 

Mae gwybodaeth ar gael yn Gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd | LLYW.CYMRU.

Mae canllawiau ar gael yn Coronafeirws (COVID-19) | Pwnc | LLYW.CYMRU.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram