Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

25 Chwefror 2022


st davids

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ar y Coronafeirws ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth: Gwna’r Pethau Bychain. Cymerwch ran!; #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste y Dydd Gŵyl Dewi hwn - 1 Mawrth; Ymchwil i Fwyd a Diod Cymru; Cofrestrwch nawr - Gweminar Croeso Cymru ar gyfer y Diwydiant: Dathlu Dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru; Rhyfeddodau Cymru yn y Gaeaf; COFIWCH: Cyfraith smygu yn newid o 1 Mawrth ymlaen; Hawlfraint: Pethau y dylech eu gwybod; Helpu i lunio dyfodol Cymru!; NODYN ATGOFFA: DIOGELWCH COVID-19 YNG NGHYMRU - Hunanynysu, Gorchuddion Wyneb; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19


Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth: Gwna’r Pethau Bychain. Cymerwch ran!

Mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2022 yn gyfle i ddangos y gorau o Gymru i’r byd, ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni.

Bydd ymgyrch gyfryngau cymdeithasol i nodi Gŵyl Dewi eleni, gan ysbrydoli pobl o gwmpas y byd i ‘wneud y Pethau Bychain’, fel y dywedodd Dewi Sant ei hun, i ofalu am ein gilydd, ein cymunedau a'n byd.

Ac i ddathlu'r Dydd Gŵyl Dewi hwn bydd Cymru yn annog pobl ledled y byd i ddarganfod mwy am y wlad drwy ymgyrch gyffrous newydd yn y cyfryngau cymdeithasol.

Bydd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn rhannu eu ‘Pethau Bychain’ ledled y byd - gyda throeon ffres ar ein hen draddodiadau a fydd yn ysbrydoli ac yn dangos i’r byd ein bod yn genedl ofalgar, garedig sydd hefyd yn llawn hwyl. 

Bydd 36 o Bethau Bychain yn cael eu rhannu wrth arwain at y diwrnod mawr, gyda gofyn i bobl ddewis un ar hap, neu greu rhai eu hunain i rannu ar Instagram, TikTok, Facebook a Twitter, gan ddefnyddio #PethauBychain neu #DyddGwylDewi.

Mae’r Pethau Bychain yn cynnwys:

  • Dewis dysgwr i fod yn gyfaill a’u helpu ar eu taith i ddod yn siaradwr Cymraeg newydd
  • Dilyn ôl troed Bethan Rhiannon o’r band No Good Boyo a cheisio’r fersiwn fodern o ddawns y glocsen
  • Lledaenu’r llawenydd wrth roi cennin Pedr yn anrheg i ffrindiau, teulu neu rywun diarth
  • Rhoi cwtsh i gyfaill - y goflaid Gymreig
  • Plannu coeden i helpu i droi Cymru a’r byd yn wyrdd
  • Gwledda ar gynnyrch Cymreig - o gaws a gwinoedd Cymreig, i gennin a bara lawr. 

Dysgwch am ein hymgyrch eleni ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, Gwna’r Pethau Bychain, a sut y gallwch ymuno â ni yma Gwna’r Pethau Bychain. Mae croeso ichi rannu’r neges hon gyda’ch rhanddeiliaid – gallent fod yn fusnesau, grwpiau neu sefydliadau yng Nghymru a thramor fyddai’n gallu helpu i ehangu ein cynnwys a chymryd rhan.

Mae asedau y gallwch eu defnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol ar gael yn ein Pecyn Gŵyl Ddewi; ymunwch â ni gan ddefnyddio #PethauBychain a #RandomActsofWelshness.


#CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste y Dydd Gŵyl Dewi hwn - 1 Mawrth 2022

Bydd yr ymgyrch digidol ar draws y diwydiant, #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste, yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2022! Yr ymgyrch hwn fydd y mwyaf eto – y bwriad yw cyrraedd dwywaith gymaint o siopwyr cynnyrch o Gymru a Phrydain Fawr er mwyn dathlu Bwyd a Diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol.

Gallwch lawrlwytho’r pecyn cymorth digidol a dysgu sut i gymryd rhan yn yr ymgyrch yma: https://businesswales.gov.wales/foodanddrink/cy/CaruCymruCaruBlas.

St David's Day Food and Drink graphic

Ymchwil i Fwyd a Diod Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu cyfres o brosiectau ymchwil i ddeall yn well 'gwerth Cymreictod' i siopwyr ac ymwelwyr â Chymru. 

Mae pob darn o ymchwil yn dangos yr hoffai siopwyr a gwesteion/ymwelwyr weld rhagor o fwydydd a diodydd o Gymru ar fwydlenni ac mewn siopau. Mae'r canfyddiadau hefyd yn nodi bod 80% o'r rhai a holwyd yn credu ei bod yn bwysig bod gan leoliadau amrywiaeth dda o ddiodydd o Gymru, a bod 80% am weld rhagor o fwyd a diod o Gymru yn cael eu cynnwys mewn bwydlenni. Mae’r canfyddiadau allweddol a’r ymchwil lawn ar gael yma.

Os hoffech drafod yr ymchwil ymhellach, cysylltwch â Buddug.Turner@llyw.cymru.

Mae’r pecynnau cymorth twristiaeth bwyd yn cael eu diweddaru ar hyn o bryd, ond yn y cyfamser, defnyddiwch y fersiynau presennol i’ch helpu i ystyried sut y gallwch wella’r bwydydd a’r diodydd o Gymru rydych yn eu cynnig: Gweithio gyda | Busnes Cymru (llyw.cymru).


Cofrestrwch nawr – Gweminar Croeso Cymru ar gyfer y Diwydiant: Dathlu Dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru

I ddathlu 10mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru, mae Croeso Cymru ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llwybr Arfordir Cymru, yn cynnal sesiwn ar-lein ar 3 Mawrth 2022 o 11am tan 12pm ar Microsoft Teams.

Ymunwch â ni a gweld sut gall eich busnes ddefnyddio Llwybr Arfordir Cymru yn eich hyrwyddiadau a’ch negeseuon trwy ymuno â dathliadau’r 10mlwyddiant.

Mae manylion ar gael yma Dathlu Dengmlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru Gweminar | Busnes Cymru (llyw.cymru).

Cofrestrwch erbyn 3pm, 2 Mawrth 2022. Y cyntaf i’r felin fydd hi a chaiff dolen ymuno ei hanfon at bawb fydd yn cymryd rhan ar fore’r digwyddiad.


Rhyfeddodau Cymru yn y Gaeaf

Mae ymgyrch gan Croeso Cymru wedi bod yn cadw Cymru ar flaen ein meddyliau fel cyrchfan gwyliau drwy gydol y gaeaf – gyda llawer nawr yn mynd ar eu gwyliau cyntaf yn ystod hanner tymor Chwefror.

Mae rhagor o wybodaeth yma Rhyfeddodau Cymru yn y gaeaf | LLYW.CYMRU, a gwyliwch ffilm Croeso Cymru Dyma’r Gaeaf Dyma Gymru


COFIWCH: Cyfraith smygu yn newid o 1 Mawrth ymlaen

Mae cyfreithiau smygu newydd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru sy’n effeithio ar y diwydiant twristiaeth.

O 1 Mawrth 2022, rhaid i westai, tai llety, tafarndai, hostelau a chlybiau aelodau fod yn ddi-fwg ac ni fyddant bellach yn cael cynnig ystafelloedd smygu dynodedig.

Ni chaniateir smygu mewn unrhyw lety gwyliau a llety dros dro hunangynhwysol, fel bythynnod, carafannau, cabanau gwyliau ac unrhyw lety gosod tymor byr arall. I baratoi ar gyfer cyflwyno’r gofynion newydd ar 1 Mawrth 2022, felly, dylai pob perchennog fod wedi mynd ati i newid unrhyw letyau/ystafelloedd smygu dynodedig yn rhai di-fwg. Ar ôl y dyddiad hwn bydd yn erbyn y gyfraith i smygu yn yr ardaloedd hyn, a gellir rhoi dirwyon.

Mae rhagor o wybodaeth am sut y mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar y diwydiant twristiaeth Deddfwriaeth ddi-fwg: canllawiau ar y newidiadau o fis Mawrth 2021 [HTML] | LLYW.CYMRU.


Hawlfraint: Pethau y dylech eu gwybod

Mae hawlfraint yn faes cyfreithiol cymhleth. Mynnwch gip ar rai awgrymiadau i’ch helpu i gadw’n ddiogel wrth hyrwyddo’ch busnes: Hawlfraint PDF.


Helpu i lunio dyfodol Cymru!

Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn eich gwahodd i lenwi holiadur am ddyfodol datblygiad rhanbarthol yng Nghymru, a’i rannu gyda’ch rhwydwaith, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chysylltiadau. Mae’r fenter hon yn rhan o gydweithrediad rhwng yr OECD a Llywodraeth Cymru.

Drwy rannu eich meddyliau am yr heriau a’r blaenoriaethau mewn perthynas â datblygiad economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a chymunedol, gallwch helpu i lunio dyfodol Cymru a chymunedau lleol Cymru!

Bydd eich ymatebion yn darparu syniadau allweddol ar gyfer gweithdy gosod y weledigaeth mewn perthynas â datblygiad rhanbarthol gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill gan gynnwys awdurdodau lleol, y sector preifat a’r trydydd sector etc. Hwylusir y gweithdy hwn gan yr OECD. Bydd eich safbwynt yn helpu Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru i wella gwasanaethau, gwella llesiant cymdeithasol ac economaidd a gwella ansawdd bywyd ledled Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r holiadur yw 9 Mawrth 2022, a dylech ganiatáu tua 10 munud ar gyfer cwblhau’r holiadur llawn: Building the Long-term Vision for Regional Development in Wales (oecd.org). (Mae’r holiadur ar gael yn Saesneg yn unig).


NODYN ATGOFFA: DIOGELWCH COVID-19 YNG NGHYMRU

Hunanynysu

Rhaid i bobl yng Nghymru (gan gynnwys ymwelwyr) gydymffurfio â’r gyfraith yng Nghymru; sef hunanynysu am bum diwrnod llawn os ydych yn cael canlyniad positif i brawf, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl ichi gael y prawf neu'r diwrnod y gwnaethoch ddatblygu symptomau. Rhaid hunanynysu os nad ydych wedi cael eich brechu a’ch bod yn cael eich nodi fel cyswllt agos.

Mae ein canllawiau ar yr hyn y dylech ei wneud yn ychwanegol at y gofynion cyfreithiol yma  Hunanynysu | LLYW.CYMRU.

Gorchuddion Wyneb

O ddydd Llun 28 Chwefror ymlaen, bydd y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn cael ei ddileu yn y rhan fwyaf o lefydd dan do, ac eithrio mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.

Os yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, gallai’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb gael ei ddileu yn yr holl leoliadau sy’n weddill erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae gwybodaeth ar gael yn Gorchuddion wyneb: canllawiau i'r cyhoedd | LLYW.CYMRU.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 3 Mawrth, pan fydd yr holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym yn cael eu hadolygu.

Mae canllawiau ar gael yn Coronafeirws (COVID-19) | Pwnc | LLYW.CYMRU.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram