Bwletin Newyddion: Dim angen pas Covid mwyach ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

18 Chwefror 2022


covid

Dim angen pas Covid mwyach ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored

Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r gofyn i ddangos pas Covid i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.

Hynny wrth i Lywodraeth Cymru barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau covid ac i achosion barhau i ostwng.

O heddiw (dydd Gwener, 18 Chwefror), ni fydd angen y Pas Covid domestig arnoch i fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do ac awyr agored mwyach, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond os bydd y lleoliad neu’r digwyddiad ei hun am fynnu pas, mae croeso iddyn nhw wneud hynny.

Bydd y Pas Covid rhyngwladol yn dal i fod yn rhan bwysig o’r trefniadau ar gyfer gwneud teithiau rhyngwladol yn ddiogel. Dylai teithwyr edrych beth yw rheolau’r wlad y maen nhw am fynd iddi, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.

Dywedodd Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden:

“Pan gafodd ei gyflwyno gyntaf, roedd y Pas Covid yn un o nifer o fesurau i ennyn hyder, i gadw busnesau’n agored ac i ddiogelu Cymru.

“Hoffwn ddiolch i bob sector am eu cydweithrediad a’u hymateb yn ystod y cyfnod anodd hwn.

“Gyda mwy a mwy o bobl wedi cael y brechlyn a’r brechlyn atgyfnerthu erbyn hyn a diolch i waith caled pawb ledled Cymru, rydyn ni’n hyderus bod cyfraddau’r coronafeirws yn cwympo a bod yr haul o’r diwedd ar fin dod ar fryn.”

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 – Diwygio 18 Chwefror 2022 (17 Chwefror 2022) | LLYW.CYMRU.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales).

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram