|
Mae labelu alergenau rhagofalus, sydd hefyd yn cael ei alw’n PAL, yn her i fusnesau a defnyddwyr, gyda’r naill fel y llall yn ei gael yn ddryslyd ac yn anaddas. Datganiad gwirfoddol y gall busnesau ddewis ei roi ar gynhyrchion bwyd lle bo risg o groeshalogi alergenau yw PAL. Er y defnyddir nifer o dermau labelu, yr ymadrodd mwyaf cyffredin yw ‘gallai gynnwys’, a gellir darparu’r wybodaeth ar lafar, ar arwyddion, ac ar fwydlenni, gan ddibynnu ar sut y caiff y bwyd ei werthu. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio eich syniadau am ddulliau labelu a fydd yn ymarferol i fusnesau ac a fydd hefyd yn gwella dewisiadau ac ymddiriedaeth defnyddwyr.
Mae'r ddeddfwriaeth labelu gyfredol yn ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchion bwyd nodi presenoldeb unrhyw un o'r 14 prif alergen a ddefnyddir fel cynhwysyn neu gymhorthyn prosesu. Fodd bynnag, mewn achosion lle bo risg o groeshalogi alergenau yn anfwriadol (er enghraifft, lle mae llawer o fwydydd yn cael eu paratoi yn yr un gegin), ac mae’r busnes bwyd wedi pennu na ellir rheoli'r risg yn ddigonol, yr arfer gorau yw defnyddio datganiad labelu alergenau rhagofalus i gyfleu'r risg hon.
Bydd eich adborth yn helpu i lunio dulliau posib ar gyfer labelu bwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw a bwyd sydd heb ei becynnu ymlaen llaw, fel bod yr wybodaeth yn cael ei chyfleu yn gliriach ac yn fwy cyson i ddefnyddwyr. Rhaid i unrhyw ddatrysiad fod yn ymarferol i fusnesau bwyd a chadw defnyddwyr yn ddiogel heb gyfyngu ar eu dewisiadau o ran bwyd yn ddiangen. Hoffai’r Asiantaeth glywed yn benodol gan fusnesau yn y sectorau manwerthu, arlwyo a gweithgynhyrchu, a hefyd elusennau ac eiriolwyr dros alergeddau, y proffesiwn clinigol ac academyddion, awdurdodau lleol ac unrhyw sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn gorsensitifrwydd i fwyd.
Ceir rhagor o fanylion ar wefan yr ASB a gallwch chi ymateb ar-lein. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 14 Mawrth 2022.
14, 15, 16 a 18 Mawrth
Ymunwch â ni ym mis Mawrth ar gyfer cynhadledd flynyddol Rhaglen Mewnwelediad Bwyd a Diod Llywodraeth Cymru ar gyfer 5 sesiwn thema dros 4 diwrnod yn cwmpasu Manwerthu, Oddi Allan i’r Cartref, Allforio, y Sefyllfa Economaidd, a Datblygu Cynnyrch Newydd (NPD). Mae gennym amrywiaeth gyffrous o siaradwyr arbenigol o bartneriaid ymchwil Kantar, IGD, CGA, Euromonitor a thefoodpeople, yn ogystal ag astudiaethau achos gan fusnesau sydd wedi cael llwyddiant wrth Roi Gwybodaeth ar Waith.
Cliciwch yma i gofrestru
https://www.eventbrite.co.uk/e/insight-conference-2022-turning-knowledge-into-action-tickets-262543293057
Bydd yr ymgyrch digidol ar draws y diwydiant - #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste - yn dychwelyd ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2022! Yr ymgyrch hwn fydd y mwyaf eto i annog siopwyr o Gymru a Phrydain Fawr i ddathlu gyda Bwyd a Diod o Gymru ar ein diwrnod cenedlaethol.
|
|