Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

18 Chwefror 2022


hills and clouds

Y Diweddaraf i’r Diwydiant Twristiaeth

Dilynwch yr adroddiadau ar y newyddion ac i weld y cyngor diweddaraf ar y Coronafeirws ewch i wefan wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwefan gwefan Busnes Cymru yn rheolaidd.


CYNNWYS BWLETIN: Cofrestrwch nawr Gweminar Croeso Cymru i’r diwydiant: dathlu 10mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru; Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth – cymerwch ran!; Wythnos Cymru yn Llundain 2022; Dim angen pas Covid mwyach ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored; Sgiliau a Recriwtio: Adolygu cymwysterau teithio, twristiaeth, lletygarwch ac arlwyo; Cyflymu Cymru i Fusnesau gweminarau am ddim - Defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol ac Offer Ar-lein ym maes Twristiaeth a Lletygarwch; Cyrsiau hyfforddi TFA: Felly pam ydych chi’n meddwl nad ydych chi’n hygyrch?; Helpwch ni i groesawu mordeithwyr o’r Almaen; Arolwg tracio teimladau cwsmeriaid COVID-19 y DU; Ystyried diwygio’r flwyddyn ysgol; Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru; Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2022, 7-13 Mawrth; Sioe Frenhinol Cymru 2022; Y daith i sero net i BBaChau; Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19


Cofrestrwch nawr Gweminar Croeso Cymru i’r diwydiant: dathlu 10mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru

Ymunwch â ni a gweld sut gall eich busnes ddefnyddio Llwybr Arfordir Cymru yn eich hyrwyddiadau a’ch negeseuon trwy ymuno â dathliadau’r 10mlwyddiant.

I ddathlu 10mlwyddiant Llwybr Arfordir Cymru, mae Croeso Cymru ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru a Llwybr Arfordir Cymru, yn cynnal sesiwn ar-lein ar 3 Mawrth 2022 o 11am tan 12pm ar Microsoft Teams.

Bydd ein siaradwyr gwadd yn trafod rhaglen o weithgarwch cynaliadwy ar gyfer codi ymwybyddiaeth am fuddiannau Llwybr Arfordir Cymru, cynyddu’r defnydd ohono ac ysbrydoli ymwelwyr i’w fwynhau a’i werthfawrogi. Cewch glywed hefyd am eu cynlluniau i weithio gyda rhanddeiliaid allweddol gydol 2020, felly da chi, manteisiwch ar y cyfle i weld sut gall eich busnes fod yn rhan o’r dathliadau.

Bydd cyfle i fusnesau ofyn cwestiynau yn ystod sesiwn holi byr. 

I ymuno â ni, cadwch le erbyn 3pm, 2 Mawrth 2022. Y cyntaf i’r felin fydd hi a chaiff dolen ymuno ei hanfon at bawb fydd yn cymryd rhan ar fore’r digwyddiad.


Dydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth – cymerwch ran!

Mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2022 yn gyfle i ddangos y gorau o Gymru i’r byd, ac rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni.

Edrychwch ar y pecyn gwybodaeth hwn i ddysgu am ein hymgyrch eleni ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, Pethau Bychain, a sut y gallwch ymuno â ni: Pethau Bychain - Pecyn Gwybodaeth - CYM.pdf (wales.com). Mae croeso ichi rannu’r neges hon gyda’ch rhanddeiliaid – gallent fod yn fusnesau, grwpiau neu sefydliadau yng Nghymru a thramor fyddai’n gallu helpu i ehangu ein cynnwys a chymryd rhan.

Mae asedau y gallwch eu defnyddio ar eich cyfryngau cymdeithasol ar gael yn ein Pecyn Gŵyl Ddewi; ymunwch â ni gan ddefnyddio #PethauBychain a #RandomActsofWelshness.


Wythnos Cymru yn Llundain 2022

Bydd Wythnos Cymru yn Llundain yn cael ei chynnal yn ystod wythnos Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain. Digwyddiad blynyddol yw hwn, lle cynhelir gweithgareddau a digwyddiadau i ddathlu a hybu popeth sy’n wych am Gymru.

Mae calendr o ddigwyddiadau wedi’i drefnu rhwng 20 Chwefror a 6 Mawrth 2022, gyda chyfleoedd gwych ar gyfer arddangoswyr a noddwyr.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Wythnos Cymru yn Llundain.


Dim angen pas Covid mwyach ar gyfer digwyddiadau dan do ac awyr agored

Mae Llywodraeth Cymru wedi diddymu’r gofyn i ddangos pas Covid i fynd i rai digwyddiadau yng Nghymru, meddai Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden.

Hynny wrth i Lywodraeth Cymru barhau i godi rhai o’r cyfyngiadau covid ac i achosion barhau i ostwng.

O heddiw (dydd Gwener, 18 Chwefror), ni fydd angen y Pas Covid domestig arnoch i fynd i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do ac awyr agored mwyach, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond os bydd y lleoliad neu’r digwyddiad ei hun am fynnu pas, mae croeso iddyn nhw wneud hynny.

Bydd y Pas Covid rhyngwladol yn dal i fod yn rhan bwysig o’r trefniadau ar gyfer gwneud teithiau rhyngwladol yn ddiogel. Dylai teithwyr edrych beth yw rheolau’r wlad y maen nhw am fynd iddi, gan gynnwys edrych a oes trefniadau gwahanol ar gyfer plant.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Sgiliau a Recriwtio:

Adolygu cymwysterau teithio, twristiaeth, lletygarwch ac arlwyo

Mae Cymwysterau Cymru’n dal yn awyddus i glywed eich barn am y cymwysterau a’r system gymhwyso yn y sector teithio, twristiaeth, lletygarwch ac arlwyo.

Maen nhw’n awyddus i glywed gan gyflogwyr, dysgwyr, darparwyr addysg a chyrff sectorol a hynny yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Os hoffech rhannu’ch barn, e-bostiwch y tîm ar travelandtourism@qualficationswales.org a chysylltan nhw â chi.

Cyflymu Cymru i Fusnesau – Gweminarau am ddim

Mae gan Cyflymu Cymru i Fusnesau ystod o weminarau di-dâl yn Chwefror a Mawrth i roi cyngor ymarferol i’ch helpu i hyrwyddo’ch busnes a chystadlu ar-lein, gan gynnwys:

Defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol ac Offer Ar-lein ym maes Twristiaeth a Lletygarwch

Dysgwch sut i dynnu sylw at eich busnes ar-lein, denu cwsmeriaid newydd, manteisio’n well ar adolygiadau, yn ogystal â defnyddio offer digidol megis platfformau archebu ar-lein i redeg eich busnes yn llwyddiannus.

  • Rhan 1: Y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer y maes twristiaeth a lletygarwch
  • Rhan 2: rhedeg eich busnes twristiaeth a lletygarwch ar-lein

Cewch fwy o fanylion yn Defnyddio'r Cyfryngau Cymdeithasol ac Offer Ar-lein ym maes Twristiaeth a Lletygarwch (Tudalen 1 o 4) (office.com).

Cyrsiau hyfforddi TFA: Felly pam ydych chi’n meddwl nad ydych chi’n hygyrch?

Mae Twristiaeth i Bawb (TFA) yn cynnig cwrs byr newydd di-dâl sy’n dangos sut y gall cymryd y camau cyntaf i wella hygyrchedd fod yn haws na’r disgwyl.

P’un a ydych am i’ch busnes dyfu neu i aros fel y mae, dylech feddwl am y croeso a’r gwasanaeth y gallwch eu cynnig i gwsmeriaid ag anghenion hygyrchedd.

Dim ond ychydig o newidiadau sydd eu hangen ichi allu ateb gofynion hygyrchedd eich cwsmeriaid a pharhau i roi profiadau gwych iddyn nhw!

Dysgwch fwy a chofrestrwch ar gyfer y cwrs ar: So what makes you think you are not accessible? (tourismforall.org.uk).


Helpwch ni i groesawu mordeithwyr o’r Almaen

Mae sawl llong mordeithiau o’r Almaen yn ymweld â Sir Benfro’r haf hwn ac mae angen siaradwyr Almaeneg rhugl ar Cruise Wales i groesawu teithwyr i’r ardal. Os gallwch roi ychydig ddyddiau gydol yr haf (telir costau) ac os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch Elaine.Thomas4@llyw.cymru.

Y bwriad yw cynnal cwrs hyfforddi 2ddydd ar 23 a 24 Ebrill ym Mhorthladd Abergwaun.


Arolwg tracio teimladau cwsmeriaid COVID-19 y DU

Mae’r adroddiad tracio cwsmeriaid COVID-19 y DU newydd ei gyhoeddi ar wefan VisitBritain ar sail gwaith maes a wnaed 1-7 Chwefror 2022. Mae’r canlyniadau’n dangos bod cynnydd yn y nifer sy’n bwriadu mynd ar fwy o dripiau gwyliau yn y 12 mis nesaf, gyda mwy am fynd ar dripiau dros nos domestig, a bod llawer yn parhau’n ansicr ynghylch gwyliau tramor yn 2022.


Ystyried diwygio’r flwyddyn ysgol

Efallai’ch bod wedi clywed am arolwg diweddar i ystyried strwythur y flwyddyn ysgol. Nid oedd yr arolwg yn ymgynghoriad ffurfiol. Yr oedd yn hytrach yn ymchwil gymdeithasol gynnar i helpu Llywodraeth Cymru i ddeall maint yr awydd am newid ac i ddatblygu tystiolaeth am amserau’r ysgolion cyn dechrau datblygu polisi.

Mae pwysigrwydd effaith unrhyw newidiadau i ddyddiadau’r tymor ysgol ar y sector twristiaeth yn cael ei gydnabod, felly dros y misoedd i ddod, bydd Llywodraeth Cymru’n sicrhau bod y sector yn cael pob cyfle i fod yn rhan o’r gwaith hwn wrth iddo fynd rhagddo.

Ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru

Mae holl ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ar gael i chi eu gweld ar Ymgyngoriadau | LLYW.CYMRU (cliciwch ar ‘ar agor’ i weld y rhai byw). Mae ymgynghoriad yn rhoi cyfle ichi gael dweud eich dweud am ddatblygiadau newydd Llywodraeth Cymru. I gael newyddlen, cliciwch ar Tanysgrifiwch i gael newyddlen | LLYW.CYMRU.


Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2022, 7-13 Mawrth

Mae oddeutu traean y bwyd a gynhyrchir ledled y byd yn cael ei golli neu ei wastraffu ac yn cael effaith wirioneddol ar newid hinsawdd, gan gyfrannu 8-10% o gyfanswm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr o waith ddyn.

Mae’r Wythnos Weithredu ar Wastraff Bwyd yn wythnos o weithredu gan WRAP a HoffiBwyd Casau Gwastraff i godi ymwybyddiaeth am ganlyniadau amgylcheddol gwastraffu bwyd, a hyrwyddo gweithgareddau sy’n helpu i leihau faint o fwyd sy’n cael ei wastraffu.

Gofynnir i’r diwydiant Lletygarwch a Gwasanaethau Bwyd ddod at ei gilydd gyda dinasyddion ledled y DU i weithredu ar y bwyd sy’n cael ei wastraffu ac sy’n bwydo newid hinsawdd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd 2022 | Busnes Cymru (gov.wales).


Sioe Frenhinol Cymru 2022

Cynhelir Sioe Frenhinol Cymru 2022 ar 18 - 21 Gorffennaf. Bydd yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys coedwigaeth, garddwriaeth, crefftau, chwaraeon cefn gwlad, siopa, bwyd a diod a rhaglen 12 awr bob dydd o adloniant, atyniadau ac arddangosfeydd.

I gael gwybod sut i gymryd rhan, ewch i Sioe Frenhinol Cymru 2022 | Busnes Cymru (gov.wales).


Y daith i sero net i BBaChau

Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi llunio canllawiau sy’n cynnig llwybr i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) i sero net. Mae’n cyflwyno’r opsiynau syml sydd ar gael i BBaChau sy’n dechrau ar eu taith sero net ac yn tynnu sylw at yr heriau yn yr hirdymor.

Mae rhagor o fanylion ar gael ar: Y daith i sero net i BBaChau | Busnes Cymru (gov.wales).



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram