 |
|
Lansio prosiect Cyflymydd Digidol newydd SMART
Bydd tîm o gynghorwyr arbenigol ym maes diwydiant yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i'w helpu i ddod o hyd i’r dechnoleg gywir i wella’u perfformiad wrth weithredu. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn cael ei ddarparu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, ac yn cael ei gefnogr gan y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch (AMRC Cymru). Darllenwch mwy neu gwyliwch fideo byr am y prosiect.
|
Strategaeth Arloesi Newydd i Gymru
Mae rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru wedi bod yn mynegi barn am y strategaeth sydd wrthi’n cael ei datblygu, gan wneud hynny mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu. Am ragor o wybodaeth ac i ddweud eich dweud.
Mae gwybodaeth o bob rhan o Ewrop yn cael ei defnyddio wrth lunio'r strategaeth. I ddarllen mwy am sut mae prosiect Cohes3ion yn llywio’r gwaith o’i datblygu.
|
|
 |
 |
|
Cyfleoedd ariannu drwy Hac Iechyd Cymru
Mae Hac Iechyd Cymru yn dychwelyd yn 2022 gan roi cyfle i’r rhieni a fydd yn cymryd rhan gael hyd at £20,000 ac elwa ar gyngor arbenigwr arloesi. Diben yr Hac yw agor trafodaethau rhwng cydweithwyr ym maes iechyd, diwydiant a'r byd academaidd er mwyn helpu i ddatblygu atebion ymarferol i heriau iechyd a gofal. Darllenwch ragor.
|
Cyllid ar gael ar gyfer atebion ailgylchu ar gyfer Cynhyrchion Hylendid Amsugnol
Mae partneriaeth Gydweithredol 'Dyfodol Gwyrdd Glân', sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn gofyn i sefydliadau feddwl am atebion ailgylchu arloesol ar gyfer Cynhyrchion Hylendid Amsugnol. Darllenwch mwy.
Her Dechrau Rhywbeth Da
Mae Syniadau Mawr Cymru yn chwilio am bobl ifanc 11-18 oed a all gynnig ateb i rywbeth a fyddai'n cael effaith gymdeithasol gadarnhaol yn eu cymuned. Mae rhagor o wybodaeth i’w gweld yma a helpwch ni i hyrwyddo menter yn y genhedlaeth iau.
Cymhorthfa Cyllid Arloesi
16 Chwefror 2022, 10.00 – 16.45
Ydych chi'n fusnes yng Nghymru sy'n awyddus i gael gafael ar gyllid, i gynnal prosiectau ymchwil a datblygu mwy effeithiol, ac i fasnacheiddio’r canlyniadau? Mae'r digwyddiad hwn, a gynhelir ar y cyd ag Innovate UK a'r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth, wedi'i deilwra ar gyfer y sefydliadau hynny sydd â diddordeb mewn ffotoneg, lled-ddargludyddion a thechnolegau cwantwm. Cofrestrwch yma.
I gael gwybod mwy ynglŷn â sut gall cymorthfeydd helpu’ch sefydliad.
Cymhorthfa i’ch help gyda’ch Cyflwyniadau Hyrwyddo
27 Ebrill 2022, 13.00 – 17.00
Os ydych yn edrych i ysgrifennu neges i hyrwyddo’ch busnes fel rhan o’ch cais Innovate UK, archebwch yma i gymryd rhan yn y gymhorthfa a fydd yn helpu busnesau i deimlo'n fwy parod wrth ddatblygu eu neges hyrwyddo.
|