Bwletin Newyddion: Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

28 Ionawr 2022


corona

Cymru yn cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero

Cymru'n symud yn llawn i lefel rhybudd sero heddiw (28 Ionawr) wrth i achosion coronafeirws ddechrau sefydlogi cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Hwn fydd y cam olaf ym mhroses raddol Llywodraeth Cymru o godi camau diogelu lefel rhybudd dau, a ddaeth i rym ar ddydd San Steffan i ddiogelu Cymru wrth i’r don omicron ledaenu drwy’r wlad.

Bydd rhai camau diogelu pwysig yn aros mewn grym ar lefel rhybudd sero, gan gynnwys gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do, gan gynnwys ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod modd llacio’r camau diogelu oherwydd gwaith caled pawb yng Nghymru a llwyddiant y rhaglen frechu – mae mwy nag 1.8m o bigiadau atgyfnerthu wedi’u rhoi.

Ers dechrau mis Rhagfyr hefyd, mae mwy na 36,000 o bobl wedi dod i gael eu dos cyntaf o’r brechlyn Covid-19. Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:

“Mae penllanw ton omicron wedi mynd heibio ac mae arwyddion cadarnhaol bod achosion y coronafeirws yn dechrau sefydlogi. Er hynny, mae angen i bawb barhau i gymryd camau i’w diogelu eu hunain – nid yw’r pandemig wedi dod i ben eto yn anffodus.

“Rydyn ni’n symud i lefel rhybudd sero a byddwn yn parhau i gymryd rhai camau diogelu pwysig, fel gwisgo gorchudd wyneb yn y rhan fwyaf o lefydd cyhoeddus dan do a chynnal asesiadau risg.

“Mae modd gwneud hyn oherwydd ymdrechion a gwaith caled pawb yng Nghymru a llwyddiant rhyfeddol ein rhaglen frechu a’r pigiadau atgyfnerthu. Diolch i bawb.”

Ddydd Gwener 28 Ionawr, bydd Cymru’n cwblhau’r broses o symud i lefel rhybudd sero. Mae hyn yn golygu’r canlynol:

  • Gall clybiau nos ailagor
  • Bydd y gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob safle sy’n agored i’r cyhoedd a phob gweithlu yn cael ei ddileu
  • Ni fydd y rheol chwe pherson yn berthnasol mwyach wrth ymgynnull mewn safleoedd a reoleiddir, fel safleoedd lletygarwch, sinemâu a theatrau
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig ddarparu gwasanaeth bwrdd yn unig a chasglu manylion cyswllt mwyach
  • Bydd angen cael Pàs Covid o hyd i fynd i ddigwyddiadau dan do mawr, clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd
  • Bydd gweithio gartref yn dal i fod yn bwysig ond ni fydd hyn yn ofyniad cyfreithiol mwyach
  • Rhaid i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol i’r coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau ei ledaeniad, a all gynnwys pellter cymdeithasol o 2m neu fynediad dan reolaeth

Bydd y rheolau ar gyfer gwisgo gorchudd wyneb, sy’n gymwys ar drafnidiaeth gyhoeddus ac yn y rhan fwyaf o leoliadau dan do cyhoeddus, yn parhau i fod mewn grym ar ôl 28 Ionawr, gyda lleoliadau yn y diwydiant lletygarwch fel bwytai, tafarnau, caffis a chlybiau nos wedi’u heithrio.

Rhaid i bawb hefyd barhau i hunanynysu os ydynt yn profi’n bositif am y coronafeirws ond mae Llywodraeth Cymru wedi lleihau’r cyfnod hunanynysu o saith diwrnod i bum diwrnod llawn.

Cynghorir i bobl gymeryd dau brawf llif unffordd negatif 24 awr ar wahan ar ddiwrnod pump a diwrnod chwech. Bydd y cynllun cymorth hunanynysu yn dychwelyd i’r gyfradd wreiddiol o £500 ar gyfer pawb sy’n gymwys.

Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o’r rheoliadau coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 10 Chwefror, pan fydd holl fesurau lefel rhybudd sero yn cael eu hadolygu.

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (28 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU.


Lefel rhybudd 0

Y mesurau perthnasol ar gyfer lefel rhybudd 0:


NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Llyw.Cymru.

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.

Diogelu Cymru – yn y gwaith

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram