Bwletin Newyddion: Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

14 Ionawr 2022


corona

Cyhoeddi’r cynllun i lacio’r cyfyngiadau lefel rhybudd dau

Heddiw, mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi cynllun ar gyfer mynd â Chymru yn ôl i fesurau lefel rhybudd sero.

Bydd y cynllun cymalog yn llacio’n gyntaf y mesurau ar weithgareddau awyr agored wrth i Gymru symud yn raddol o lefel rhybudd dau ac yn ôl yn llwyr i lefel rhybudd sero o 28 Ionawr.

Rydym yn gwneud hyn wrth i’r data iechyd cyhoeddus diweddaraf awgrymu bod nifer yr achosion o goronafeirws wedi dechrau gostwng o lefelau uchel iawn. Mae mwy na dwy ran o dair o’r boblogaeth 12 oed a throsodd wedi cael y pigiad atgyfnerthu neu drydydd dos o frechlyn Covid-19.

Ond er mwyn i ni allu symud yn llwyr i lefel rhybudd sero, rhaid i’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd barhau i wella.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Rwyf am ddiolch i bawb am ddilyn y rheolau sydd wedi bod mewn grym ers Gŵyl San Steffan a helpu i ddiogelu Cymru wrth i’r amrywiolyn omicron sgubo trwy’n cymunedau.

“Rwyf am ddiolch hefyd i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r rhaglen frechu am yr ymdrech aruthrol i roi pigiad atgyfnerthu i bron traean o’r boblogaeth ers dechrau Rhagfyr – bu hyn yn allweddol i’n diogelu ymhellach rhag omicron.

“Mae’r hyn rydyn ni wedi’i wneud gyda’n gilydd wedi’n helpu i wynebu storm omicron. Mae’r data diweddaraf yn rhoi arwyddion positif bod y gwaethaf o bosibl wedi mynd heibio.

“Gallwn nawr edrych yn fwy hyderus tua’r dyfodol a chynllunio ar gyfer dechrau codi cyfyngiadau rhybudd lefel dau, gan ddechrau gyda’r mesurau awyr agored.

“Ond nid yw’r pandemig ar ben. Byddwn yn cadw golwg fanwl ar iechyd y cyhoedd. Mae’r amrywiolyn yn un anwadal ac yn symud yn gyflym a gall y sefyllfa newid yn sydyn. Rwy’n pwyso felly ar bawb i gadw at yr rheolau ac i gael y brechlyn i gadw Cymru’n ddiogel.”

Os bydd yr amodau’n caniatáu, byddwn yn codi cyfyngiadau lefel rhybudd dau fesul cam:

O fory, bydd nifer y bobl sy’n cael bod mewn digwyddiad awyr agor yn cynyddu o 50 i 500.

O ddydd Gwener, 21 Ionawr, bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero o ran gweithgareddau awyr agored.

Mae hynny’n golygu na fydd unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.

  • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored
  • Bydd modd cynnal lletygarwch yn yr awyr agored heb fesurau rhesymol ychwanegol
  • Bydd angen Pas Covid i gael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored mwy

Os bydd y duedd am i lawr yn parhau, o ddydd Gwener, 28 Ionawr, bydd Cymru’n symud i lefel rhybudd sero o ran pob gweithgaredd dan do:

  • Bydd clybiau nos yn cael ailagor.
  • Bydd gweithio gartref yn parhau’n bwysig ond ni fydd mwyach yn ofyn cyfreithiol
  • Bydd gofyn i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill gynnal asesiad risg penodol ar gyfer coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu coronafeirws
  • Bydd angen Pas Covid i fynd i glybiau nos, digwyddiadau, sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau.
  • Ni fydd angen cadw at y rheol o 6, gweini wrth fyrddau a chadw pellter o 2m mewn lletygarwch

Bydd y rheolau hunanynysu ar gyfer pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf covid a’r rheolau ar wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr.

Bydd y cylch tair wythnos yn cael ei ailgyflwyno o 10 Chwefror pan fydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym.

 

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Review of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No.5) (Wales) Regulations 2020 (14 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU.

Covid-19 easing of restrictions timeline

NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:

Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws

Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws am Llyw.Cymru.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Diogelu Cymru – yn y gwaith

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Llyw.Cymru.

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG.



Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Edrychwch ar gylchlythyron a bwletinau diweddaraf ir diwydiant gan Croeso Cymru: Cylchlythyrau/Bwletinau Twristiaeth | Drupal (gov.wales)

Mae'r rhain yn cynnwys newyddion diweddaraf y diwydiant twristiaeth o Gymru a gwybodaeth i'r diwydiant ar Coronafeirws (COVID-19). 


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram