Bwletin Newyddion: Gofyn i bobl ddiogelu Cymru wrth i fesurau lefel rhybudd 2 aros yn eu lle; Lefel rhybudd 2; NEGESEUON ATGOFFA COVID; Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) COVID-19; Datganiad Ysgrifenedig: Newidiadau i Deithio Rhyngwladol

Croeso Cymru
Newyddion diwydiant

Dragon Logo

Newyddion i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru

I gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr, cliciwch yma. 

Yn cael trafferth i weld yr e-bost yma, neu i’w rannu, edrychwch arno ar-lein.   

07 Ionawr 2022


corona

Gofyn i bobl ddiogelu Cymru wrth i fesurau lefel rhybudd 2 aros yn eu lle

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gofyn i bobl barhau i gymryd camau i ddiogelu ei gilydd a diogelu Cymru rhag y don o achosion Omicron.

Mae wedi cadarnhau y bydd mesurau lefel rhybudd 2 yn aros yn eu lle yng Nghymru yn dilyn canlyniad yr adolygiad diweddaraf o’r rheoliadau. Mae achosion o’r coronafeirws wedi codi'n sydyn i'w lefelau uchaf erioed wrth i'r don Omicron gynyddu ledled Cymru yn ystod y cyfnod ar ôl y Nadolig. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mwy na 2,200 o achosion fesul 100,000 o bobl yng Nghymru. Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae'r don Omicron yn golygu ein bod ni i gyd yn wynebu mis anodd o'n blaenau. Rydym eisoes yn gweld cyfraddau eithriadol o uchel o achosion mewn cymunedau a rhaid inni fod yn barod i achosion godi hyd yn oed yn uwch, yn union fel y maent mewn mannau eraill yn y DU. “Mae’n bosibl nad yw'r amrywiolyn hwn mor ddifrifol ag yr oeddem wedi'i ofni i ddechrau ond mae'r cyflymder y mae'n teithio a pha mor heintus ydyw yn parhau i fod yn destun pryder. “Mae hynny'n ei gwneud yn hanfodol ein bod i gyd yn cymryd camau i ddiogelu ein  gilydd. Bydd y pethau sydd wedi helpu i'n diogelu ni i gyd drwy gydol y pandemig yn parhau i'n diogelu yn awr. “Mae hyn yn cynnwys cael eich brechu a gwneud eich pigiad atgyfnerthu yn flaenoriaeth, cyfyngu ar nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw nad ydych chi'n byw gyda nhw, a chymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan a chymysgu ag eraill. “Drwy gydweithio, byddwn yn diogelu ein gilydd ac yn diogelu Cymru.”

Ar lefel rhybudd 2 rhaid i bobl wneud y canlynol:

  • Gwisgo gorchudd wyneb (oni bai bod ganddynt esgus rhesymol i beidio â gwisgo gorchudd wyneb) ym mhob lle cyhoeddus dan do, gan gynnwys mewn tafarn, caffi neu fwyty pan na fyddwch yn eistedd.  
  • Peidio â chwrdd â mwy na 5 o bobl eraill mewn caffi, bwyty, tafarn neu le cyhoeddus arall (heblaw am eich aelwyd os yw eich aelwyd yn fwy na hyn). Mae hyn yn berthnasol mewn ardaloedd dan do ac awyr agored yn y safleoedd hyn.  
  • Gweithio gartref os ydynt yn medru.  
  • Hunanynysu am 7 diwrnod os ydynt yn cael canlyniad prawf positif am COVID-19. Dylai pobl gymryd prawf llif unffordd ar ddiwrnod 6 a 7. Os yw'r naill brawf neu'r llall yn bositif, dylent barhau i hunanynysu nes iddynt gael 2 brawf llif unffordd negatif, neu ar ôl diwrnod 10, pa un bynnag sydd gynharaf.  
  • Peidio â chymryd rhan mewn digwyddiad wedi’i drefnu o dan do sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl neu ddigwyddiad wedi’i drefnu yn yr awyr agored sy’n cynnwys mwy na 50 o bobl. Rhaid i bob digwyddiad wedi’i drefnu gael ei drefnu gan gorff cyfrifol a rhaid llunio asesiad risg.

Mae pobl hefyd yn cael eu hannog i ddilyn canllawiau cryfach i'w helpu i gadw'n ddiogel gartref. Mae hyn yn cynnwys cyfyngu ar nifer y bobl y maent yn cwrdd â nhw nad ydynt yn byw gyda nhw, profi cyn cymdeithasu drwy gymryd prawf llif unffordd cyn mynd allan, cwrdd â phobl yn yr awyr agored lle bynnag y bo modd a sicrhau bod mannau dan do wedi'u hawyru'n dda.

Mae rhagor o fanylion hefyd ar gael ar: Datganiad Ysgrifenedig: Adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (7 Ionawr 2022) | LLYW.CYMRU.


Lefel rhybudd 2

Y mesurau perthnasol ar gyfer lefel rhybudd 2:


NEGESEUON ATGOFFA COVID-19:

Mesurau Rhesymol i Leihau’r Coronafeirws

Gallwch weld cyngor i fusnesau a sefydliadau ynghylch mesurau rhesymol i’w cymryd i leihau risg y coronafeirws am Llyw.Cymru.

Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am awyru, lleihau capasiti, atal torfeydd, glanweithdra, lefelau sain a helpu’r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu.

Diogelu Cymru – yn y gwaith

Os ydych chi'n ystyried beth sydd angen i chi ei wneud i gadw'ch gweithlu'n ddiogel yn y gwaith, ewch i wefan Busnes Cymru am ganllawiau manwl, enghreifftiau ac adnoddau.

Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo

Mae gwybodaeth am sut mae’n rhaid i fusnesau a threfnwyr digwyddiadau wirio statws COVID-19 eu cwsmeriaid i’w gweld yn Llyw.Cymru.

Gallwch lawrlwytho Pàs COVID y GIG: pecyn hyrwyddo o Llyw.Cymru. Anogir busnesau i arddangos a rhannu'r posteri, lluniau a fideos hyn i hyrwyddo ac esbonio Pàs COVID y GIG


Cymorth Busnes Cronfa Cadernid Economaidd (ERF) COVID-19

Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi'i thargedu at fusnesau a sefydliadau yn y sectorau lletygarwch, hamdden ac atyniadau a'u cadwyni cyflenwi, sydd wedi'u heffeithio’n sylweddol gan ostyngiad o fwy na 60% o drosiant rhwng 13 Rhagfyr 2021 a 14 Chwefror 2022.

Bydd ceisiadau am y gronfa hon yn dechrau agor o'r wythnos sy'n dechrau ar 17 Ionawr 2022 a byddant yn parhau ar agor am bythefnos.

Cewch ragor o wybodaeth ar wefan Busnes Cymru.


Datganiad Ysgrifenedig: Newidiadau i Deithio Rhyngwladol

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (5 Ionawr 2022):

Yn sgil y risgiau parhaus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws, gan gynnwys yr amrywiolyn newydd omicron, sydd wedi dod i’r amlwg yn gyflym yn ddiweddar, rydym yn parhau i gynghori pobl i beidio â theithio dramor ar hyn o bryd oni bai bod hynny’n hanfodol.

Ychydig wythnosau yn unig ar ôl iddo ddod i sylw Sefydliad Iechyd y Byd, mae omicron wedi lledaenu o gwmpas y byd, a bellach dyma’r amrywiolyn cryfaf o’r feirws yn y DU.

Yn unol â phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, rwyf heddiw, yn anfoddog, wedi cytuno i ddileu’r gofynion i deithwyr sydd wedi’u brechu’n llawn a phobl dan 18 oed wneud prawf cyn ymadael a phrawf PCR diwrnod 2 pan fyddant yn cyrraedd y DU.

Bydd angen i bob teithiwr sydd wedi’i frechu’n llawn wneud prawf dyfais llif unffordd (LFD) ar ddiwrnod 2, ac os bydd yn bositif, prawf PCR dilynol er mwyn galluogi dilyniant genom i gael ei gynnal. Mae’r gofyniad i hunanynysu hyd nes y ceir prawf negatif hefyd wedi cael ei ddileu.

Mae’r gofynion ar gyfer teithwyr sydd heb eu brechu yn parhau heb eu newid.

Bydd y newidiadau hyn dechrau dod i rym o 4am ddydd Gwener 7 Ionawr. Caiff profion llif unffordd eu derbyn fel profion ar ôl cyrraedd o 4am ddydd Sul 9 Ionawr.

Darllenwch y cyhoeddiad yn llawn ar Llyw.Cymru.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch COVID-19

Gan fod pob safle yn wahanol, dylai busnesau ddarllen pob canllaw.  Mae’r hyn yn parhau i gael eu diweddaru felly gwiriwch hwy yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf. 


Mynnwch yr wybodaeth ddiweddaraf drwy newyddion y diwydiant

Gallwch weld bwletinau ynghylch y Coronafeirws (COVID-19) ar dudalen Bwletinau’r Diwydiant Twristiaeth ynghylch y Coronafeirws (COVID-19)


Mae Busnes Cymru yn rhoi cymorth a chyngor wedi'i deilwra i fusnesau ynglŷn â delio â coronafeirws, o gynllunio ariannol a chynllunio cadwyni cyflenwi i gael cyngor ar faterion staffio. Cynghorir busnesau twristiaeth a rhanddeiliaid yng Nghymru sy'n dymuno cael canllawiau penodol i ymweld â gwefan Busnes Cymru neu ffonio llinell gymorth busnes Cymru ar 03000 6 03000, ac ymweld yn rheolaidd gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am iechyd y cyhoedd i chi, eich staff a'ch ymwelwyr.


HomepageFacebookTwitterInstagram